Afon Hen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Afon Hen ger ei tharddle
Afon Hen ger Pont-y-felin

Mae Afon Hen yn tarddu yng nghorstir mynyddig Cors-y-ddalfa, tua 310 metr i fyny rhwng bryniau Bwlch Mawr (509 m) a Gurn Ddu (522 m) a thua dwy filltir i'r de o bentref Clynnog Fawr. Yn lleol, mae enw arall arni, sef Afon Ddalfa, gan ei bod yn codi yng Nghors-y-ddalfa.

Mae Afon Hen yn llifo trwy Gwm Gwara ym mhlwyf Clynnog Fawr gan ddisgyn yn drawiadol yn rhaeadr Pistyll Dafn. Mae'n cyrraedd y môr yn Aberafon ger pentref Gurn Goch. Ar un adeg fe ddefnyddid dŵr yr afon i droi Melin Gurn Goch ger Pont-y-felin.

Yn agos i darddle'r afon, ar lethrau Gurn Ddu, ceir dwy garnedd gynhanesyddol sy'n dyddio o Oes yr Efydd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau