Band Gwirfoddolwyr Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gelwid Band Gwirfoddolwyr Pen-y-groes ar lafar yn Band y Folyntiars, a chan y gwawdlyd yn Fand y Sowldiwrs Plwm. Daeth rhai chwaraewyr hyfedr o rengoedd y band hwn e.e. William J. Parry, goruchwyliwr Chwarel y Cilgwyn, un o oreuon y Corn Mawr.

Nid oedd y seindorf hon ymhlith y goreuon o seindyrf Cwmwd Uwchgwyrfai, ac ni fu ar y maes ond am rhyw ddeuddeng mlynedd. Cofir am y band hwn mewn cysylltiad â dau beth :

1. Roedd yng nghanol cythrwfl dychrynllyd yn Eisteddfod Talaith Gwynedd a gynhaliwyd ym Mhwllheli ym 1895. Cyfeirir at y digwyddiad fel Cyflafan Fawr Pwllheli a cheir yr hanes yn llawn yn [1]

2. Atyniad penna'r band oedd, nid ei allu cerddorol, ond yn hytrach ei arweinydd oriog a ffrwydrol. Ei enw oedd Griffith T. Roberts - Guto Bach oedd yn gyn-aelod a chwaraewr corn tenor ym Mand Dyffryn Nantlle. Stwcyn cryf a byr o gorffolaeth oedd Guto Bach. Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Cyrn y Diafol gan Geraint Jones 2004 tt. 123-127