Crefftwyr a Masnachwyr Uwchgwyrfai, 1868: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 14: Llinell 14:
  '''Llieinwerthwyr a dilladyddion''': Solomon Jones; William Roberts
  '''Llieinwerthwyr a dilladyddion''': Solomon Jones; William Roberts
  ''' Perchnogion Cerbydau i deithwyr''' (“Coach and Car Proprietors”): Richard Edwards
  ''' Perchnogion Cerbydau i deithwyr''' (“Coach and Car Proprietors”): Richard Edwards
  '''Tafarnwyr''': John Evans, [[New Inn, Clynnog Fawr|New Inn]]; Robert Evans, [[Tafarn y Sportsman, Gurn Goch]]
  '''Tafarnwyr''': John Evans, [[New Inn, Clynnog Fawr|New Inn]]; Robert Evans, [[Tafarn y Sportsman, Gurn Goch]]; John Davis, [[Tafarn Ty Isaf]]


===Llanaelhaearn===
===[[Llanaelhaearn]]===
'''Asiantwyr mwyngloddio''':David Lambert, Nant House
'''Cryddion''':Thomas Morgan Edwards; John Hughes; Evan Williams
'''Gofaint''': Richard Davies
'''Groseriaid, Dilladwyr a Masnachwyr nwyddau amrywiol''': Richard Hughes; Griffith Humphrey; John Williams; William Williams
'''Melinyddion''': John Hughes, [[Melin Penllechog]]
  '''Seiri''':William Jones; Jacob Williams
'''Teilwriaid''': William Davies
'''Tafarnwyr''': Richard Hughes, [[Tafarn yr Eifl]]; Catherine Jones, [[Tafarn Tyddyn Drain]]


===[[Llandwrog===
 
 
 
===[[Llandwrog]]===
Sylwer nad oedd unrhyw grefftwyr na phobl fusnes wedi eu rhestru yn y plwyf hwn, nac mewn pentrefi megis [[Y Fron]] a [[Caramel|Charmel]], ar wahan i dafarnwyr y Groeslon a melinydd [[Melin Forgan]], serch bod gwaith megis [[Ffatri Tryfan]] a sawl siop wedi eu hen sefydlu o fewn ffiniau'r plwyf.
Sylwer nad oedd unrhyw grefftwyr na phobl fusnes wedi eu rhestru yn y plwyf hwn, nac mewn pentrefi megis [[Y Fron]] a [[Caramel|Charmel]], ar wahan i dafarnwyr y Groeslon a melinydd [[Melin Forgan]], serch bod gwaith megis [[Ffatri Tryfan]] a sawl siop wedi eu hen sefydlu o fewn ffiniau'r plwyf.


Llinell 70: Llinell 81:


===[[Trefor]]===
===[[Trefor]]===
Rhestrir yr isod dan "Trefor Row, Llanaelhaearn".
'''Cryddion''': William Thomas
'''Groseriaid, Dilladwyr a Masnachwyr nwyddau amrywiol''': Robert Hughes
   
   
===[[Y Bontnewydd]]===
===[[Y Bontnewydd]]===

Fersiwn yn ôl 15:44, 22 Hydref 2025

Yn disgwyl i gael ei olygu

Isod gwelir rhestr Crefftwyr a Masnachwyr yn Uwchgwyrfai a godwyd o Gyfarwyddiadur Masnach Slater, 1868 sydd yn rhoi argraff o'r ystod o alwedigaethau a busnesau ar wahân i chwarelydda ac amaethu oedd yn bod yn y cwmwd tua 150 o flynyddoedd yn ôl.

Mae angen ar bob cymuned ei masnachwyr a chrefftwyr er mwyn i bobl gaffael eu hanghenion nada oes modd eu cynhyrchu gartref. Bu crefftwyr megis gofaint a chryddion wrthi ers canrifoedd yn Uwchgwyrfai, ac er bod angen teithio i’r dref agosaf neu ddisgwyl am y ffair leol achlysurol, yr oedd nifer o bedleriaid neu werthwyr teithiol yn galw o bryd i’w gilydd – ac roedd tafarnau wedi bod yn nodwedd o’r ardal ers y Canol Oesoedd.

