Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae hon yn erthygl fer sydd yn crynhoi rhai o brif elfennau traddodiad '''Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle'''. Gweler erthyglau unigol ar gorau a chantorio...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 21 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae hon yn erthygl fer sydd yn crynhoi rhai o brif elfennau traddodiad '''Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle'''. Gweler erthyglau unigol ar gorau a chantorion unigol sydd wedi eu nodi mewn print glas.
Mae hon yn erthygl fer sydd yn crynhoi rhai o brif elfennau traddodiad '''Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle'''. Gweler erthyglau unigol ar y gwahanol gorau a chantorion sydd wedi eu nodi mewn print glas.


Fel y digwyddodd mewn rhannau eraill o Gymru, yr hyn a ysgogodd gymaint o weithgaredd corawl oedd mudiad y tonic sol-ffa a dosbarthiadau sol-ffa a gynhelid gan y capeli'r rhan amlaf. Dyn dwad i [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn]] Nantlle oedd [[Hugh Owen]], (1832-1897) Sefydlodd fusnes yn [[Tal-y-sarn|Nhalysarn]] fel crydd, ond treuliodd lawer o'i amser yn teithio cyn belled a dinasoedd Lloegr gyda'r [[Tal-y-sarn Glee Singers]]. Ym 1871 daeth ei gôr cymysg yn gyntaf yn Eisteddfod Porthmadog. Dilynodd ei fab, [[Richard Griffith Owen, Pencerdd Llyfnwy (1869-1930) ei dad fel cerddor er iddo arbenigo'n fwy mewn trefnu cerddoriaeth. Roedd traddodiad offerynnol cryf yn Nyffryn Nantlle hefyd a gwnaeth Pencerdd Llyfnwy waith sylweddol yn y maes yma.
Fel y digwyddodd mewn rhannau eraill o Gymru, yr hyn a ysgogodd gymaint o weithgaredd corawl oedd mudiad y tonic sol-ffa a'r dosbarthiadau sol-ffa a gynhelid gan aml i gapel. Dyn dŵad i [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]] oedd [[Hugh Owen, cerddor|Hugh Owen]], (1832-1897). Sefydlodd fusnes crydd yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]], ond treuliodd lawer o'i amser yn teithio cyn belled â dinasoedd Lloegr gyda'r [[Tal-y-sarn Glee Society]]. Ym 1871 daeth ei gôr cymysg yn gyntaf yn Eisteddfod Porthmadog. Dilynodd ei fab, [[Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy)]] (1869-1930), yn ôl traed ei dad fel cerddor, er iddo arbenigo mwy na'i dad ym maes trefnu cerddoriaeth. Roedd traddodiad offerynnol cryf yn Nyffryn Nantlle hefyd a gwnaeth Pencerdd Llyfnwy waith sylweddol yn y maes yma.


Ym1894 cystadlodd [[Côr Meibion Dyffryn Nantlle]] a [[Côr Plant Tal-y-sarn|Chôr Plant Talysarn]] yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. Ym 1902, cychwynnodd [[J. Owen fel arweinyy y Côr Meibion  
Ym 1894 cystadlodd [[Côr Meibion Dyffryn Nantlle]] (dan arweiniad [[Alexander Henderson]]), a [[Côr Plant Tal-y-sarn|Chôr Plant Tal-y-sarn]] yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. Tua 1898, dechreuodd [[John Jones Owen]] arwain Côr Merched y Dyffryn. Bu llawer o gorau eraill yn y dyffryn, ac erys y Côr Meibion a [[Lleisiau Mignedd]] hyd heddiw yn fyw iawn.


