Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:


==Ffiniau a thirwedd==
==Ffiniau a thirwedd==
Nid oes unrhyw rhan o'r arfordir o fewn plwyf Llanllyfni - dyma unig un o blwyfi Uwchgwyrfai heb ddarn o arfordir. Mae plwyf [[Llandwrog]] i'r gogledd, a phlwyf [[Clynnog Fawr]] i'r gorllewin a'r de. Mae afon Llyfnwy'n ffurfio'r ffin rhwng plwyfi Clynnog a Llanllyfni rhwng fferm Dol-gau a [[Pont-y-cim|Phont-y-Cim]]. Mae ffin Llanllyfni'n codi i ben crib Nantlle tua phen dwyreiniol Craig Cwm Dilyn, gan gwrdd â ffin plwyf Dolbenmaen â chwmwd Eifionydd yn y fan honno. Mae ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle jhefyd yn eido i blwyf Llanllyfni.
Nid oes unrhyw rhan o'r arfordir o fewn plwyf Llanllyfni - dyma unig un o blwyfi Uwchgwyrfai heb ddarn o arfordir. Mae plwyf [[Llandwrog]] i'r gogledd, a phlwyf [[Clynnog Fawr]] i'r gorllewin a'r de. Mae afon Llyfnwy'n ffurfio'r ffin rhwng plwyfi Clynnog a Llanllyfni rhwng fferm Dol-gau a [[Pont-y-Cim|Phont-y-Cim]]. Mae ffin Llanllyfni'n codi i ben crib Nantlle tua phen dwyreiniol Craig Cwm Dilyn, gan gwrdd â ffin plwyf Dolbenmaen â chwmwd Eifionydd yn y fan honno. Mae ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle jhefyd yn eido i blwyf Llanllyfni.


Mae rhannau'r plwyf rhwng y briffordd i Borthmadog a'r ffîn ger [[Pontlyfni]] yn dir amaethyddol gweddol dda er gwaethaf ei natur tywodlyd, ond tir mynyddig, gwlad y tyddynod bach a'r mynydd agored yw llawer o'r gweddill. Ceir creigiau serth iawn a rhostir ar lethrau [[Cwm Silyn]] a [[Cwm Dulyn|Cwm Dulyn]]. Mae llawer o'r llethrau hefyd wedi eu creithio gyda thomennydd llechi - er, at ei gilydd, mae'r gwythiennau o dan lefel y pridd, ac felly gwnaed tyllau mawr i gyrraedd at y graig fwyaf cynhyrchiol.
Mae rhannau'r plwyf rhwng y briffordd i Borthmadog a'r ffîn ger [[Pontlyfni]] yn dir amaethyddol gweddol dda er gwaethaf ei natur tywodlyd, ond tir mynyddig, gwlad y tyddynod bach a'r mynydd agored yw llawer o'r gweddill. Ceir creigiau serth iawn a rhostir ar lethrau [[Cwm Silyn]] a [[Cwm Dulyn|Cwm Dulyn]]. Mae llawer o'r llethrau hefyd wedi eu creithio gyda thomennydd llechi - er, at ei gilydd, mae'r gwythiennau o dan lefel y pridd, ac felly gwnaed tyllau mawr i gyrraedd at y graig fwyaf cynhyrchiol.


==Yr eglwys a'i sant==
==Yr eglwys a'i sant==
Mae hen [[Eglwys Llanllyfni|eglwys y plwyf]] wedi ei chysegru yn enw [[Rhedyw Sant]], ac fe saif ar lan afon Llyfnwy. Codwyd eglwysi ar gyfer y boblogaeth oedd yn cynyddu mewn rhannau eraill y plwyf, ym Mhen-y-groes a Thal-y-sarn yn ystod canol y 19g.
Mae hen [[Eglwys Sant Rhedwyw, Llanllyfni|eglwys y plwyf]] wedi ei chysegru yn enw [[Rhedyw Sant]], ac fe saif ar lan afon Llyfnwy. Codwyd eglwysi ar gyfer y boblogaeth oedd yn cynyddu mewn rhannau eraill y plwyf, ym Mhen-y-groes a Thal-y-sarn yn ystod canol y 19g.


Er i'r eglwys gael ei hadnewyddu'n sylweddol ym 1879, mae'r rhannau hynaf yn dyddio'n ôl i'r 14g.
Er i'r eglwys gael ei hadnewyddu'n sylweddol ym 1879, mae'r rhannau hynaf yn dyddio'n ôl i'r 14g.
Llinell 18: Llinell 18:


==Tai pwysig ac enwogion==
==Tai pwysig ac enwogion==
Nid oedd plasty mawr yn y plwyf , er bod nifer o dai'n perthyn i fân fonheddwyr. Lleuar Fawr, efallai oedd y cartref pwysicaf; roedd yn gartref i'r milwr Piwritannaidd [[George Twistleton]] a briododd ferch oedd yn perthyn i [[teulu Glynn (Glynllifon)|deulu Glynn]].
Nid oedd plasty mawr yn y plwyf , er bod nifer o dai'n perthyn i fân fonheddwyr. [[Lleuar Fawr]], efallai oedd y cartref pwysicaf; roedd yn gartref i'r milwr Piwritannaidd [[George Twisleton]] a briododd ferch oedd yn perthyn i [[teulu Glynn (Glynllifon)|deulu Glynn]].