Cyflwyniad i’r testun

Erbyn y 19g., fodd bynnag, a diwydiant a phoblogaeth y fro’n cynyddu, dechreuodd mwy o fân bobl fusnes weithredu’n lleol er mwyn diwallu anghenion gweithwyr lleol a oedd â mwy o arian yn eu pocedi a heb amser na thir i gynhyrchu bwyd, dillad, offer ac anghenion eraill bywyd. Nid hawdd yw cael darlun cyflawn, er bod digon o gyfeiriadau at alwedigaethau yn nogfennau’r Cyfrifiad o 1841 ymlaen, a cheir llawer o gyfeiriadau unigol at y bobl hyn mewn dogfennau a llyfrau o bob math. I gael darlun gwell, fodd bynnag, rhaid troi at y cyfarwyddiaduron masnach, sef rhestrau honedig gyflawn o holl fasnachwyr a phobl busnes yr ardal. Y pennaf o’r rhai hyn oedd Cyfarwyddiadur Slater, ond prin bod sôn am bentrefi Dyffryn Nantlle yn yr argraffiad a gyhoeddwyd ym 1859, er bod rhestr lawn o fusnesau Caernarfon a’r fro ynddo. Dichon mai adlewyrchu’r ffaith mai ardal a oedd ond yn dechrau ymrymuso’n fasnachol oedd y cwmwd a’i bentrefi. O’r rhifyn nesaf o Gyfarwyddiadur Slater ymlaen, fodd bynnag, dyddiedig 1868, ceir manylion am lawer o fusnesau yn Uwchgwyrfai dan bennawd Caernarfon. Rhaid oedd disgwyl am flynyddoedd eto cyn cael llyfr Slater oedd yn cynnwys adran oedd yn sôn yn benodol am Ben-y-groes a’r dyffryn ehangach.

Pobl busnes Uwchgwyrfai ym 1868

Isod, mae rhestr o’r busnesau a nodir yn rhifyn 1868 o Slater dan benawdau Caernarfon [1] a Nefyn [2]ond sydd yn cyfeirio at Uwchgwyrfai. Yn y llyfr hwnnw, trefnir busnesau dan benawdau yn unol â’u natur (sef cigyddion, groseriaid, gofaint ac ati) ond yma ad-drefnwyd y manylion a gopïwyd a’u gosod yn unol â’r pentrefi er mwyn gweld ym mha bentrefi a phlwyfi yr oedd y prif ganolfannau busnes.

Clynnog Fawr

Groseriaid: Solomon Jones; William Roberts
Gwestai: Richard Edwards, Newborough Arms
Llieinwerthwyr a dilladyddion: Solomon Jones; William Roberts
 Perchnogion Cerbydau i deithwyr (“Coach and Car Proprietors”): Richard Edwards
Tafarnwyr: John Evans, New Inn; Robert Evans, Tafarn y Sportsman, Gurn Goch; John Davis, Tafarn Ty Isaf

Llanaelhaearn

Asiantwyr mwyngloddio:David Lambert, Nant House
Cryddion:Thomas Morgan Edwards; John Hughes; Evan Williams
Gofaint: Richard Davies
Groseriaid, Dilladwyr a Masnachwyr nwyddau amrywiol: Richard Hughes; Griffith Humphrey; John Williams; William Williams
Melinyddion: John Hughes, Melin Penllechog
 Seiri:William Jones; Jacob Williams
Teilwriaid: William Davies
Tafarnwyr: Richard Hughes, Tafarn yr Eifl; Catherine Jones, Tafarn Tyddyn Drain



Llandwrog

Sylwer nad oedd unrhyw grefftwyr na phobl fusnes wedi eu rhestru yn y plwyf hwn, nac mewn pentrefi megis Y Fron a Charmel, ar wahan i dafarnwyr y Groeslon a melinydd Melin Forgan, serch bod gwaith megis Ffatri Tryfan a sawl siop wedi eu hen sefydlu o fewn ffiniau'r plwyf.

