Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
Mae'n bur debyg fod cysylltiad â chlas Beuno ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir ''Brut y Tywysogion''. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i Glynnog o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw ''Le Geffrey'' wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), tt.2, 4, 9.</ref> | Mae'n bur debyg fod cysylltiad â chlas Beuno ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir ''Brut y Tywysogion''. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i Glynnog o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw ''Le Geffrey'' wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), tt.2, 4, 9.</ref> | ||
Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19gg. Roedd gwraig Syr Ifor Williams yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), t.35</ref> | Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19gg. Roedd gwraig Syr Ifor Williams yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), t.35</ref> [[Delwedd: Y Borth, Clynnog c.1890.jpg]] | ||
Nodir yn llyfr David Thomas hefyd fod llong wedi ei hadeiladu yng Nghlynnog - dichon mai wrth geg [[Afon Desach]] neu yn [[Aberafon]] y digwyddai hyn lle 'roedd modd lansio cwch o'r lan i'r dwr ar adeg o lanw uchel: creigiau a cherrig sydd ar y traeth ei hun. Ym 1780 adeiladwyd y llong, sef y ''Nancy'', 32 tunnell o faint. Fe hwyliodd hi hyd nes iddi suddio ym 1817.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), t.206</ref> | Nodir yn llyfr David Thomas hefyd fod llong wedi ei hadeiladu yng Nghlynnog - dichon mai wrth geg [[Afon Desach]] neu yn [[Aberafon]] y digwyddai hyn lle 'roedd modd lansio cwch o'r lan i'r dwr ar adeg o lanw uchel: creigiau a cherrig sydd ar y traeth ei hun. Ym 1780 adeiladwyd y llong, sef y ''Nancy'', 32 tunnell o faint. Fe hwyliodd hi hyd nes iddi suddio ym 1817.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), t.206</ref> |
Fersiwn yn ôl 21:42, 18 Mai 2019
Clynnog Fawr yw plwyf mwyaf Uwchgwyrfai o ran arwynebedd. Enw llawn y plwyf yw "Clynnog Fawr yn Arfon". Ystyr "Clynnog" yw man lle mae coed celyn yn tyfu. Yn wir, ceir enghreifftiau o'r enw Y Gelynnog mewn dogfennau cynnar.
Yn ogystal â phentref Clynnog Fawr ei hun,ble mae'r eglwys ac nid nepell o'r môr, mae'r plwyf yn cynnwys y pentrefi neu'r treflannau canlynol: Capel Uchaf, Tai'n Lôn, Pontlyfni, Brynaerau, Aberdesach ac, ym mhenucha'r plwyf, Pant-glas, yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig Bwlchderwin.
Mae'n debygol y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Glynnog Fechan ym mhlwyf Llangeinwen, sir Fôn, lle oedd gan y sefydliad crefyddol (neu 'glas') a sefydlwyd gan Beuno diroedd - neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun.
Ffiniau a thirwedd
Mae i'r de o blwyfi Llandwrog a Llanllyfni (gan godi dros Fynydd Graig Goch hyd at gopa Craig Cwm Dulyn), ac i'r gogledd o blwyf Llanaelhaearn, yn ogystal â ffinio ar nifer o blwyfi Eifionydd, hefyd ar ei ffin ddeheuol.
Yr oedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.
Yr eglwys a'i sant
Credir i Beuno Sant sefydlu 'clas' neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen flwch derw a elwir yn gyff Beuno sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymu'r mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim ond fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.
Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw Beuno Sant, ei sylfaenydd tybiedig, sydd â sant sydd yn gysylltiedig a sawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws Bae Caernarfon o Glynnog Fawr ymysg eraill.
Nid nepell o'r eglwys ceir Ffynnon Beuno, ychydig i'r de ar ochr yr hen lôn bost cyn cyrraedd Maes Glas.
Roedd ysgol yng Nghapel Beuno (Eglwys y Bedd) ym 1811.
