Llanwnda (plwyf hanesyddol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 11 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Llanwnda''' yw un o blwyfi hanesyddol [[Uwchgwyrfai]]. Ystyr yr enw yw ''Eglwys Sant Gwyndaf''. O fewn ffiniau'r plwyf ceir sawl pentref a threflan, sef [[Saron]], [[Dinas]], [[Rhostryfan]],[[Rhosgadfan]], [[Rhos-isaf]], [[Glan-rhyd]], [[Menai View]], rhan o'r [[Dolydd]], a [[Llanwnda (pentref)|Llanwnda]] ei hun. Hyd at flynyddoedd olaf | '''Llanwnda''' yw un o blwyfi hanesyddol [[Uwchgwyrfai]]. Ystyr yr enw yw ''Eglwys Sant Gwyndaf''. O fewn ffiniau'r plwyf ceir sawl pentref a threflan, sef [[Saron]], [[Dinas]], [[Rhostryfan]], [[Rhosgadfan]], [[Rhos-isaf]], [[Glan-rhyd]], [[Menai View]], rhan o'r [[Dolydd]], a [[Llanwnda (pentref)|Llanwnda]] ei hun. Hyd at flynyddoedd olaf yr 20g, roedd rhan o bentref y [[Bontnewydd]] hefyd o fewn ffiniau'r plwyf. | ||
==Ffiniau a thirwedd== | ==Ffiniau a thirwedd== | ||
Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, [[Afon Gwyrfai]] oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i | Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, [[Afon Gwyrfai]] oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i tharddiad yn Llyn y Gader hyd y môr, ond trosglwyddwyd darn helaeth rhwng yr afon a chopaon y mynyddoedd i blwyf [[Betws Garmon]] ym 1895<ref>Archifdy Caernarfon XPlansS/9</ref>. Tua 1990 symudwyd ardal [[Trwyn Dinlle]] o Lanwnda i blwyf [[Llandwrog]] a ward Bontnewydd i gymuned [[Y Bontnewydd]], a ffurfiwyd o'r newydd ar y pryd o bobtu [[Afon Gwyrfai]]. I'r de, mae'n ffinio â phlwyf Llandwrog, gyda'r [[Afon Carrog]] yn ffin rhyngddynt yn y darn isaf rhwng [[Tryfan]] a'r môr. | ||
Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar [[Y Foryd]] a thraeth o dywod a graean ger [[Trwyn Dinlle]] ac [[Abermenai]], morfa | Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar [[Y Foryd]] a thraeth o dywod a graean ger [[Trwyn Dinlle]] ac [[Abermenai]], morfa gwlyb, tir gweddol ffrwythlon a rhostir yn ymestyn i gopaon mynyddoedd gyda'u gweundir a'u mawnogydd. Roedd darn sylweddol o un o brif ddyffrynnoedd Eryri hefyd yn perthyn iddo hyd 1888. Llechfaen ac, i raddau llai, ithfaen, yw'r graig o dan wyneb y tir yn yr ucheldir; tir tywodlyd gyda llawer o fân gerrig yw llawer o'r tir is. | ||
Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i glwt o goedwig, yn bennaf | Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i glwt o goedwig, yn bennaf coedlannau gwern a hynny yn y mannau gwlypaf, a rhywfaint o blanhigfeydd coed bytholwyrdd a grëwyd tua chanol yr 20g ar y mynydd. Bu llawer o'r ucheldir yn dir agored nes i'r chwareli agor a llawer o dyddynnod yn cael eu creu ar y comin gan y chwarelwyr. | ||
Roedd y plwyf yn rhan o [[Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon]] at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen. | |||
==Yr eglwys a'i sant== | ==Yr eglwys a'i sant== | ||
