Llanwnda (plwyf hanesyddol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
 
(Ni ddangosir y 28 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Llanwnda''' yw un o blwyfi hanesyddol [[Uwchgwyrfai]]. Ystyr yr enw yw ''Eglwys Sant Gwyndaf''. O fewn ffiniau'r plwyf ceir sawl pentref a threflan, sef [[Saron]], [[Dinas]], [[Rhostryfan]],[[Rhosgadfan]], [[Rhos-isaf]], [[Glan-rhyd]], [[Menai View]], rhan o'r [[Dolydd]], a [[Llanwnda(pentref)|Llanwnda]] ei hun. Hyd at flynyddoedd olaf y 20g, roedd rhan o bentref y [[Bontnewydd]] hefyd o fewn ffiniau'r plwyf.
'''Llanwnda''' yw un o blwyfi hanesyddol [[Uwchgwyrfai]]. Ystyr yr enw yw ''Eglwys Sant Gwyndaf''. O fewn ffiniau'r plwyf ceir sawl pentref a threflan, sef [[Saron]], [[Dinas]], [[Rhostryfan]], [[Rhosgadfan]], [[Rhos-isaf]], [[Glan-rhyd]], [[Menai View]], rhan o'r [[Dolydd]], a [[Llanwnda (pentref)|Llanwnda]] ei hun. Hyd at flynyddoedd olaf yr 20g, roedd rhan o bentref y [[Bontnewydd]] hefyd o fewn ffiniau'r plwyf.


==Ffiniau a thirwedd==
==Ffiniau a thirwedd==


Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, Afon Gwyrfai oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i darddiad yn Llyn y Gader hyd y môr, ond trosglwyddwyd darn helaeth rhwng yr afon a chopaon y mynyddoedd i blwyf [[Betws Garmon]] ym 1888. Tua 1990 symudwyd ardal [[Belan]] o Lanwnda i blwyf [[Llandwrog]] a ward Bontnewydd i gymuned [[Y Bontnewydd]] a ffurfiwyd o'r newydd ar y pryd o bobtu'r [[Afon Gwyrfai]]. I'r de, mae'n ffinio â phlwyf Llandwrog, gyda'r [[Afon Carrog]] yn ffin rhyngddynt yn y darn isaf rhwng [[Tryfan]] a'r môr.
Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, [[Afon Gwyrfai]] oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i tharddiad yn Llyn y Gader hyd y môr, ond trosglwyddwyd darn helaeth rhwng yr afon a chopaon y mynyddoedd i blwyf [[Betws Garmon]] ym 1895<ref>Archifdy Caernarfon XPlansS/9</ref>. Tua 1990 symudwyd ardal [[Trwyn Dinlle]] o Lanwnda i blwyf [[Llandwrog]] a ward Bontnewydd i gymuned [[Y Bontnewydd]], a ffurfiwyd o'r newydd ar y pryd o bobtu [[Afon Gwyrfai]]. I'r de, mae'n ffinio â phlwyf Llandwrog, gyda'r [[Afon Carrog]] yn ffin rhyngddynt yn y darn isaf rhwng [[Tryfan]] a'r môr.


Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar [[Y Foryd]] a thraeth ger [[Trwyn Abermenai]], morfa wlyb, tir gweddol ffrwythlon a rhostir yn ymestyn i gopaon mynyddoedd gyda'u gweundir a'u mawnogydd. Roedd hefyd â darn sylweddol o un o brif ddyffrynnoedd Eryri hyd 1888. Llechfaen, ac i raddau llai, ithfaen yw'r graig o dan wyneb y tir yn yr ucheldir; tir tywodlyd gyda llawer o fân gerrig yw llawer o'r tir is.
Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar [[Y Foryd]] a thraeth o dywod a graean ger [[Trwyn Dinlle]] ac [[Abermenai]], morfa gwlyb, tir gweddol ffrwythlon a rhostir yn ymestyn i gopaon mynyddoedd gyda'u gweundir a'u mawnogydd. Roedd darn sylweddol o un o brif ddyffrynnoedd Eryri hefyd yn perthyn iddo hyd 1888. Llechfaen ac, i raddau llai, ithfaen, yw'r graig o dan wyneb y tir yn yr ucheldir; tir tywodlyd gyda llawer o fân gerrig yw llawer o'r tir is.


Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i glwt o goedwig, yn bennaf coedwig gwern a hynny yn y mannau gwlypaf, a rhywfaint o blanhigfwydd coed bytholwyrdd a grëwyd tua chanol y 20g ar y mynydd. Bu llawer o'r ucheldir yn dir agored hyd nes i'r chwareli agor a llawer o dyddynod yn cael eu creu gan y chwarelwyr.
Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i glwt o goedwig, yn bennaf coedlannau gwern a hynny yn y mannau gwlypaf, a rhywfaint o blanhigfeydd coed bytholwyrdd a grëwyd tua chanol yr 20g ar y mynydd. Bu llawer o'r ucheldir yn dir agored nes i'r chwareli agor a llawer o dyddynnod yn cael eu creu ar y comin gan y chwarelwyr.
 
Roedd y plwyf yn rhan o [[Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon]] at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen. 


==Yr eglwys a'i sant==
==Yr eglwys a'i sant==
Codwyd yr eglwys bresennol mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Dywedir mai yn y 13g y cafwyd eglwys o waith cerrig yma am y tro cyntaf. Dymas, mae'n debyg yr eglwys gyntaf i bererinion y canooesoedd gyrraedd ar eu taith i Enlli, wedi iddynt gychwyn o'u harhosfan dros nos yn Llety, Caeathro.  
Codwyd yr [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda|eglwys bresennol]] mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Dywedir mai yn y 13g y cafwyd eglwys o waith cerrig yma am y tro cyntaf. Hon, mae'n debyg, oedd yr eglwys gyntaf i bererinion y canol oesoedd ei chyrraedd ar eu taith i Enlli, wedi iddynt gychwyn o'u harhosfan dros nos yn Llety, Caeathro.  


Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys. Y cynharaf o'r rhai olaf hyn yw olion cist claddu Owen Meredith, a farwodd ym 1612. Nodwedd y gofeb hon yw'r cerflun arni sy'n dangos yr 11 o blant oedd ganddo.
Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys yn yr adeilad presennol. Y cynharaf o'r rhai olaf hyn yw gweddillion cist gladdu Owen Meredith, a fu farw ym 1612. Nodwedd y gofeb hon yw'r cerflun arni sy'n dangos yr 11 o blant oedd ganddo.


Roedd galeri neu oriel yn yr hen eglwys oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei fod wedi ei adfer mor gynnar â 1748.
Roedd galeri, neu oriel, yn yr hen eglwys a oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei bod wedi ei hadfer mor gynnar â 1748.


Cysegrwyd yr eglwys i [[Gwyndaf Sant]] ac mae ''Gwnda'' (yr elfen a geir yn ''Llanwnda'')yn dalfyriad o'r enw hwnnw.  
Cysegrwyd yr eglwys i [[Gwyndaf Sant]] ac mae ''Gwnda'' (yr elfen a geir yn ''Llanwnda'')yn dalfyriad o'r enw hwnnw.  


==Tai pwysig ac enwogion==
==Tai pwysig ac enwogion==
Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr oedd wedi preswylio yn yno. Yn eu mysg, teuluoedd plastai [[Plas Dinas]], [[Plas Bodaden]], [[Plas-yn-Bont]] a'r [[Pengwern]].
Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond bu nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. Yn eu mysg, yr oedd teuluoedd plastai [[Plas Dinas]], [[Bodaden]], [[Plas-y-bont]] a'r [[Pengwern]].