Athro ffiseg yn Ysgol Brynrefail oedd [[C.H. Leonard]] ac ar ddechrau'r 1930'au, fe'i perswadiwyd i ffurfio parti dwsin o leisiau. Dyna fu'r symbyliad y tu ôl i sefydlu [[Côr Meibion Dyffryn Nantlle]] o'r newydd, a daeth i amlygrwydd mawr ar y radio gyda rhaglenni fel Noson Lawen, ac mae'r Côr yn dal mewn bodolaeth heddiw.
Athro ffiseg yn Ysgol Brynrefail oedd [[C.H. Leonard]] ac ar ddechrau'r 1930au fe'i perswadiwyd i ffurfio parti o ddwsin o leisiau. Dyna fu'r symbyliad y tu ôl i ailsefydlu [[Côr Meibion Dyffryn Nantlle]] o'r newydd, a daeth y côr i amlygrwydd mawr ar y radio gyda rhaglenni megis ''Noson Lawen''. Mae'r Côr yn dal mewn bodolaeth heddiw, yn fwyaf diweddar dan faton Mrs Eurgain Eames.


Dylid crybwyll hefyd y traddodiad cerdd dant yn y dyffryn ym mhersonau'r [[Brodyr Francis]]. Bu Griffith William Francis (1876-19 ) ac Owen William Francis (1879-1936) yn ddarlledu cerdd dant ar Radio Athlone, cyn bod sôn am orsaf y BBC ym Mangor.
Ni ddylid diystyru traddodiad hir ac anrhydeddus bandiau pres ac arian y dyffryn. Er i fandiau unigol godi a diflannu, mae [[Seindorf Dyffryn Nantlle]] wedi parhau hyd heddiw. Gellir enwi [[Band Baladeulyn]], [[Band Carmel]], [[Band Ceidwadwyr Pen-y-groes]], [[Band Deulyn]], [[Band Dolydd]], [[Band Gwirfoddolwyr Pen-y-groes]], [[Band Llandwrog]], [[Band Moeltryfan]], [[Band Nebo]], [[Seindorf Arian Cadfan]], [[Seindorf Deulyn]], [[Seindorf Dulyn]] a [[Seindorf Pen-y-ffridd]] ymysg bandiau'r dyffryn.
 
Dylid crybwyll hefyd y traddodiad cerdd dant yn y dyffryn. Bu [[Y Brodyr Francis]], sef Griffith William Francis (1876-19 ) ac Owen William Francis (1879-1936) yn darlledu cerdd dant ar Radio Athlone cyn bod sôn am orsaf y BBC ym Mangor. Ni ddylid anghofio ychwaith am [[Llyfni Huws]], telynor ac arloeswr gyda'r cerdd dant ym mlynyddoedd cynnar yr 20g.<ref>Sylfaen yr erthygl hon yw paragraffau ar wefan Llechwefan [http://www.llechicymru.info/ComCultMusic.cymraeg.htm], cyrchwyd 2.1.2021</ref>
 
Mae'r dyffryn wedi cynhyrchu neu groesawu nifer o gerddorion pur lwyddiannus a dylanwadol, gan gynnwys sawl enillydd y Rhuban Glas, megis [[Maldwyn Parry]] ac [[Iwan Wyn Parry]], a'r cyfansoddwr [[Robat Arwyn]]. Y ddau fwyaf llwyddiannus ar lefel ryngwladol efallai oedd [[Mary King Sarah]] ac, yn ein dyddiau ni, Syr [[Bryn Terfel]].
 
Daw nifer o gantorion poblogaidd y dulliau cyfoes o ganu o'r dyffryn hefyd, yn eu mysg [[Bryn Fôn]] a [[Iona Boggie]], cantores y ddeuawd canu gwlad Iona ac Andy. Bu nifer o grwpiau pop hefyd oedd â'u gwreiddiau yn y dyffryn, megis [[Brethyn Cartref]] a [[Topper]].
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Cerddoriaeth]]
[[Categori:Cerddorion]]
[[Categori:Diwylliant]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:54, 27 Hydref 2023

Mae hon yn erthygl fer sydd yn crynhoi rhai o brif elfennau traddodiad Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle. Gweler erthyglau unigol ar y gwahanol gorau a chantorion sydd wedi eu nodi mewn print glas.