Codwyd yr [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda|eglwys bresennol]] mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Dywedir mai yn y 13g y cafwyd eglwys o waith cerrig yma am y tro cyntaf. | Codwyd yr [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda|eglwys bresennol]] mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Dywedir mai yn y 13g y cafwyd eglwys o waith cerrig yma am y tro cyntaf. Hon, mae'n debyg, oedd yr eglwys gyntaf i bererinion y canol oesoedd ei chyrraedd ar eu taith i Enlli, wedi iddynt gychwyn o'u harhosfan dros nos yn Llety, Caeathro. | ||
Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys. Y cynharaf o'r rhai olaf hyn yw | Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys yn yr adeilad presennol. Y cynharaf o'r rhai olaf hyn yw gweddillion cist gladdu Owen Meredith, a fu farw ym 1612. Nodwedd y gofeb hon yw'r cerflun arni sy'n dangos yr 11 o blant oedd ganddo. | ||
Roedd galeri neu oriel yn yr hen eglwys oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei | Roedd galeri, neu oriel, yn yr hen eglwys a oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei bod wedi ei hadfer mor gynnar â 1748. | ||
Cysegrwyd yr eglwys i [[Gwyndaf Sant]] ac mae ''Gwnda'' (yr elfen a geir yn ''Llanwnda'')yn dalfyriad o'r enw hwnnw. | Cysegrwyd yr eglwys i [[Gwyndaf Sant]] ac mae ''Gwnda'' (yr elfen a geir yn ''Llanwnda'')yn dalfyriad o'r enw hwnnw. | ||
==Tai pwysig ac enwogion== | ==Tai pwysig ac enwogion== | ||
Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond | Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond bu nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. Yn eu mysg, yr oedd teuluoedd plastai [[Plas Dinas]], [[Bodaden]], [[Plas-y-bont]] a'r [[Pengwern]]. | ||
Rhai o enwogion y plwyf oedd/yw: | Rhai o enwogion y plwyf oedd/yw: | ||
* [[Huw Lewis]], awdur ''Perl mewn Adfyd'' | * [[Huw Lewis]], awdur ''Perl mewn Adfyd'' | ||
* [[Owen Wynne Jones ( | * [[Owen Wynne Jones (Glasynys)]], storiwr a chasglwr llên gwerin | ||
* Dr [[Kate Roberts]] "brenhines ein | * Dr [[Kate Roberts]] "brenhines ein llên" - awdur nifer helaeth o nofelau a storïau byrion | ||
* [[Dewi Hywel Tomos]], llenor, cenedlaetholwr, naturiaethwr, rhedwr, cerddwr a brogarwr | * [[Dewi Hywel Tomos]], llenor, cenedlaetholwr, naturiaethwr, rhedwr, cerddwr a brogarwr | ||
* [[R. Hughes Williams (Dic Tryfan)]] arloeswr y stori fer | * [[R. Hughes Williams (Dic Tryfan)]], arloeswr ym maes y stori fer | ||
* [[W. Gilbert Williams]], prifathro cyntaf [[Ysgol Felinwnda]], prifathro [[Ysgol Rhostryfan]] wedyn, hanesydd lleol arloesol ac awdur | * [[W. Gilbert Williams]], prifathro cyntaf [[Ysgol Felinwnda]], prifathro [[Ysgol Rhostryfan]] wedyn, hanesydd lleol arloesol ac awdur | ||
* [[John Richard Williams (Tryfanwy)]], bardd | |||
* [[John Richard Williams (Tryfanwy)]] | |||
* [[Teulu Armstrong-Jones]], Plas Dinas. | * [[Teulu Armstrong-Jones]], Plas Dinas. | ||
* [[Thomas Bulkeley]] o'r Dinas, ac [[Edmund Glynn]], Yr Hendre, arweinyddion y sir adeg Cromwell. | * [[Thomas Bulkeley]] o'r Dinas, ac [[Edmund Glynn]], Yr Hendre, arweinyddion y sir adeg Cromwell. | ||
