John Jones Owen
Roedd John Jones Owen (1876-1947) yn chwarelwr am chwarter canrif cyn dilyn ei wir alwedigaeth fel cerddor a chfansoddwr. Fe'i ganed 2 Mai 1876 ym Mryn-y-coed, Tal-y-sarn, yn ail fab i Hugh Owen (g.1833), crydd a oedd yn wreiddiol o Fellteyrn, a Mary, a aned ym 1840. Roedd y teulu’n byw ym Mryn-y-coed, Tal-y-sarn, ac roedd yna 6 o feibion a dwy ferch yn y teulu.[1]
Roedd yn frawd iau i Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy). Cafodd addysg gerddorol dda a dysgodd ganu'r organ a'r feiola. Ef oedd arweinydd côr merched Dyffryn Nantlle a gafodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1897. Penodwyd ef yn organydd capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhal-y-sarn ac olynodd ei dad fel codwr canu yno. Cyhoeddodd amryw o ddarnau cerddorol, a bu ei anthem Llusern yw dy air i'm traed, y ganig Yr Afonig a'r darn Lw-li-bei i blant yn boblogaidd.
Am flynyddoedd bu'n gyfeilydd poblogaidd ar draws y dyffryn, a bu'n dysgu rhai i chwarae'r piano hefyd. Roedd yn boblogaidd fel arweinydd cymanfaoedd ac yn feirniad cyson mewn cyfarfodydd cystadleuol a mân eisteddfodau'r sir. Roedd wedi teithio i'r Amerig ym 1910, gan ennill mewn cystadleuaeth Eisteddfod Utica.[2] Cymhwysodd yn ALCM yng Ngholeg Cerdd Llundain ym 1918.[3] Mae'n amlwg fod awydd gwella ei stad arno, ac ym 1915 ceisiodd am swydd Swyddog Presenoldeb Ardal Pen-y-groes o dan Bwyllgor Addysg y Sir. Fe gollodd y swydd o ryw ddwy bleidlais.[4]
Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1921 ac yno enillodd radd Mus.Bac. Daeth yn organydd a chôr-feistr Eglwys Efengylaidd Wilkesbarre. Bu'n gwasanaethu fel beirniad cerdd ac arweinydd cymanfaoedd canu ac roedd yn arweinydd Côr Meibion Orpheus y dref. Yno y bu farw 21 Ebrill 1947 a'i gladdu ym mynwent Mynydd Greenwood, Wilkesbarre.[5]