Crefftwyr a Masnachwyr Uwchgwyrfai, 1868: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 4: | Llinell 4: | ||
==Cyflwyniad i’r testun== | ==Cyflwyniad i’r testun== | ||
Erbyn y 19g., fodd bynnag, a diwydiant a phoblogaeth y fro’n cynyddu, dechreuodd mwy o fân bobl fusnes weithredu’n lleol er mwyn diwallu anghenion gweithwyr lleol a oedd â mwy o arian yn eu pocedi a heb nac amser na thir i gynhyrchu bwyd, dillad, offer ac anghenion eraill bywyd. | Erbyn y 19g., fodd bynnag, a diwydiant a phoblogaeth y fro’n cynyddu, dechreuodd mwy o fân bobl fusnes weithredu’n lleol er mwyn diwallu anghenion gweithwyr lleol a oedd â mwy o arian yn eu pocedi a heb nac amser na thir i gynhyrchu bwyd, dillad, offer ac anghenion eraill bywyd. | ||
Nid hawdd yw cael darlun cyflawn, er bod digon o gyfeiriadau at alwedigaethau yn nogfennau’r Cyfrifiad o 1841 ymlaen, a cheir llawer o gyfeiriadau unigol at y bobl hyn mewn dogfennau a llyfrau o bob math. Er mwyn cael darlun gwell, fodd bynnag, rhaid troi at y cyfarwyddiaduron masnach, sef rhestrau honedig gyflawn o holl fasnachwyr a phobl busnes yr ardal. Y pennaf o’r rhai hyn oedd Cyfarwyddiadur Slater, ond prin bod sôn am bentrefi [[Dyffryn Nantlle]] yn yr argraffiad a gyhoeddwyd ym 1859, er bod rhestr lawn o fusnesau Caernarfon a’r fro ynddo yn ôl y sawl a'i lluniodd. Dyma, mae'n debyg, adlewyrchiad o’r ffaith mai ardal a oedd ond yn dechrau ymrymuso’n fasnachol oedd y cwmwd a’i bentrefi. O’r rhifyn nesaf o Gyfarwyddiadur Slater ymlaen dyddiedig 1868, fodd bynnag, ceir manylion am lawer o fusnesau yn Uwchgwyrfai dan benawdau Caernarfon a Nefyn. Rhaid oedd disgwyl am flynyddoedd wedyn cyn cael llyfr Slater oedd yn cynnwys adran oedd yn sôn yn benodol am [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] a’r dyffryn ehangach. | Nid hawdd yw cael darlun cyflawn, er bod digon o gyfeiriadau at alwedigaethau yn nogfennau’r Cyfrifiad o 1841 ymlaen, a cheir llawer o gyfeiriadau unigol at y bobl hyn mewn dogfennau a llyfrau o bob math. Er mwyn cael darlun gwell, fodd bynnag, rhaid troi at y cyfarwyddiaduron masnach, sef rhestrau honedig gyflawn o holl fasnachwyr a phobl busnes yr ardal. Y pennaf o’r rhai hyn oedd Cyfarwyddiadur Slater, ond prin bod sôn am bentrefi [[Dyffryn Nantlle]] yn yr argraffiad a gyhoeddwyd ym 1859, er bod rhestr lawn o fusnesau Caernarfon a’r fro ynddo yn ôl y sawl a'i lluniodd. Dyma, mae'n debyg, adlewyrchiad o’r ffaith mai ardal a oedd ond yn dechrau ymrymuso’n fasnachol oedd y cwmwd a’i bentrefi. O’r rhifyn nesaf o Gyfarwyddiadur Slater ymlaen dyddiedig 1868, fodd bynnag, ceir manylion am lawer o fusnesau yn Uwchgwyrfai dan benawdau Caernarfon a Nefyn. Rhaid oedd disgwyl am flynyddoedd wedyn cyn cael llyfr Slater oedd yn cynnwys adran oedd yn sôn yn benodol am [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] a’r dyffryn ehangach. Mae rhywfaint o anghysondeb | ||