* Yn fwy diweddar, Llanwnda yw cartref y gwleidydd [[Dafydd Wigley]] ac [[Elinor Bennett]], ei wraig, y delynores; y Prifardd [[Geraint Lloyd Owen]], yr Archdderwydd | * Yn fwy diweddar, Llanwnda yw cartref y gwleidydd [[Dafydd Wigley]] ac [[Elinor Bennett]], ei wraig, y delynores; y Prifardd [[Geraint Lloyd Owen]], yr Archdderwydd a'r bardd; [[John Hywyn]] a'i ddiweddar wraig, [[Gwenno Hywyn]], awduron ac addysgwyr. Cafodd yr awdures [[Angharad Tomos]] ei magu yn Llanwnda. Yma hefyd yn Y Ficerdy lle roedd ei dad yn Ficer y Plwyf y ganed ac y maged y bardd, llenor a dramodydd [[Aled Jones Williams]]. | ||
==Y pentref== | ==Y pentref== | ||
Yn | Yn wahanol i bob plwyf arall yn Uwchgwyrfai, nid yw'r eglwys yn sefyll yn y pentref sy'n rhannu enw'r plwyf, ond yn hytrach yn nhreflan [[Dinas]]. Rhoddwyd yr enw 'Llanwnda' ar y casgliad o dai a dyfodd o gwmpas [[Gorsaf reilffordd Llanwnda]]. Yn ogystal â busnes glo, bu yno unwaith waith trwsio wagenni rheilffordd, tafarn Yr Afr a swyddfa bost a siop - caeodd y ddwy olaf hyn tua 2005. | ||
Mae | Mae erthygl arall yn sôn am y pentref, sef [[Llanwnda (pentref)]], lle ceir manylion pellach am y dreflan honno. | ||
==Nodweddion eraill y plwyf== | ==Nodweddion eraill y plwyf== | ||
Yma hefyd y ganed y bardd, y dramodydd a’r llenor Aled Jones Williams, lle roedd ei dad yn Ficer y Plwyf | |||
==Hanes diweddar== | ==Hanes diweddar== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 08:08, 18 Medi 2023
Llanwnda yw un o blwyfi hanesyddol Uwchgwyrfai. Ystyr yr enw yw Eglwys Sant Gwyndaf. O fewn ffiniau'r plwyf ceir sawl pentref a threflan, sef Saron, Dinas, Rhostryfan, Rhosgadfan, Rhos-isaf, Glan-rhyd, Menai View, rhan o'r Dolydd, a Llanwnda ei hun. Hyd at flynyddoedd olaf yr 20g, roedd rhan o bentref y Bontnewydd hefyd o fewn ffiniau'r plwyf.
Ffiniau a thirwedd
Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, Afon Gwyrfai oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i tharddiad yn Llyn y Gader hyd y môr, ond trosglwyddwyd darn helaeth rhwng yr afon a chopaon y mynyddoedd i blwyf Betws Garmon ym 1895[1]. Tua 1990 symudwyd ardal Trwyn Dinlle o Lanwnda i blwyf Llandwrog a ward Bontnewydd i gymuned Y Bontnewydd, a ffurfiwyd o'r newydd ar y pryd o bobtu Afon Gwyrfai. I'r de, mae'n ffinio â phlwyf Llandwrog, gyda'r Afon Carrog yn ffin rhyngddynt yn y darn isaf rhwng Tryfan a'r môr.
Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar Y Foryd a thraeth o dywod a graean ger Trwyn Dinlle ac Abermenai, morfa gwlyb, tir gweddol ffrwythlon a rhostir yn ymestyn i gopaon mynyddoedd gyda'u gweundir a'u mawnogydd. Roedd darn sylweddol o un o brif ddyffrynnoedd Eryri hefyd yn perthyn iddo hyd 1888. Llechfaen ac, i raddau llai, ithfaen, yw'r graig o dan wyneb y tir yn yr ucheldir; tir tywodlyd gyda llawer o fân gerrig yw llawer o'r tir is.
Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i glwt o goedwig, yn bennaf coedlannau gwern a hynny yn y mannau gwlypaf, a rhywfaint o blanhigfeydd coed bytholwyrdd a grëwyd tua chanol yr 20g ar y mynydd. Bu llawer o'r ucheldir yn dir agored nes i'r chwareli agor a llawer o dyddynnod yn cael eu creu ar y comin gan y chwarelwyr.
Roedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.
Yr eglwys a'i sant
Codwyd yr eglwys bresennol mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Dywedir mai yn y 13g y cafwyd eglwys o waith cerrig yma am y tro cyntaf. Hon, mae'n debyg, oedd yr eglwys gyntaf i bererinion y canol oesoedd ei chyrraedd ar eu taith i Enlli, wedi iddynt gychwyn o'u harhosfan dros nos yn Llety, Caeathro.
Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys yn yr adeilad presennol. Y cynharaf o'r rhai olaf hyn yw gweddillion cist gladdu Owen Meredith, a fu farw ym 1612. Nodwedd y gofeb hon yw'r cerflun arni sy'n dangos yr 11 o blant oedd ganddo.
Roedd galeri, neu oriel, yn yr hen eglwys a oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei bod wedi ei hadfer mor gynnar â 1748.
Cysegrwyd yr eglwys i Gwyndaf Sant ac mae Gwnda (yr elfen a geir yn Llanwnda)yn dalfyriad o'r enw hwnnw.
Tai pwysig ac enwogion
Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond bu nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. Yn eu mysg, yr oedd teuluoedd plastai Plas Dinas, Bodaden, Plas-y-bont a'r Pengwern.
Rhai o enwogion y plwyf oedd/yw:
- Huw Lewis, awdur Perl mewn Adfyd
- Owen Wynne Jones (Glasynys), storiwr a chasglwr llên gwerin
- Dr Kate Roberts "brenhines ein llên" - awdur nifer helaeth o nofelau a storïau byrion
- Dewi Hywel Tomos, llenor, cenedlaetholwr, naturiaethwr, rhedwr, cerddwr a brogarwr
- R. Hughes Williams (Dic Tryfan), arloeswr ym maes y stori fer
- W. Gilbert Williams, prifathro cyntaf Ysgol Felinwnda, prifathro Ysgol Rhostryfan wedyn, hanesydd lleol arloesol ac awdur
- John Richard Williams (Tryfanwy), bardd
- Teulu Armstrong-Jones, Plas Dinas.
- Thomas Bulkeley o'r Dinas, ac Edmund Glynn, Yr Hendre, arweinyddion y sir adeg Cromwell.
- Yn fwy diweddar, Llanwnda yw cartref y gwleidydd Dafydd Wigley ac Elinor Bennett, ei wraig, y delynores; y Prifardd Geraint Lloyd Owen, yr Archdderwydd a'r bardd; John Hywyn a'i ddiweddar wraig, Gwenno Hywyn, awduron ac addysgwyr. Cafodd yr awdures Angharad Tomos ei magu yn Llanwnda. Yma hefyd yn Y Ficerdy lle roedd ei dad yn Ficer y Plwyf y ganed ac y maged y bardd, llenor a dramodydd Aled Jones Williams.
Y pentref
Yn wahanol i bob plwyf arall yn Uwchgwyrfai, nid yw'r eglwys yn sefyll yn y pentref sy'n rhannu enw'r plwyf, ond yn hytrach yn nhreflan Dinas. Rhoddwyd yr enw 'Llanwnda' ar y casgliad o dai a dyfodd o gwmpas Gorsaf reilffordd Llanwnda. Yn ogystal â busnes glo, bu yno unwaith waith trwsio wagenni rheilffordd, tafarn Yr Afr a swyddfa bost a siop - caeodd y ddwy olaf hyn tua 2005.
Mae erthygl arall yn sôn am y pentref, sef Llanwnda (pentref), lle ceir manylion pellach am y dreflan honno.
Nodweddion eraill y plwyf
Yma hefyd y ganed y bardd, y dramodydd a’r llenor Aled Jones Williams, lle roedd ei dad yn Ficer y Plwyf
Hanes diweddar
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Caernarfon XPlansS/9