Aberafon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Aber Afon yn enw ar fferm sylweddol ym mhentref Gurn Goch, plwyf Clynnog Fawr. Bellach mae'n cael ei defnyddio fel gwersyll ar gyfer carafannau. Mae'n sefyll wrth aber fechan Afon Hen sy'n rhedeg i lawr Cwm Gwara at y môr. Dichon bod cychod wedi arfer â glanio ar y traeth ger yr aber, gan fod hen fapiau'n dangos fod odyn galch yno a fyddai'n llosgi calch a fyddai'n cyrraedd ar fwrdd llongau hwylio yn y 19g.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans 6", 1af Olygyddiad