Crefftwyr a Masnachwyr Uwchgwyrfai, 1868

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:49, 23 Hydref 2025 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Isod gwelir rhestr Crefftwyr a Masnachwyr yn Uwchgwyrfai a godwyd o Gyfarwyddiadur Masnach Slater, 1868 sydd yn rhoi syniad o'r ystod o alwedigaethau a busnesau, ar wahân i chwarelydda ac amaethu, a oedd yn bodoli yn y cwmwd tua 150 o flynyddoedd yn ôl.

Mae ar bob cymuned angen ei masnachwyr a'i chrefftwyr er mwyn i bobl fedru cael yr angenrheidiau hynny nad oes modd eu cynhyrchu gartref. Bu crefftwyr, megis gofaint a chryddion, i'w cael ers canrifoedd yn Uwchgwyrfai, ac er bod angen teithio i’r dref agosaf neu ddisgwyl am y ffair leol achlysurol i brynu amryw o nwyddau fel rheol, yr oedd nifer o bedleriaid neu werthwyr teithiol yn galw o bryd i’w gilydd – ac roedd tafarnau wedi bod yn nodwedd o’r ardal ers yr Oesoedd Canol.

Cyflwyniad i’r testun

Erbyn y 19g., fodd bynnag, a diwydiant a phoblogaeth y fro’n cynyddu, dechreuodd mwy o fân bobl fusnes weithredu’n lleol er mwyn diwallu anghenion gweithwyr lleol, a oedd â mwy o arian yn eu pocedi a heb nac amser na thir i gynhyrchu bwyd, dillad, offer ac angenrheidiau eraill bywyd.

Nid hawdd yw cael darlun cyflawn, er bod digon o gyfeiriadau at alwedigaethau yn nogfennau’r Cyfrifiad o 1841 ymlaen, a cheir llawer o gyfeiriadau unigol at y bobl hyn mewn dogfennau a llyfrau o bob math. Er mwyn cael darlun gwell, fodd bynnag, rhaid troi at y cyfarwyddiaduron masnach, sef rhestrau honedig gyflawn o holl fasnachwyr a phobl busnes yr ardal. Y pennaf o’r rhai hyn oedd Cyfarwyddiadur Slater, ond prin bod sôn am bentrefi Dyffryn Nantlle yn yr argraffiad a gyhoeddwyd ym 1859, er bod rhestr lawn o fusnesau Caernarfon a’r fro ynddo yn ôl y sawl a'i lluniodd. Dyma, mae'n debyg, adlewyrchiad o’r ffaith mai ardal a oedd ond yn dechrau ymrymuso’n fasnachol oedd y cwmwd a’i bentrefi. O’r rhifyn nesaf ymlaen o Gyfarwyddiadur Slater, dyddiedig 1868, fodd bynnag, ceir manylion am lawer o fusnesau yn Uwchgwyrfai dan benawdau Caernarfon a Nefyn. Rhaid oedd disgwyl am flynyddoedd wedyn cyn cael llyfr Slater a oedd yn cynnwys adran a oedd yn sôn yn benodol am Ben-y-groes a’r dyffryn ehangach.

Dylid nodi, fodd bynnag, nad oedd pob busnes na phob crefftwr wedi eu cynnwys gan Slater. Wrth ddarllen am fanylion Cyfrifiad 1871, mae cryn wahaniaeth i'w weld yn y galwedigaethau a nodir; er enghraifft, ni restrir yr un cigydd ym Mhen-y-groes gan Slater ym 1868, ond yr oedd o leiaf ddau yno ym 1871 - a byddai'n anodd dychmygu unrhyw bentref heb werthwr cig lleol o ryw fath.[1] Mae rhywfaint o anghysondeb yn y categorïau y rhestrir enwau o danynt, ac mae'n debyg mai dibynnu ar ohebyddion lleol oedd y cyhoeddwyr, a'r gohebyddion hynny efallai ond yn cynnwys rhai enwau, yn ddibynnol ar eu gwybodaeth leol - neu efallai rhaid oedd talu tâl bychan i gael eich cynnwys yn y rhestr.

Pobl busnes Uwchgwyrfai ym 1868

Isod, mae rhestr o’r busnesau a nodir yn rhifyn 1868 o Slater dan benawdau Caernarfon [2] a Nefyn [3] ond sydd yn cyfeirio at Uwchgwyrfai. Yn y llyfr hwnnw, trefnir busnesau dan is-benawdau yn unol â’u natur (sef cigyddion, groseriaid, gofaint ac ati) ond yma ad-drefnwyd y manylion a gopïwyd a’u gosod yn unol â’r pentrefi er mwyn gweld ym mha bentrefi a phlwyfi yr oedd y prif ganolfannau busnes.

Clynnog Fawr

Groseriaid: Solomon Jones; William Roberts
Gwestai: Richard Edwards, Newborough Arms
Llieinwerthwyr a dilladyddion: Solomon Jones; William Roberts
Perchnogion Cerbydau i deithwyr (“Coach and Car Proprietors”): Richard Edwards
Tafarnwyr: John Evans, New Inn; Robert Evans, Tafarn y Sportsman, Gurn Goch; John Davis, Tafarn Ty Isaf

Llanaelhaearn

Asiantwyr mwyngloddio:David Lambert, Nant House
Cryddion:Thomas Morgan Edwards; John Hughes; Evan Williams
Gofaint: Richard Davies
Groseriaid, Dilladwyr a Masnachwyr nwyddau amrywiol: Richard Hughes; Griffith Humphrey; John Williams; William Williams
Melinwyr: John Hughes, Melin Penllechog
Seiri:William Jones; Jacob Williams
Teilwriaid: William Davies
Tafarnwyr: Richard Hughes, Tafarn y Rivals; Catherine Jones, Tafarn Tyddyn Drain

Llandwrog

Sylwer nad oedd unrhyw grefftwyr na phobl fusnes wedi eu rhestru yn y plwyf hwn, nac mewn pentrefi yn y plwyf megis Y Fron a Charmel, ar wahân i dafarnwyr y Groeslon a melinydd Melin Forgan, serch bod gwaith megis Ffatri Tryfan a sawl siop wedi eu hen sefydlu o fewn ffiniau'r plwyf.

