Black Lion, Y Bontnewydd
Ceir sôn am Black Lion mor gynnar â 1804, pan fu farw Cadwaladr Williams, "victualler" (sef darparwr bwyd a diod), The Black Lion, Bontnewydd. Mae dogfennau parthed gweinyddu ei eiddo wedi ei farwolaeth yn y Llyfrgell Genedlaethol.[1] Mae'r cyfeiriad hwn yn tueddu i awgrymu mai tafarnwr o ryw fath oedd o, a'r enw'n sicr yn awgrymu mai tafarn oedd ei gartref.
Ar fap a rhestr pennu degwm plwyf Llanwnda, 1838, fodd bynnag, mae Black Lion yn ymddangos fel fferm o ryw 20 acer, a'r tŷ'n sefyll ar y bryn uwchben Plas-y-bont - ar (neu ger) safle tŷ modern Llamedos heddiw. Rhan o dir y fferm oedd clwt wrth dalcen y bont dros Afon Gwyrfai lle saif siop y pentref heddiw, safle addas iawn ar gyfer tafarn. Yr adeg honno, Jane Hughes oedd perchennog Black Lion, a John Parry oedd tenant yr 20 acer.[2]
Ni cheir ond ychydig o gyfeiriadau pendant at Black Lion fel tafarn, er gwaethaf yr enw awgrymog. Ym 1851, John Ellis, gŵr 42 oed a'i wraig Ellen oedd yn byw yno, ond disgrifiwyd John Ellis fel ffarmwr ac nid tafarnwr. Ym 1861, rhestrir Ellen Ellis fel ceidwad tafarn, a nodir bod Black Lion rhywle ymysg tai Pentre Uchaf, Y Bontnewydd. Gwraig weddw ydoedd erbyn hynny, ac roedd ei mab Henry yn ffermio 20 acer.[3]
Clywir sôn yn y papurau newydd ym 1863 bod ffrwgwd wedi digwydd ar ddiwrnod ffair Y Bontnewydd rhwng dynion y pentref a dynion o dref Caernarfon, a bod dyn o'r Plas Mawr, Y Groeslon wedi ei drywanu a bron wedi marw o ganlyniad i'r cwffio. Digwyddodd hyn y tu allan i dafarn y Black Lion yn ôl y papur.[4] Dyma felly ddau ddyddiad penodol ar gyfer y dafarn, sef 1861 ac 1863. O hynny allan, er bod yr enw'n parhau, nid oes sôn bod y Black Lion yn fwy na fferm.Roedd Ellen Ellis yn dal i fyw yno o hyd, ond yn cael ei disgrifio fel ffarmwraig. Ni cheir sôn penodol am y lle dan yr enw Black Lion yng nghyfrifiad 1881, ond nodwyd bod Ellen Ellis, ynghyd â Henry a Mary ei merch, yn byw ym mhentref Bontnewydd, ac yn dal 18 acer o dir, gan gyflogi un labrwr. Rhaid mai byw yn Black Lion oeddynt, gan mai dyna oedd cyfeiriad Ellen Ellis, pan fu farw 5 Rhagfyr 1882, gan adael eiddo gwerth £150.[5]
Ym 1891, am ryw reswm roedd Henry Ellis yn defnyddio ei enw canol, sef Jones, fel cyfenw. Fe'i disgrifiwyd yn nogfen y Cyfrifiad fel ffermwr; roedd yn byw gyda'i wraig Jane yn "Sign", ger y bont yn Y Bontnewydd. Roedd y ddau yno ym 1901 hefyd.[6] Byddai'n anodd cysoni'r enw "Black Lion" gyda'r enw "Sign", er bod y naill a'r llall yn cael eu rhestru yn yr un darn o'r plwyf. Pan aeth ystad Tŷ Coch ar werth ym 1903, nodwyd mewn hysbysebion yn y wasg fod plot adeiladu yn y Black Lion, rhan o fferm Sign, ymysg yr eiddo i'w gwerthu.[7] Ymddengys, felly, fod Black Lion wedi cael ei briodoli i'r darn o dir wrth dalcen y bont, a bod yr enw "Sign" wedi ei fabwysiadu ar gyfer yr 20 acer a oedd yn perthyn i deulu'r Black Lion yn ail hanner y 19g. Gallwn gymryd ymhellach bod tafarn y Black Lion wedi gweithredu wrth y bont am ychydig o gwmpas y flwyddyn 1860, a chyn hynny, ar droad y ganrif, fod tafarn o'r un enw'n weithredol ar yr allt sy'n codi o'r bont. Roedd hynny cyn bod fawr o dai wedi eu hadeiladu ger yr afon. Mae'n bur debyg fod "Sign" yn cyfeirio at arwydd y tu allan i'r dafarn.
Ym 1911, roedd Henry Jones a'i wraig yn dal yn fyw, a hynny yn Black Lion. Yn y Cyfrifiad fe restrir yr eiddo rhwng Pentre Uchaf a dau dŷ Penybont, sydd yn cryfhau'r ddadl mai ar safle siop bresennol y pentref yr oedd adeilad Black Lion.[8]
Cyfeiriadau
- ↑ LlGC, Dogfennau Llys Profiant Bangor B1804/124
- ↑ LlGC, Map a Rhestr rannu'r degwm, plwyf Llanwnda, 1838
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1851-61
- ↑ North Wales Chronicle 30.5.1863, t.14
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1861-81; Rhestr o ddyfarniadau profiant 1883
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1891-1901
- ↑ Caernarvon and Denbigh Herald 14.8.1903, t.5
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1911