Categori:Tramffyrdd
Mae dwy ystyr i'r gair Tramffordd. Yn y trefi mawr, arferid gosod tramffyrdd i gludo pobl mewn tramiau (rhai deulawr yn aml) ar hyd y strydoedd. Yng Ngogledd Cymru, digwyddai hyn yn LLandudno a Bae Colwyn, ac yn Wrecsam.
Ystyr hŷn, a'r ystyr briodol ar gyfer Uwchgwyrfai, yw rhesi o gledrau a osodwyd i hwyluso symud llwythi trymion, fel arfer llechi, mwynau neu ithfaen. Arferid defnyddio ceffylau, er tua diwedd y 19g, dechreuwyd defnyddio injans stêm ar rai o'r tramffyrdd mwyaf.
Erthyglau yn y categori "Tramffyrdd"
Dangosir isod 15 tudalen ymhlith cyfanswm o 15 sydd yn y categori hwn.