Rhai o enwogion y plwyf oedd:
Rhai o enwogion y plwyf oedd/yw:
* [[Huw Lewis]], awdur ''Perl mewn Adfyd''
* [[Huw Lewis]], awdur ''Perl mewn Adfyd''
* [[Owen Wynne Jones (Glanynys)]]
* [[Owen Wynne Jones (Glasynys)]], storiwr a chasglwr llên gwerin
* Dr [[Kate Roberts]] "brenhines ein ll&ecire;n"
* Dr [[Kate Roberts]] "brenhines ein llên" - awdur nifer helaeth o nofelau a storïau byrion
* [[R. Hughes Williams (Dic Tryfan)]] arloeswr y stori fer
* [[Dewi Hywel Tomos]], llenor, cenedlaetholwr, naturiaethwr, rhedwr, cerddwr a brogarwr
* [[W. Gilbert Williams]], prifathro cyntaf [[Ysgol Felinwnda]], prifathro [[Ysgol Rhostryfan]] wedyn, hanesydd lleol arloesol ac awdur.
* [[R. Hughes Williams (Dic Tryfan)]], arloeswr ym maes y stori fer
* [[J Gwenogfryn Williams]], a breswyliodd am gyfnod yn Graeanfryn, Llanwnda.
* [[W. Gilbert Williams]], prifathro cyntaf [[Ysgol Felinwnda]], prifathro [[Ysgol Rhostryfan]] wedyn, hanesydd lleol arloesol ac awdur  
* [[John Richard Williams (Tryfanwy)]], bardd
* [[Teulu Armstrong-Jones]], Plas Dinas.
* [[Teulu Armstrong-Jones]], Plas Dinas.
* [[Thomas Bulkeley]] o'r Dinas, ac [[Edmund Glynne]], Yr Hendre, arweinyddion y sir ar adeg Cromwell.
* [[Thomas Bulkeley]] o'r Dinas, ac [[Edmund Glynn]], Yr Hendre, arweinyddion y sir adeg Cromwell.
* Yn fwy diweddar, Llanwnda yw cartref y gwleidydd [[Dafydd Wigley]] ac [[Elinor Bennett]], ei wraig, y delynores; y Prifardd [[Geraint Lloyd Owen]], yr Archdderwydd; a'r bardd [[John Hywyn]] a'i ddiweddar wraig, [[Gwenno Hywyn]]. Cafodd yr awdures [[Angharad Tomos]] ei magu yn Llanwnda.
* Yn fwy diweddar, Llanwnda yw cartref y gwleidydd [[Dafydd Wigley]] ac [[Elinor Bennett]], ei wraig, y delynores; y Prifardd [[Geraint Lloyd Owen]], yr Archdderwydd a'r bardd; [[John Hywyn]] a'i ddiweddar wraig, [[Gwenno Hywyn]], awduron ac addysgwyr. Cafodd yr awdures [[Angharad Tomos]] ei magu yn Llanwnda. Yma hefyd yn Y Ficerdy lle roedd ei dad yn Ficer y Plwyf y ganed ac y maged y bardd, llenor a dramodydd [[Aled Jones Williams]].


==Y pentref==
==Y pentref==
Yn groes i bob plwyf arall yn Uwchgwyrfai, nid yw'r eglwys yn sefyll yn y pentref sy'n rhannu enw'r plwyf, ond yn hytrach yn nhreflan [[Dinas]]. Rhoddwyd yr enw 'Llanwnda' ar y casgliad o dai a dyfodd o gwmpas [[Gorsaf reilffordd Llanwnda]]. Yn ogystal â busnes glo, bu yno unwaith gwaith trwsio wagenni rheilffordd, tafarn Yr Afr a swyddfa bost a siop - caeodd y ddwy olaf hyn tua 2005.  
Yn wahanol i bob plwyf arall yn Uwchgwyrfai, nid yw'r eglwys yn sefyll yn y pentref sy'n rhannu enw'r plwyf, ond yn hytrach yn nhreflan [[Dinas]]. Rhoddwyd yr enw 'Llanwnda' ar y casgliad o dai a dyfodd o gwmpas [[Gorsaf reilffordd Llanwnda]]. Yn ogystal â busnes glo, bu yno unwaith waith trwsio wagenni rheilffordd, tafarn Yr Afr a swyddfa bost a siop - caeodd y ddwy olaf hyn tua 2005.
 
Mae erthygl arall yn sôn am y pentref, sef [[Llanwnda (pentref)]], lle ceir manylion pellach am y dreflan honno.


==Nodweddion eraill y plwyf==
==Nodweddion eraill y plwyf==
Yma hefyd y ganed y bardd, y dramodydd a’r  llenor Aled Jones Williams, lle roedd ei dad yn Ficer y Plwyf


==Hanes diweddar==
==Hanes diweddar==


 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]]
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 08:08, 18 Medi 2023

Llanwnda yw un o blwyfi hanesyddol Uwchgwyrfai. Ystyr yr enw yw Eglwys Sant Gwyndaf. O fewn ffiniau'r plwyf ceir sawl pentref a threflan, sef Saron, Dinas, Rhostryfan, Rhosgadfan, Rhos-isaf, Glan-rhyd, Menai View, rhan o'r Dolydd, a Llanwnda ei hun. Hyd at flynyddoedd olaf yr 20g, roedd rhan o bentref y Bontnewydd hefyd o fewn ffiniau'r plwyf.

