Pistyll Dafn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pistyll Dafn yn un o’r ychydig raeadrau sylweddol yn Uwchgwyrfai. Nodir ei leoliad – ond nid ei enw – ar fapiau’r Arolwg Ordnans. Ceir hyd iddo ar Afon Hen – a elwir yn lleol yn Afon Ddalfa – tua phen draw Cwm Gwara, yn y blanhigfa goed.

Mae Pistyll Dafn yn cael ei alw’n 'Rhaeadr Dibyn Mawr’ yn bur gyffredin mewn llyfrau taith o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.[1] Mae hefyd wedi cael ei alw’n ‘Hen Waterfall’ yn Saesneg.[2]

Yn ei llyfr Sul, Gŵyl a Gwaith ceir hanes yr awdur, Catrin Parri Huws, yn mynd i weld Pistyll Dafn, yr ochr uchaf i fferm Cwmgwara. Byddai ymwelwyr yn heidio yno yng nghyfnod ei phlentyndod. ‘Ymhen blynyddoedd wedi hynny fe geisiais innau fynd â’m plant i weld y rhyfeddod. Ond methiant a fu, oherwydd y dagfa o’r brwgaits tewaf. Ni chlywid ei dinc, hyd yn oed, fel yn yr amser gynt.’[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Er enghraifft, W. Bingley. Wales; including its Scenery, Antiquities, Customs. 2 gyf. (London: T. N. Longman and O. Rees, 1804), cyf. 1, t. 402; Askew Roberts ac Edward Woodall, Guide to Wales (North Wales and Aberystwyth) (London: Simpkin, Marshall, Hamilton, Kent & Co., 1902), t. 112.
  2. John Llewelyn Jones, Waterfalls of Wales (London: Robert Hale, 1986), t. 221.
  3. Catrin Parri Huws, Sul, Gŵyl a Gwaith (Gwasg Gwynedd, 1981).