Fel y digwyddodd mewn rhannau eraill o Gymru, yr hyn a ysgogodd gymaint o weithgaredd corawl oedd mudiad y tonic sol-ffa a'r dosbarthiadau sol-ffa a gynhelid gan aml i gapel. Dyn dŵad i Ddyffryn Nantlle oedd Hugh Owen, (1832-1897). Sefydlodd fusnes crydd yn Nhal-y-sarn, ond treuliodd lawer o'i amser yn teithio cyn belled â dinasoedd Lloegr gyda'r Tal-y-sarn Glee Society. Ym 1871 daeth ei gôr cymysg yn gyntaf yn Eisteddfod Porthmadog. Dilynodd ei fab, Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy) (1869-1930), yn ôl traed ei dad fel cerddor, er iddo arbenigo mwy na'i dad ym maes trefnu cerddoriaeth. Roedd traddodiad offerynnol cryf yn Nyffryn Nantlle hefyd a gwnaeth Pencerdd Llyfnwy waith sylweddol yn y maes yma.

Ym 1894 cystadlodd Côr Meibion Dyffryn Nantlle (dan arweiniad Alexander Henderson), a Chôr Plant Tal-y-sarn yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. Tua 1898, dechreuodd John Jones Owen arwain Côr Merched y Dyffryn. Bu llawer o gorau eraill yn y dyffryn, ac erys y Côr Meibion a Lleisiau Mignedd hyd heddiw yn fyw iawn.

Athro ffiseg yn Ysgol Brynrefail oedd C.H. Leonard ac ar ddechrau'r 1930au fe'i perswadiwyd i ffurfio parti o ddwsin o leisiau. Dyna fu'r symbyliad y tu ôl i ailsefydlu Côr Meibion Dyffryn Nantlle o'r newydd, a daeth y côr i amlygrwydd mawr ar y radio gyda rhaglenni megis Noson Lawen. Mae'r Côr yn dal mewn bodolaeth heddiw, yn fwyaf diweddar dan faton Mrs Eurgain Eames.

Ni ddylid diystyru traddodiad hir ac anrhydeddus bandiau pres ac arian y dyffryn. Er i fandiau unigol godi a diflannu, mae Seindorf Dyffryn Nantlle wedi parhau hyd heddiw. Gellir enwi Band Baladeulyn, Band Carmel, Band Ceidwadwyr Pen-y-groes, Band Deulyn, Band Dolydd, Band Gwirfoddolwyr Pen-y-groes, Band Llandwrog, Band Moeltryfan, Band Nebo, Seindorf Arian Cadfan, Seindorf Deulyn, Seindorf Dulyn a Seindorf Pen-y-ffridd ymysg bandiau'r dyffryn.

Dylid crybwyll hefyd y traddodiad cerdd dant yn y dyffryn. Bu Y Brodyr Francis, sef Griffith William Francis (1876-19 ) ac Owen William Francis (1879-1936) yn darlledu cerdd dant ar Radio Athlone cyn bod sôn am orsaf y BBC ym Mangor. Ni ddylid anghofio ychwaith am Llyfni Huws, telynor ac arloeswr gyda'r cerdd dant ym mlynyddoedd cynnar yr 20g.[1]

Mae'r dyffryn wedi cynhyrchu neu groesawu nifer o gerddorion pur lwyddiannus a dylanwadol, gan gynnwys sawl enillydd y Rhuban Glas, megis Maldwyn Parry ac Iwan Wyn Parry, a'r cyfansoddwr Robat Arwyn. Y ddau fwyaf llwyddiannus ar lefel ryngwladol efallai oedd Mary King Sarah ac, yn ein dyddiau ni, Syr Bryn Terfel.

Daw nifer o gantorion poblogaidd y dulliau cyfoes o ganu o'r dyffryn hefyd, yn eu mysg Bryn Fôn a Iona Boggie, cantores y ddeuawd canu gwlad Iona ac Andy. Bu nifer o grwpiau pop hefyd oedd â'u gwreiddiau yn y dyffryn, megis Brethyn Cartref a Topper.

Cyfeiriadau

  1. Sylfaen yr erthygl hon yw paragraffau ar wefan Llechwefan [1], cyrchwyd 2.1.2021