Alexander Henderson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Alexander Henderson (1864-1914), y cyfeiriwyd ato weithiau fel Alec Henderson, yn chwarelwr wrth ei waith ond yn gerddor a baswr adnabyddus yn ei ddydd.

Chwarelwr oedd ei dad, John Henderson, tafarnwr a chasglwr tollau a aned yn yr Alban tua 1833 ond a oedd erbyn 1871 yn byw yng Nghaeathro, ac Anne, a hanai o Feddgelert. Alexander oedd yr hynaf o saith plentyn y teulu. Erbyn 1881 roedd y teulu wedi symud i gyffiniau Rhosgadfan a'r tad bellach yn labrwr mewn chwarel lechi. Bu farw tua 1898-9.[1] Ail-briododd Margaret ym 1901 (ar ôl marwolaeth William) â Richard Williams, gŵr o Gastell-nedd, Sir Forgannwg, a thrigent yn 10 Rhes Nantlle. Diddorol yw nodi o Gyfrifiad 1911 fod pawb yn y tŷ yn uniaith Gymraeg.[2]

Priododd Alexander gyda Jane Roberts o Nantlle ym 1886, gan wneud eu cartref yn rhes Bryncelyn, Tal-y-sarn. Erbyn 1901 roedd y teulu’n byw yn 28 Ffordd Coedmadog, Tal-y-sarn ac ym 1911, mewn tŷ o’r enw Tal Eryr yn yr un pentref. .[3]

Roedd Alexander Henderson yn eisteddfodwr brwd fel unawdydd, a bu’n boblogaidd fel baswr mewn cyngherddau yn ardal y llechi. Am rai blynyddoedd o gwmpas 1890, fo oedd arweinydd Côr Meibion Dyffryn Nantlle, ac ym 1889 enillodd y côr dan ei arweiniad yn Eisteddfod Llangefni..[4] Parhaodd fel unawdydd ac fel cystadleuydd mewn eisteddfodau cenedlaethol a lleol nes i salwch ei oddiweddyd. Roedd yn ddeuawdydd o fri hefyd, yn canu weithiau gyda'i chwaer, y gantores nodedig Mrs. Henderson Jones.[5] Roedd hefyd yn ddigon amlwg fel cerddor i gael ei le ymysg beirniaid cerdd eisteddfodau, megis yng nghyfarfod cystadleuol Corwen ym 1903.[6]

Chwaraeodd ei ran yn y gymuned yn gyffredinol hefyd, gan fod yn aelod a chadeirydd y Cyngor Plwyf ac yn llywydd cyntaf cangen Tal--y-sarn o'r Blaid Lafur Annibynnol.[7]

Bu’n aelod selog o’i gapel, sef Capel Mawr Tal-y-sarn. Bu farw ar ôl cystudd hir ar 23 Mawrth 1914, a’i gladdu ym Mynwent Macpela Gadawodd weddw a thri mab, Tom P., John Alwyne a Cledwyn.[[Y Darian, 9.4.1914, t.1</ref>

Ewyrth ydoedd i Alfred Henderson (1894-1979), yntau'n gerddor, yn chwarae'r corn, ac yn arweinydd Seindorf Dyffryn Nantlle. Roedd chwaer Alexander Henderson, Alice Henderson Jones, yn gantores enwog a aeth i America ym 1915.

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth o gyfrifiadau 1871-1891
  2. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1901 a 1911.
  3. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1891-1911.
  4. Y Genedl Gymreig, 17.7.1889, t.8; Yr Adsain, 7.4.1914, t.2
  5. Amryw o bapurau newydd lleol, 1890-1914
  6. Yr Wythnos a'r Eryr, 4.3.1903, t.6
  7. "Y Dinesydd Cymreig", 25.3.1914, t.8