Dylid nodi, fodd bynnag, nad oedd pob busnes na phob crefftwr wedi eu cynnwys gan Slater. Wrth ddarllen am fanylion Cyfrifiad 1871, mae cryn wahaniaeth i'w gweld yn y galwedigaethau a nodir; er enghraifft, ni restrir yr un cigydd ym Mhen-y-groes gan Slater ym 1868, ond yr oedd o leiaf ddau yno ym 1871 - a byddai'n anodd ddychmygu unrhyw bentref heb werthwr cig lleol o ryw fath.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871</ref> Mae rhywfaint o anghysondeb yn y categorïau y rhestrir enwau o danynt, ac mae'n debyg mai dibynnu ar gohebyddion lleol oedd y cyhoeddwyr, a'r gohebyddion hynny efallai ond yn cynnwys rhai - neu efallai rhaid oedd talu ffi bychan i gael eich cynnwys yn y rhestr. | |||
==Pobl busnes Uwchgwyrfai ym 1868== | ==Pobl busnes Uwchgwyrfai ym 1868== | ||
Isod, mae rhestr o’r busnesau a nodir yn rhifyn 1868 o Slater dan benawdau Caernarfon <ref>''Slater's Directory of Gloucestershsire, Herefordshire, Monmouthshire, Shropshire and |Wales, 1868'' (Manceinion a Llundain, 1868) tt.581-8, ar gael ar y Wê ar Wefan ''University of Leicester Special Collections On-line'' [https://leicester.contentdm.oclc.org/digital/collection/p16445coll4/id/90995/rec/3], cyrchwyd 21.10.2025</ref> a Nefyn <ref>Slater,'' op.cit''., tt.664-5</ref> ond sydd yn cyfeirio at Uwchgwyrfai. Yn y llyfr hwnnw, trefnir busnesau dan is-benawdau yn unol â’u natur (sef cigyddion, groseriaid, gofaint ac ati) ond yma ad-drefnwyd y manylion a gopïwyd a’u gosod yn unol â’r pentrefi er mwyn gweld ym mha bentrefi a phlwyfi yr oedd y prif ganolfannau busnes. | Isod, mae rhestr o’r busnesau a nodir yn rhifyn 1868 o Slater dan benawdau Caernarfon <ref>''Slater's Directory of Gloucestershsire, Herefordshire, Monmouthshire, Shropshire and |Wales, 1868'' (Manceinion a Llundain, 1868) tt.581-8, ar gael ar y Wê ar Wefan ''University of Leicester Special Collections On-line'' [https://leicester.contentdm.oclc.org/digital/collection/p16445coll4/id/90995/rec/3], cyrchwyd 21.10.2025</ref> a Nefyn <ref>Slater,'' op.cit''., tt.664-5</ref> ond sydd yn cyfeirio at Uwchgwyrfai. Yn y llyfr hwnnw, trefnir busnesau dan is-benawdau yn unol â’u natur (sef cigyddion, groseriaid, gofaint ac ati) ond yma ad-drefnwyd y manylion a gopïwyd a’u gosod yn unol â’r pentrefi er mwyn gweld ym mha bentrefi a phlwyfi yr oedd y prif ganolfannau busnes. | ||
| Llinell 11: | Llinell 12: | ||
'''Gwestai''': Richard Edwards, [[Gwesty'r Beuno|Newborough Arms]] | '''Gwestai''': Richard Edwards, [[Gwesty'r Beuno|Newborough Arms]] | ||
'''Llieinwerthwyr a dilladyddion''': Solomon Jones; William Roberts | '''Llieinwerthwyr a dilladyddion''': Solomon Jones; William Roberts | ||
''' Perchnogion Cerbydau i deithwyr''' (“Coach and Car Proprietors”): Richard Edwards | '''Perchnogion Cerbydau i deithwyr''' (“Coach and Car Proprietors”): Richard Edwards | ||
