Band Dolydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Band bychan pentref Dolydd rhwng Y Groeslon a Llanwnda oedd Band Dolydd, fu mewn bodolaeth rhywbryd yn chwarter ola'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn ôl pob golwg nid oedd yn fand prysur na phoblogaidd, ac yn rhy fychan, mae'n debyg, i arwain gorymdaith. Yr unig gyhoeddiad y gwyddom iddo ei gadw oedd cymryd rhan (neu fod yr unig artistiaid yn wir) mewn cyngerdd noson waith yn yr ardal. Budd-gyngerdd oedd hwn i gynorthwyo teulu oedd mewn angen oherwydd gwaeledd ac fe'i cynhaliwyd mewn cae ger Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon.[1]

Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, Cyrn y Diafol, (2004).