Tal-y-sarn Glee Society

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y Tal-y-sarn Glee Society yn gôr a ffurfiwyd gan Hugh Owen yn yr 1860au ym mhentref Tal-y-sarn. Dichon bod yr enw crand yn awgrymu fod awydd i godi uwchlaw safon a maes perfformio corau eraill Dyffryn Nantlle ac yn sicr cafwyd enwogrwydd ar draws Gogledd Cymru yn yr 1870au. Ar ôl i Hugh Owen ymddeol fel yr arweinydd, cymerodd William Francis, tad Y Brodyr Francis, drosodd tua 1870 hyd ei farwolaeth gynnar ym 1876. Parhaodd y côr am gyfnod ar ôl hynny, tan 1881 o leiaf; erbyn hynny y Tal-y-sarn Glee Party oedd yr enw a ddefnyddid gan y côr.

Unawdydd efo'r côr oedd Mary Owen (Mair Alaw) (nad oedd, hyd y gwyddys, yn perthyn i Hugh Owen, er bod Hugh Owen ac Owen Owen, ei thad, ill dau'n gryddion). Fe briododd Mary Owen â William Francis ym 1874.

Mae'n ymddangos mai côr a ddefnyddiai'r Hen Nodiant, yn hytrach na'r Tonic Sol-ffa, oedd y Glee Society, yn ôl rhai cyfeiriadau ati.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. e.e. Cerddor y Tonic Sol-ffa, Mai 1869, t.30