'''Tafarnwyr''': John Evans, [[New Inn, Clynnog Fawr|New Inn]]; Robert Evans, [[Tafarn y Sportsman, Gurn Goch]]; John Davis, [[Tafarn Ty Isaf]] | '''Tafarnwyr''': John Evans, [[New Inn, Clynnog Fawr|New Inn]]; Robert Evans, [[Tafarn y Sportsman, Gurn Goch]]; John Davis, [[Tafarn Ty Isaf]] | ||
===[[Llanaelhaearn]]=== | ===[[Llanaelhaearn]]=== | ||
| Llinell 19: | Llinell 20: | ||
'''Groseriaid, Dilladwyr a Masnachwyr nwyddau amrywiol''': Richard Hughes; Griffith Humphrey; John Williams; William Williams | '''Groseriaid, Dilladwyr a Masnachwyr nwyddau amrywiol''': Richard Hughes; Griffith Humphrey; John Williams; William Williams | ||
'''Melinyddion''': John Hughes, [[Melin Penllechog]] | '''Melinyddion''': John Hughes, [[Melin Penllechog]] | ||
'''Seiri''':William Jones; Jacob Williams | |||
'''Teilwriaid''': William Davies | '''Teilwriaid''': William Davies | ||
'''Tafarnwyr''': Richard Hughes, [[Tafarn y Rivals]]; Catherine Jones, [[Tafarn Tyddyn Drain]] | '''Tafarnwyr''': Richard Hughes, [[Tafarn y Rivals]]; Catherine Jones, [[Tafarn Tyddyn Drain]] | ||
| Llinell 86: | Llinell 87: | ||
'''Melinyddion''': Robert Jones, [[Melin Forgan]], [[Y Groeslon]] | '''Melinyddion''': Robert Jones, [[Melin Forgan]], [[Y Groeslon]] | ||
'''Tafarnwyr''': Cornelius Peters, [[Gwesty'r Grugan Arms| Grugan Arms]], Y Groeslon; Owen Williams, [[Tafarn y Llanfair Arms]], Y Groeslon; John Huxley, [[Dolydd Arms]], [[Dolydd]] | '''Tafarnwyr''': Cornelius Peters, [[Gwesty'r Grugan Arms| Grugan Arms]], Y Groeslon; Owen Williams, [[Tafarn y Llanfair Arms]], Y Groeslon; John Huxley, [[Dolydd Arms]], [[Dolydd]] | ||
==Cyfeiriadau== | |||
[[Categori:Busnes a Masnach]] | |||
Fersiwn yn ôl 09:18, 23 Hydref 2025
Isod gwelir rhestr Crefftwyr a Masnachwyr yn Uwchgwyrfai a godwyd o Gyfarwyddiadur Masnach Slater, 1868 sydd yn rhoi argraff o'r ystod o alwedigaethau a busnesau ar wahân i chwarelydda ac amaethu oedd yn bodoli yn y cwmwd tua 150 o flynyddoedd yn ôl.
Mae angen ar bob cymuned ei masnachwyr a chrefftwyr er mwyn i bobl gaffael anghenion nad oes modd eu cynhyrchu gartref. Bu crefftwyr megis gofaint a chryddion i'w cael ers canrifoedd yn Uwchgwyrfai, ac er bod angen teithio i’r dref agosaf neu ddisgwyl am y ffair leol achlysurol i brynu amryw o nwyddau fel arfer, yr oedd nifer o bedleriaid neu werthwyr teithiol yn galw o bryd i’w gilydd – ac roedd tafarnau wedi bod yn nodwedd o’r ardal ers y Canol Oesoedd.
Cyflwyniad i’r testun
Erbyn y 19g., fodd bynnag, a diwydiant a phoblogaeth y fro’n cynyddu, dechreuodd mwy o fân bobl fusnes weithredu’n lleol er mwyn diwallu anghenion gweithwyr lleol a oedd â mwy o arian yn eu pocedi a heb nac amser na thir i gynhyrchu bwyd, dillad, offer ac anghenion eraill bywyd. Nid hawdd yw cael darlun cyflawn, er bod digon o gyfeiriadau at alwedigaethau yn nogfennau’r Cyfrifiad o 1841 ymlaen, a cheir llawer o gyfeiriadau unigol at y bobl hyn mewn dogfennau a llyfrau o bob math. Er mwyn cael darlun gwell, fodd bynnag, rhaid troi at y cyfarwyddiaduron masnach, sef