Hugh Owen, cerddor
Dyn dŵad i Ddyffryn Nantlle oedd Hugh Owen (1832-1897), wedi ei eni ym Mellteyrn yn fab fferm Cefn yn y plwyf hwnnw. Ei rieni oedd Richard a Mary (neu efallai Catherine) Owen.[1] Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Botwnnog. Erbyn 1851, roedd wedi cael gwaith fel crydd yng Nghefn Engan, Llangybi, yn gweithio i Mary Hughes a’i mab Robert, yn ddau’n gryddion.[2] Aeth i weithio wedyn fel crydd yn Nhal-y-sarn. Wedi iddo briodi ei wraig Margaret, dynes o Lanynghenedl, Ynys Môn, rywbryd cyn 1861, aeth i fyw i Pen-yr-yrfa, lle mae’r Cyfrifiad yn ei ddisgrifio fel gwneuthurwr cyflogedig bŵts ac esgidiau. Erbyn 1871, mae’n debyg iddo sefydlu ei fusnes ei hun fel crydd. Bu farw Margaret yn ystod yr 1870au ac fe ail-briododd â Mary, merch o blwyf Llandwrog. Cawsant o leiaf saith mab ac un ferch: Richard Griffith (g.1869), Ellis (g.1870), Geth (g. 1872), John Jones (Owen) (g. 1874), Hugh Gomer (g.1876), Owen Llewelyn (g.1878 – a fabwysiadodd yr enw Owain Llywelyn Owain), Mary Catherine (g.1881) a Thomas Rees (g.1884). Erbyn 1881, roedd y teulu wedi symud i dŷ arall, 1 Pen-y-bont, ac erbyn 1891 i Fryn-coed. Erbyn 1891 roedd y rhan fwyaf o’r meibion hŷn wedi cael gwaith mewn chwarel – heblaw am Hugh Gomer a oedd yn brentis mewn swyddfa delegraff. Tybed a yw hyn yn awgrymu nad oedd digon o waith crydda i gadw rhai o’r plant yn y busnes.
Serch holl ofynion ei fusnes a galwadau fel penteulu, roedd yn treulio llawer o'i amser yn annog ac yn arwain cerdd yn y dyffryn - er dichon fod modd iddo ennill peth arian wrth arwain, beirniadu a chyfeilio. Eglwyswr ffyddlon ydoedd, ond oherwydd ei ddawn gerddorol penodwyd ef yn godwr (neu arweinydd) canu yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Tal-y-sarn, a bu yn y swydd honno am dros 40 mlynedd. Bu’n teithio ar draws Gogledd Cymru a chyn belled â dinasoedd Lloegr gyda'r Tal-y-sarn Glee Society, côr a sefydlwyd ganddo. Cymerodd ran mewn sefydlu gŵyl gerddorol Eryri, 1866, a chymerai ei gôr ran ynddi'n flynyddol. Ym 1871 daeth ei gôr cymysg yn gyntaf yn Eisteddfod Porthmadog.
Bu farw 4 Mehefin 1897 ac fe’i claddwyd ym mynwent Salem, Llanllyfni.
Dilynodd ei fab, Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy) (1869-1930), yn ôl traed ei dad fel cerddor, er iddo arbenigo’n fwy na'i dad ym maes trefnu cerddoriaeth. [3]