Ffiniau a thirwedd

Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, Afon Gwyrfai oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i tharddiad yn Llyn y Gader hyd y môr, ond trosglwyddwyd darn helaeth rhwng yr afon a chopaon y mynyddoedd i blwyf Betws Garmon ym 1895[1]. Tua 1990 symudwyd ardal Trwyn Dinlle o Lanwnda i blwyf Llandwrog a ward Bontnewydd i gymuned Y Bontnewydd, a ffurfiwyd o'r newydd ar y pryd o bobtu Afon Gwyrfai. I'r de, mae'n ffinio â phlwyf Llandwrog, gyda'r Afon Carrog yn ffin rhyngddynt yn y darn isaf rhwng Tryfan a'r môr.

Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar Y Foryd a thraeth o dywod a graean ger Trwyn Dinlle ac Abermenai, morfa gwlyb, tir gweddol ffrwythlon a rhostir yn ymestyn i gopaon mynyddoedd gyda'u gweundir a'u mawnogydd. Roedd darn sylweddol o un o brif ddyffrynnoedd Eryri hefyd yn perthyn iddo hyd 1888. Llechfaen ac, i raddau llai, ithfaen, yw'r graig o dan wyneb y tir yn yr ucheldir; tir tywodlyd gyda llawer o fân gerrig yw llawer o'r tir is.

Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i glwt o goedwig, yn bennaf coedlannau gwern a hynny yn y mannau gwlypaf, a rhywfaint o blanhigfeydd coed bytholwyrdd a grëwyd tua chanol yr 20g ar y mynydd. Bu llawer o'r ucheldir yn dir agored nes i'r chwareli agor a llawer o dyddynnod yn cael eu creu ar y comin gan y chwarelwyr.

Roedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.

Yr eglwys a'i sant

Codwyd yr eglwys bresennol mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Dywedir mai yn y 13g y cafwyd eglwys o waith cerrig yma am y tro cyntaf. Hon, mae'n debyg, oedd yr eglwys gyntaf i bererinion y canol oesoedd ei chyrraedd ar eu taith i Enlli, wedi iddynt gychwyn o'u harhosfan dros nos yn Llety, Caeathro.

Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys yn yr adeilad presennol. Y cynharaf o'r rhai olaf hyn yw gweddillion cist gladdu Owen Meredith, a fu farw ym 1612. Nodwedd y gofeb hon yw'r cerflun arni sy'n dangos yr 11 o blant oedd ganddo.

Roedd galeri, neu oriel, yn yr hen eglwys a oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei bod wedi ei hadfer mor gynnar â 1748.

Cysegrwyd yr eglwys i Gwyndaf Sant ac mae Gwnda (yr elfen a geir yn Llanwnda)yn dalfyriad o'r enw hwnnw.

Tai pwysig ac enwogion

Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond bu nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. Yn eu mysg, yr oedd teuluoedd plastai Plas Dinas, Bodaden, Plas-y-bont a'r Pengwern.

Rhai o enwogion y plwyf oedd/yw:

Y pentref

Yn wahanol i bob plwyf arall yn Uwchgwyrfai, nid yw'r eglwys yn sefyll yn y pentref sy'n rhannu enw'r plwyf, ond yn hytrach yn nhreflan Dinas. Rhoddwyd yr enw 'Llanwnda' ar y casgliad o dai a dyfodd o gwmpas Gorsaf reilffordd Llanwnda. Yn ogystal â busnes glo, bu yno unwaith waith trwsio wagenni rheilffordd, tafarn Yr Afr a swyddfa bost a siop - caeodd y ddwy olaf hyn tua 2005.

Mae erthygl arall yn sôn am y pentref, sef Llanwnda (pentref), lle ceir manylion pellach am y dreflan honno.

Nodweddion eraill y plwyf

Yma hefyd y ganed y bardd, y dramodydd a’r llenor Aled Jones Williams, lle roedd ei dad yn Ficer y Plwyf

Hanes diweddar

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon XPlansS/9