rhestrau honedig gyflawn o holl fasnachwyr a phobl busnes yr ardal. Y pennaf o’r rhai hyn oedd Cyfarwyddiadur Slater, ond prin bod sôn am bentrefi Dyffryn Nantlle yn yr argraffiad a gyhoeddwyd ym 1859, er bod rhestr lawn o fusnesau Caernarfon a’r fro ynddo yn ôl y sawl a'i lluniodd. Dyma, mae'n debyg, adlewyrchiad o’r ffaith mai ardal a oedd ond yn dechrau ymrymuso’n fasnachol oedd y cwmwd a’i bentrefi. O’r rhifyn nesaf o Gyfarwyddiadur Slater ymlaen dyddiedig 1868, fodd bynnag, ceir manylion am lawer o fusnesau yn Uwchgwyrfai dan benawdau Caernarfon a Nefyn. Rhaid oedd disgwyl am flynyddoedd wedyn cyn cael llyfr Slater oedd yn cynnwys adran oedd yn sôn yn benodol am Ben-y-groes a’r dyffryn ehangach. Mae rhywfaint o anghysondeb Dylid nodi, fodd bynnag, nad oedd pob busnes na phob crefftwr wedi eu cynnwys gan Slater. Wrth ddarllen am fanylion Cyfrifiad 1871, mae cryn wahaniaeth i'w gweld yn y galwedigaethau a nodir; er enghraifft, ni restrir yr un cigydd ym Mhen-y-groes gan Slater ym 1868, ond yr oedd o leiaf ddau yno ym 1871 - a byddai'n anodd ddychmygu unrhyw bentref heb werthwr cig lleol o ryw fath.[1] Mae rhywfaint o anghysondeb yn y categorïau y rhestrir enwau o danynt, ac mae'n debyg mai dibynnu ar gohebyddion lleol oedd y cyhoeddwyr, a'r gohebyddion hynny efallai ond yn cynnwys rhai - neu efallai rhaid oedd talu ffi bychan i gael eich cynnwys yn y rhestr.
Pobl busnes Uwchgwyrfai ym 1868
Isod, mae rhestr o’r busnesau a nodir yn rhifyn 1868 o Slater dan benawdau Caernarfon [2] a Nefyn [3] ond sydd yn cyfeirio at Uwchgwyrfai. Yn y llyfr hwnnw, trefnir busnesau dan is-benawdau yn unol â’u natur (sef cigyddion, groseriaid, gofaint ac ati) ond yma ad-drefnwyd y manylion a gopïwyd a’u gosod yn unol â’r pentrefi er mwyn gweld ym mha bentrefi a phlwyfi yr oedd y prif ganolfannau busnes.
Clynnog Fawr
Groseriaid: Solomon Jones; William Roberts Gwestai: Richard Edwards, Newborough Arms Llieinwerthwyr a dilladyddion: Solomon Jones; William Roberts Perchnogion Cerbydau i deithwyr (“Coach and Car Proprietors”): Richard Edwards Tafarnwyr: John Evans, New Inn; Robert Evans, Tafarn y Sportsman, Gurn Goch; John Davis, Tafarn Ty Isaf
Llanaelhaearn
Asiantwyr mwyngloddio:David Lambert, Nant House Cryddion:Thomas Morgan Edwards; John Hughes; Evan Williams Gofaint: Richard Davies Groseriaid, Dilladwyr a Masnachwyr nwyddau amrywiol: Richard Hughes; Griffith Humphrey; John Williams; William Williams Melinyddion: John Hughes, Melin Penllechog Seiri:William Jones; Jacob Williams Teilwriaid: William Davies Tafarnwyr: Richard Hughes, Tafarn y Rivals; Catherine Jones, Tafarn Tyddyn Drain
Llandwrog
Sylwer nad oedd unrhyw grefftwyr na phobl fusnes wedi eu rhestru yn y plwyf hwn, nac mewn pentrefi yn y plwyf megis Y Fron a Charmel, ar wahân i dafarnwyr y Groeslon a melinydd Melin Forgan, serch bod gwaith megis Ffatri Tryfan a sawl siop wedi eu hen sefydlu o fewn ffiniau'r plwyf.