Y traeth, pysgota môr a hwylio
Mae'n bur debyg fod cysylltiad â chlas Beuno ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir Brut y Tywysogion. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i Glynnog o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw Le Geffrey wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.[1]
Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19gg. Roedd gwraig Syr Ifor Williams yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.[2]
Nodir yn llyfr David Thomas hefyd fod llong wedi ei hadeiladu yng Nghlynnog - dichon mai wrth geg Afon Desach neu yn Aberafon y digwyddai hyn lle 'roedd modd lansio cwch o'r lan i'r dwr ar adeg o lanw uchel: creigiau a cherrig sydd ar y traeth ei hun. Ym 1780 adeiladwyd y llong, sef y Nancy, 32 tunnell o faint. Fe hwyliodd hi hyd nes iddi suddio ym 1817.[3]
Tai a phobl nodedig
Prif dŷ'r plwyf yn yr amser a fu,efallai, oedd Lleuar Fawr. Roedd Mynachdy Gwyn ym mhen ucha'r plwyf, cartref teulu Meredydd neu Feredith hefyd yn fangre o ddylanwad.
Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd:
- Morys Clynnog
- Sant John Jones
- Sion Gwynedd (John Gwyneth), cerddor
- Ebenezer Thomas (Eben Fardd), ysgolfeistr, bardd a llenor
- William Owen (Gwilym Ddu Glan Hafren), ysgolfeistr, bardd a cherddor
- Robert Price, Melin Faesog, melinydd a saer coed
- Edgar Christian, anturiaethwr a dyddiadurwr
- Sion Robert Lewis y seryddwr a'r almanaciwr
- Robert Roberts y "seraff bregethwr"
- Syr Ifor Williams, ysgolhaig
- R. Dewi Williams, prifathro Ysgol Ragbaratoawl y Methodistiaid Calfinaidd - "Ysgol Eben Fardd" - a llenor.
- Hywel Roberts (Hywel Tudur), bardd, pregethwr a dyfeisydd
Y pentref
Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllheli - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref. Arferai fod yn gyrchfan bwysig, nid yn unig oherwydd y cysylltiadau â Beuno, ond hefyd gan mai dyma'r pentref oedd yr agosaf at hanner y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac roedd galw am dafarnau a gwesty coets fawr yma. Fodd bynnag, aeth llawer o'r busnes i gyfeiriad y rheilffordd, pan agorodd honno i Bwllheli (trwy Afon-wen) ym 1867. Ys dywed W. R. Ambrose: "Er pan agorwyd Rheilffordd Sir Gaerynarfon y mae pentref Clynnog wedi myned yn un o'r cilfachau mwyaf tawel a neillduedig o fewn y wlad."[4]
Bu nifer o dafarnau a siopau a gweithdai crefftwyr, yn cynnwys gefail, yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y gwesty olaf, Y Beuno, yn nechrau'r 2010au a'i osod yn lle gwyliau hunan ddarpar. Roedd swyddfa'r post a oedd hefyd yn siop wedi cau erbyn hynny, ond mae siop arall wedi agor yn y garej ar gyrion y pentref. Ar un cyfnod caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn yr Ysgoldy ble mae Canolfan Hanes Uwchgwyrfai wedi ei sefydlu - yn hen Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, sef ysgol y Methodistiaid Calfinaidd a gychwynnodd ddarpar weinidogion ar eu gyrfa o astudio am y weinidogaeth. Fe'i caewyd ym 1929 a'i throsglwyddo i'r Rhyl.
Agorwyd Neuadd y Pentref, Clynnog Fawr yn Ebrill 1957.
Prif nodweddion y pentref yw'r Eglwys, ffynnon Beuno a Chromlech Bachwen.
Digwyddiadau
Hydref 5 1652: Cosbi William Rowland am halogi'r Saboth. Ei drosedd oedd gyrru gyrr o wartheg o Landwrog i Bwllheli. Fe'i dirwywyd i 10 swllt.
Mehefin 25 1976: Torri ceubren y pentref ger Tyrpaig. Yn ôl traddodiad byddai'r pentref farw pe gwneid hyn. Lluniau i ddilyn a rhagor o hanes.