Llanwnda (plwyf hanesyddol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 33: Llinell 33:
* [[Teulu Armstrong-Jones]], Plas Dinas.
* [[Teulu Armstrong-Jones]], Plas Dinas.
* [[Thomas Bulkeley]] o'r Dinas, ac [[Edmund Glynn]], Yr Hendre, arweinyddion y sir adeg Cromwell.
* [[Thomas Bulkeley]] o'r Dinas, ac [[Edmund Glynn]], Yr Hendre, arweinyddion y sir adeg Cromwell.
* Yn fwy diweddar, Llanwnda yw cartref y gwleidydd [[Dafydd Wigley]] ac [[Elinor Bennett]], ei wraig, y delynores; y Prifardd [[Geraint Lloyd Owen]], yr Archdderwydd a'r bardd; [[John Hywyn]] a'i ddiweddar wraig, [[Gwenno Hywyn]], awduron ac addysgwyr. Cafodd yr awdures [[Angharad Tomos]] ei magu yn Llanwnda.
* Yn fwy diweddar, Llanwnda yw cartref y gwleidydd [[Dafydd Wigley]] ac [[Elinor Bennett]], ei wraig, y delynores; y Prifardd [[Geraint Lloyd Owen]], yr Archdderwydd a'r bardd; [[John Hywyn]] a'i ddiweddar wraig, [[Gwenno Hywyn]], awduron ac addysgwyr. Cafodd yr awdures [[Angharad Tomos]] ei magu yn Llanwnda. Yma hefyd yn Y Ficerdy lle roedd ei dad yn Ficer y Plwyf y ganed ac y maged y bardd, llenor a dramodydd [[Aled Jones Williams]].


==Y pentref==
==Y pentref==

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:08, 18 Medi 2023

Llanwnda yw un o blwyfi hanesyddol Uwchgwyrfai. Ystyr yr enw yw Eglwys Sant Gwyndaf. O fewn ffiniau'r plwyf ceir sawl pentref a threflan, sef Saron, Dinas, Rhostryfan, Rhosgadfan, Rhos-isaf, Glan-rhyd, Menai View, rhan o'r Dolydd, a Llanwnda ei hun. Hyd at flynyddoedd olaf yr 20g, roedd rhan o bentref y Bontnewydd hefyd o fewn ffiniau'r plwyf.

Ffiniau a thirwedd

Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, Afon Gwyrfai oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i tharddiad yn Llyn y Gader hyd y môr, ond trosglwyddwyd darn helaeth rhwng yr afon a chopaon y mynyddoedd i blwyf Betws Garmon ym 1895[1]. Tua 1990 symudwyd ardal Trwyn Dinlle o Lanwnda i blwyf Llandwrog a ward Bontnewydd i gymuned Y Bontnewydd, a ffurfiwyd o'r newydd ar y pryd o bobtu Afon Gwyrfai. I'r de, mae'n ffinio â phlwyf Llandwrog, gyda'r Afon Carrog yn ffin rhyngddynt yn y darn isaf rhwng Tryfan a'r môr.

Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar Y Foryd a thraeth o dywod a graean ger Trwyn Dinlle ac Abermenai, morfa gwlyb, tir gweddol ffrwythlon a rhostir yn ymestyn i gopaon mynyddoedd gyda'u gweundir a'u mawnogydd. Roedd darn sylweddol o un o brif ddyffrynnoedd Eryri hefyd yn perthyn iddo hyd 1888. Llechfaen ac, i raddau llai, ithfaen, yw'r graig o dan wyneb y tir yn yr ucheldir; tir tywodlyd gyda llawer o fân gerrig yw llawer o'r tir is.

Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i glwt o goedwig, yn bennaf coedlannau gwern a hynny yn y mannau gwlypaf, a rhywfaint o blanhigfeydd coed bytholwyrdd a grëwyd tua chanol yr 20g ar y mynydd. Bu llawer o'r ucheldir yn dir agored nes i'r chwareli agor a llawer o dyddynnod yn cael eu creu ar y comin gan y chwarelwyr.

Roedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.

Yr eglwys a'i sant

Codwyd yr eglwys bresennol mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Dywedir mai yn y 13g y cafwyd eglwys o waith cerrig yma am y tro cyntaf. Hon, mae'n debyg, oedd yr eglwys gyntaf i bererinion y canol oesoedd ei chyrraedd ar eu taith i Enlli, wedi iddynt gychwyn o'u harhosfan dros nos yn Llety, Caeathro.

Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys yn yr adeilad presennol. Y cynharaf o'r rhai olaf hyn yw gweddillion cist gladdu Owen Meredith, a fu farw ym 1612. Nodwedd y gofeb hon yw'r cerflun arni sy'n dangos yr 11 o blant oedd ganddo.

Roedd galeri, neu oriel, yn yr hen eglwys a oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei bod wedi ei hadfer mor gynnar â 1748.

Cysegrwyd yr eglwys i Gwyndaf Sant ac mae Gwnda (yr elfen a geir yn Llanwnda)yn dalfyriad o'r enw hwnnw.

Tai pwysig ac enwogion

Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond bu nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. Yn eu mysg, yr oedd teuluoedd plastai Plas Dinas, Bodaden, Plas-y-bont a'r Pengwern.

Rhai o enwogion y plwyf oedd/yw:

Y pentref

Yn wahanol i bob plwyf arall yn Uwchgwyrfai, nid yw'r eglwys yn sefyll yn y pentref sy'n rhannu enw'r plwyf, ond yn hytrach yn nhreflan Dinas. Rhoddwyd yr enw 'Llanwnda' ar y casgliad o dai a dyfodd o gwmpas Gorsaf reilffordd Llanwnda. Yn ogystal â busnes glo, bu yno unwaith waith trwsio wagenni rheilffordd, tafarn Yr Afr a swyddfa bost a siop - caeodd y ddwy olaf hyn tua 2005.

Mae erthygl arall yn sôn am y pentref, sef Llanwnda (pentref), lle ceir manylion pellach am y dreflan honno.

Nodweddion eraill y plwyf

Yma hefyd y ganed y bardd, y dramodydd a’r llenor Aled Jones Williams, lle roedd ei dad yn Ficer y Plwyf

Hanes diweddar

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon XPlansS/9