Llanllyfni

Seiri ac Adeiladwyr: Owen Owen
Cryddion: John Parry
Gofaint: Owen Thomas; Owen Williams, Y Berth
Groseriaid: Thomas Jones; Owen Williams; William M. Williams
Llieinwerthwyr a dilledyddion: Hugh Jones; John Roberts
Llyfrwerthwyr: William Jones
Melinwyr: Robert Roberts
Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: Robert Roberts
Tafarnwyr: Mary Edwards, Barmouth Arms; Robert H. Jones, Tafarn y Ffort; Griffith Jones, Tafarn y King's Head; John Roberts, Tafarn y Machine; Owen Roberts, Tafarn y Quarryman’s Arms; Thomas Owen, Tafarn y Wellington
Teilwriaid: John Williams (hefyd yn ddilledydd)

Llanwnda

Gwneuthurwyr llechi ysgrifennu: Bezaleel Jones
Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: R. Thomas; R.J. Thomas, Dolydd
Tafarnwyr: Ellis Roberts, Tafarn y Mount Pleasant 

Pant-glas

Tafarnwyr: Harry Jones, Railway Inn

Pen-y-groes

Cryddion : Robert Owen; Thomas Pritchard
Cynhyrchwyr defnyddiau gwlân: Morris Owen
Fferyllwyr: Hugh Williams
Gofaint: William Davies
Groseriaid: Robert Evans; Owen Roberts
Gwerthwyr cwrw: Ann Roberts
Gwneuthurwyr a gwerthwyr dillad merched: .... Gordon; Mary Parry
Gwneuthurwyr llechi ysgrifennu: Thomas Lloyd Jones; John Williams
Haearnwerthwyr: Owen Roberts
Llawfeddygon: Evan Roberts; John Williams, M.D.
Llawfeddygon anifeiliaid: Hugh Jones, Gelli Bach
Llieinwerthwyr a dilledyddion: William Daniel O’Brien; Owen Roberts
Llyfrwerthwyr: Griffith Lewis
Meddygon esgyrn: Richard Evans; Thomas Evans
Oriadurwyr a gwneuthurwyr clociau: John Thomas
Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: Thomas Griffith; David Owen; John Roberts; Robert Williams; Thomas Williams
Tafarnwyr: John Griffith, Bryncir Arms; Edward Griffith, Tafarn Sign Horse; Robert Hughes, Tafarn y Stag’s Head
Teilwriaid: Eliezar Hughes; Hugh Hughes; Richard Williams (hefyd yn ddilledydd) 
Torwyr cerrig a masnachwyr llechi: David Roberts

Tal-y-sarn

Sylwer mai Nantlle oedd yr enw a ddefnyddid gan Slater am y pentref hwn ym 1868, yn hytrach na’r pentref a adwaenir heddiw fel Nantlle.

Groseriaid: Evan Evans; Ellis Hughes, Tŷ’n-y-weirglodd (ger Gwernor); Thomas Roberts
Gwestai: Hugh Williams, Commercial Inn
Tafarnwyr: Robert Griffith, Tafarn yr Half Way
Teilwriaid: E. Jones; Owen Jones

Trefor

Rhestrir yr isod dan "Trefor Row, Llanaelhaearn".

Cryddion: William Thomas
Groseriaid, Dilladwyr a Masnachwyr nwyddau amrywiol: Robert Hughes

Y Bontnewydd

Cynhwysir yma’r holl bobl fusnes a restrir dan “Pont Newydd” (i ddilyn sillafiad Slater), gan y byddai’r bobl hyn yn gwasanaethu’r ddau hanner o’r pentref o bobtu Afon Gwyrfai er nad oedd ond y rhan ddeheuol yn Uwchgwyrfai.

Bragyddion: Ellen Ellis; William Thomas 
Cryddion: David Roberts
Cynhyrchwyr winsi: Daniel Jones; Benjamin Owen
Gofaint: Robert Roberts, Llwyn Beuno; Henry Williams, Llwyn Beuno
Llieinwerthwyr a dilledyddion: Griffith Roberts
Melinwyr: John Lloyd Jones
Seiri ac Adeiladwyr’: Robert Roberts
Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: Morris Parry; Owen Parry; Henry Williams; William Williams
Tafarnwyr: Ellen Ellis, Black Lion; Hugh Hughes, Butchers’ Arms; Evan Hughes, Newborough Arms
Teilwriaid: Richard Jones

Y Groeslon

Melinwyr: Robert Jones, Melin Forgan, Y Groeslon
Tafarnwyr: Cornelius Peters,  Grugan Arms, Y Groeslon; Owen Williams, Tafarn y Llanfair Arms, Y Groeslon; John Huxley, Dolydd Arms, Dolydd

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871
  2. Slater's Directory of Gloucestershsire, Herefordshire, Monmouthshire, Shropshire and |Wales, 1868 (Manceinion a Llundain, 1868) tt.581-8, ar gael ar y Wê ar Wefan University of Leicester Special Collections On-line [1], cyrchwyd 21.10.2025
  3. Slater, op.cit., tt.664-5