Llanllyfni
Seiri ac Adeiladwyr: Owen Owen Cryddion: John Parry Gofaint: Owen Thomas; Owen Williams, Y Berth Groseriaid: Thomas Jones; Owen Williams; William M. Williams Llieinwerthwyr a dilledyddion: Hugh Jones; John Roberts Llyfrwerthwyr: William Jones Melinyddion: Robert Roberts Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: Robert Roberts Tafarnwyr: Mary Edwards, Barmouth Arms; Robert H. Jones, Tafarn y Ffort; Griffith Jones, Tafarn y King's Head; John Roberts, Tafarn y Machine; Owen Roberts, Tafarn y Quarryman’s Arms; Thomas Owen, Tafarn y Wellington Teilwriaid: John Williams (hefyd yn ddilledydd)
Llanwnda
Gwneuthurwyr llechi ysgrifennu: Bezaleel Jones Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: R. Thomas; R.J. Thomas, Dolydd Tafarnwyr: Ellis Roberts, Tafarn y Mount Pleasant
Pant-glas
Tafarnwyr: Harry Jones, Railway Inn
Pen-y-groes
Cryddion : Robert Owen; Thomas Pritchard Cynhyrchwyr defnyddiau gwlân: Morris Owen Fferyllwyr: Hugh Williams Gofaint: William Davies Groseriaid: Robert Evans; Owen Roberts Gwerthwyr cwrw: Ann Roberts Gwneuthurwyr a gwerthwyr dillad merched: .... Gordon; Mary Parry Gwneuthurwyr llechi ysgrifennu: Thomas Lloyd Jones; John Williams Haearnwerthwyr: Owen Roberts Llawfeddygon: Evan Roberts; John Williams, M.D. Llawfeddygon anifeiliaid: Hugh Jones, Gelli Bach Llieinwerthwyr a dilledyddion: William Daniel O’Brien; Owen Roberts Llyfrwerthwyr: Griffith Lewis Meddygon esgyrn: Richard Evans; Thomas Evans Oriadurwyr a gwneuthurwyr clociau: John Thomas Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: Thomas Griffith; David Owen; John Roberts; Robert Williams; Thomas Williams Tafarnwyr: John Griffith, Bryncir Arms; Edward Griffith, Tafarn Sign Horse; Robert Hughes, Tafarn y Stag’s Head Teilwriaid: Eliezar Hughes; Hugh Hughes; Richard Williams (hefyd yn ddilledydd) Torwyr cerrig a masnachwyr llechi: David Roberts
Tal-y-sarn
Sylwer mai Nantlle oedd yr enw a ddefnyddid gan Slater am y pentref hwn ym 1868, yn hytrach na’r pentref a adwaenir heddiw fel Nantlle.
Groseriaid: Evan Evans; Ellis Hughes, Tŷ’n-y-weirglodd (ger Gwernor); Thomas Roberts Gwestai: Hugh Williams, Commercial Inn Tafarnwyr: Robert Griffith, Tafarn yr Half Way Teilwriaid: E. Jones; Owen Jones
Trefor
Rhestrir yr isod dan "Trefor Row, Llanaelhaearn".
Cryddion: William Thomas Groseriaid, Dilladwyr a Masnachwyr nwyddau amrywiol: Robert Hughes
Y Bontnewydd
Cynhwysir yma’r holl bobl fusnes a restrir dan “Pont Newydd” (i ddilyn sillafiad Slater), gan y byddai’r bobl hyn yn gwasanaethu’r ddau hanner o’r pentref o bobtu’r Afon Gwyrfai er nad oedd ond y darn deheuol yn Uwchgwyrfai.
Bragyddion: Ellen Ellis; William Thomas Cryddion: David Roberts Cynhyrchwyr winsi: Daniel Jones; Benjamin Owen Gofaint: Robert Roberts, Llwyn Beuno; Henry Williams, Llwyn Beuno Llieinwerthwyr a dilledyddion: Griffith Roberts Melinyddion: John Lloyd Jones Seiri ac Adeiladwyr’: Robert Roberts Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: Morris Parry; Owen Parry; Henry Williams; William Williams Tafarnwyr: Ellen Ellis, Black Lion; Hugh Hughes, Butchers’ Arms; Evan Hughes, Newborough Arms Teilwriaid: Richard Jones
Y Groeslon
Melinyddion: Robert Jones, Melin Forgan, Y Groeslon Tafarnwyr: Cornelius Peters, Grugan Arms, Y Groeslon; Owen Williams, Tafarn y Llanfair Arms, Y Groeslon; John Huxley, Dolydd Arms, Dolydd
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871
- ↑ Slater's Directory of Gloucestershsire, Herefordshire, Monmouthshire, Shropshire and |Wales, 1868 (Manceinion a Llundain, 1868) tt.581-8, ar gael ar y Wê ar Wefan University of Leicester Special Collections On-line [1], cyrchwyd 21.10.2025
- ↑ Slater, op.cit., tt.664-5