Lleisiau Mignedd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Côr merched o Ddyffryn Nantlle yw Lleisiau Mignedd. Fe'i sefydlwyd ym 1982 ac mae'n parhau mewn bodolaeth hyd heddiw (2022). O 1982 hyd 2005, y baswr ac enillydd y Rhuban Glas, Maldwyn Parry, oedd yr arweinydd. Ef oedd yr arweinydd pan enillodd y côr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1988, yn ogystal â phan ddaeth y côr yn agos at ennill ar sawl achlysur arall. Bu'r côr dan ei arweiniad yn llwyddiannus deirgwaith yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd hefyd. Cafodd y côr lysenw, sef "Cywion Maldwyn".

Erbyn hyn, mae'r côr yn cael ei arwain gan Ceren Lloyd. Maent wedi cyhoeddi dwy grynoddisg o ganeuon, ac wedi ennill y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol eto, yn 2015 ym Meifod, am y côr merched gorau dros 20 o leisiau.