Llanllyfni

Seiri ac Adeiladwyr: Owen Owen
Cryddion: John Parry
Gofaint: Owen Thomas; Owen Williams, Y Berth
Groseriaid: Thomas Jones; Owen Williams; William M. Williams
Llieinwerthwyr a dilledyddion: Hugh Jones; John Roberts
Llyfrwerthwyr: William Jones
Melinyddion: Robert Roberts
Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: Robert Roberts
Tafarnwyr: Mary Edwards, Barmouth Arms; Robert H. Jones, Tafarn y Ffort; Griffith Jones, Tafarn y King's Head; John Roberts, Tafarn y Machine; Owen Roberts, Tafarn y Quarryman’s Arms; Thomas Owen, Tafarn y Wellington
Teilwriaid: John Williams (hefyd yn ddilledydd)

Llanwnda

Gwneuthurwyr llechi ysgrifennu: Bezaleel Jones
Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: R. Thomas; R.J. Thomas, Dolydd
Tafarnwyr: Ellis Roberts, Tafarn y Mount Pleasant 

Pant-glas

Tafarnwyr: Harry Jones, Railway Inn

Pen-y-groes

Cryddion : Robert Owen; Thomas Pritchard
Cynhyrchwyr defnyddiau gwlân: Morris Owen
Fferyllwyr: Hugh Williams
Gofain : William Davies
Groseriaid: Robert Evans; Owen Roberts
Gwerthwyr cwrw: Ann Roberts
Gwneuthurwyr a gwerthwyr dillad merched: .... Gordon; Mary Parry
Gwneuthurwyr llechi ysgrifennu: Thomas Lloyd Jones; John Williams
Haearnwerthwyr: Owen Roberts
Llawfeddygon: Evan Roberts; John Williams, M.D.
Llawfeddygon anifeiliaid: Hugh Jones, Gelli Bach
Llieinwerthwyr a dilledyddion: William Daniel O’Brien; Owen Roberts
Llyfrwerthwyr: Griffith Lewis
Meddygon esgyrn: Richard Evans; Thomas Evans
Oriadurwyr a gwneuthurwyr clociau: John Thomas
Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: Thomas Griffith; David Owen; John Roberts; Robert Williams; Thomas Williams
Tafarnwyr: John Griffith, Bryncir Arms; Edward Griffith, Tafarn Sign Horse; Robert Hughes, Tafarn y Stag’s Head
Teilwriaid: Eliezar Hughes; Hugh Hughes; Richard Williams (hefyd yn ddilledydd) 
Torwyr cerrig a masnachwyr llechi: David Roberts

Tal-y-sarn

Sylwer mai Nantlle oedd yr enw a ddenyddid gan Slater am y pentref hwn ym 1868, yn hytrach na’r pentref a adwaeinir heddiw fel Nantlle.

Groseriaid: Evan Evans; Ellis Hughes, Tŷ’n-y-weirglodd (ger Gwernor); Thomas Roberts
Gwestai: Hugh Williams, Commercial Inn
Tafarnwyr: Robert Griffith, Tafarn yr Half Way
Teilwriaid: E. Jones; Owen Jones

Trefor

Rhestrir yr isod dan "Trefor Row, Llanaelhaearn".

Cryddion: William Thomas
Groseriaid, Dilladwyr a Masnachwyr nwyddau amrywiol: Robert Hughes

Y Bontnewydd

Cynhwysir yma’r holl bobl fusnes a restrir dan “Pont Newydd” (i ddilyn sillafiad Slater), gan y byddai’r bobl hyn yn gwasanaethu’r ddau hanner o’r pentref o bobtu’r Afon Gwyrfai er nad oedd ond y darn deheuol yn Uwchgwyrfai.

Bragyddion: Ellen Ellis; William Thomas 
Cryddion: David Roberts
Cynhyrchwyr winsi: Daniel Jones; Benjamin Owen
Gofaint: Robert Roberts, Llwyn Beuno; Henry Williams, Llwyn Beuno
Llieinwerthwyr a dilledyddion: Griffith Roberts
Melinyddion: John Lloyd Jones
Seiri ac Adeiladwyr’: Robert Roberts
Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: Morris Parry; Owen Parry; Henry Williams; William Williams
Tafarnwyr: Ellen Ellis, Black Lion; Hugh Hughes, Butchers’ Arms; Evan Hughes, Newborough Arms
Teilwriaid: Richard Jones

Y Groeslon

Melinyddion: Robert Jones, Melin Forgan, Y Groeslon
Tafarnwyr: Cornelius Peters,  Grugan Arms, Y Groeslon; Owen Williams, Tafarn y Llanfair Arms, Y Groeslon; John Huxley, Dolydd Arms, Dolydd
  1. Slater's Directory of Gloucestershsire, Herefordshire, Monmouthshire, Shropshire and |Wales, 1868 (Manceinion a Llundain, 1868) tt.581-8, ar gael ar y Wê ar Wefan University of Leicester Special Collections On-line [1], cyrchwyd 21.10.2025
  2. Slater, op.cit., tt.664-5