Ymysg pobl nodedig a hanai (neu sydd yn hanu) o'r plwyf yr oedd/y mae:
Ymysg pobl nodedig a hanai (neu sydd yn hanu) o'r plwyf yr oedd/y mae:

Fersiwn yn ôl 16:06, 25 Ebrill 2018

Mae Llanllyfni yw un o blwyfi Uwchgwyrfai. Yn ogystal â phentref Llanllyfni sydd yn ymestyn o lannau afon Llyfnwy i fyny'r allt ar hyd yr hen lôn bost, mae nifer o bentrefi a threflannau eraill o fewn ffiniau'r plwyf: Pen-y-groes (prif bentref Dyffryn Nantlle), Tal-y-sarn, Tanr'allt, Nebo a Nasareth. Ers i ffiniau plwyfi (neu gymunedau, i roi eu teitl swyddogol iddynt) newid tua diwedd yr 20g, mae Llanllyfni hefyd yn cynnwys pentref Nantlle.

Ffiniau a thirwedd

Nid oes unrhyw rhan o'r arfordir o fewn plwyf Llanllyfni - dyma unig un o blwyfi Uwchgwyrfai heb ddarn o arfordir. Mae plwyf Llandwrog i'r gogledd, a phlwyf Clynnog Fawr i'r gorllewin a'r de. Mae afon Llyfnwy'n ffurfio'r ffin rhwng plwyfi Clynnog a Llanllyfni rhwng fferm Dol-gau a Phont-y-Cim. Mae ffin Llanllyfni'n codi i ben crib Nantlle tua phen dwyreiniol Craig Cwm Dilyn, gan gwrdd â ffin plwyf Dolbenmaen â chwmwd Eifionydd yn y fan honno. Mae ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle jhefyd yn eido i blwyf Llanllyfni.

Mae rhannau'r plwyf rhwng y briffordd i Borthmadog a'r ffîn ger Pontlyfni yn dir amaethyddol gweddol dda er gwaethaf ei natur tywodlyd, ond tir mynyddig, gwlad y tyddynod bach a'r mynydd agored yw llawer o'r gweddill. Ceir creigiau serth iawn a rhostir ar lethrau Cwm Silyn a Cwm Dulyn. Mae llawer o'r llethrau hefyd wedi eu creithio gyda thomennydd llechi - er, at ei gilydd, mae'r gwythiennau o dan lefel y pridd, ac felly gwnaed tyllau mawr i gyrraedd at y graig fwyaf cynhyrchiol.

Yr eglwys a'i sant

Mae hen eglwys y plwyf wedi ei chysegru yn enw Rhedyw Sant, ac fe saif ar lan afon Llyfnwy. Codwyd eglwysi ar gyfer y boblogaeth oedd yn cynyddu mewn rhannau eraill y plwyf, ym Mhen-y-groes a Thal-y-sarn yn ystod canol y 19g.

Er i'r eglwys gael ei hadnewyddu'n sylweddol ym 1879, mae'r rhannau hynaf yn dyddio'n ôl i'r 14g.

Dichon bod eglwys ar y safle ers dyddiau cynnar Christnogaeth yng Nghymru, wedi ei sefydlu gan Redyw ei hun yn ystod y 5g. Dywedir mai un o Arfon ydoedd, er iddo symud i ardal Autun yn Ffrainc.

Ei Gŵyl Mabsant yw'r 6 Gorffennaf, pan gynhelir Gŵyl Rhedyw (neu Ffair Llanllyfni) yn flynyddol. Mae Ffynnon Rhedyw gerllaw, a ddefnyddid ar gyfer bedyddio yn y gorffennol.

Mae Eglwys Rhedyw Llanllyfni yn nodedig yn y cyfnod presennol am ei bod yn parhau i gynnal Gwasanaeth Plygain ar fore dydd Nadolig, gan gychwyn am 7 o'r gloch.

Tai pwysig ac enwogion

Nid oedd plasty mawr yn y plwyf , er bod nifer o dai'n perthyn i fân fonheddwyr. Lleuar Fawr, efallai oedd y cartref pwysicaf; roedd yn gartref i'r milwr Piwritannaidd George Twisleton a briododd ferch oedd yn perthyn i deulu Glynn.

Ymysg pobl nodedig a hanai (neu sydd yn hanu) o'r plwyf yr oedd/y mae:

Y pentref

Yn ei hanfod, un stryd hir yn esgyn yr allt o'r bont dros afon Llyfnwy yw Llanllyfni. Mae yno neuadd sylweddol ac ysgol, ond mae'r siop a swyddfa'r post, a'r dafarn, Y Cwari (neu, yn swyddogol, y "Quarryman's Arms") i gyd wedi cau. Chwalwyd y capeli i gyd ond Capel Ebeneser (B). Ar un adeg, bu crynwyr yn yr ardal ac mae mynwent yma lle claddwyd crynwyr y gorffennol. Roedd y Bedyddwyr Sandimanaidd (enwad bach Albanaidd) hefyd yn ffynnu yma. Bellach, mae'r pentref yn fath ar faesdref i Ben-y-groes hanner milltir i'r gogledd, lle ceir nifer o gyfleusterau a gwasanaethau.

Dyma ddyfyniad o hanes Llanllyfni yng nghyfnod plentyndod Ellen Evans a aned yng Nghae Du Isaf ar Hydref 13 1888:

"Yr oedd Llanllyfni yn ganolfan bwysig yn y dyddiau gynt gan mai yno yr arhosai'r goits fawr i gyfnewid ceffylau ar ei ffordd rhwng Porthmadog a Chaernarfon; yn Llanllyfni yr arferid cadw moch tewion dros nos ar eu taith o Eifionydd i farchnad Caernarfon, mewn lle o'r enw Penbryn Moch; Llanllyfni oedd canolfan y plwy ac yno yr oedd y fynwent. Nid oedd son am fynwent Macpela, Pen-y-groes na mynwent Gorffwysfa, Llanllyfni yn fy ieuenctid i ac yn Llanllyfni y cleddid trigolion y pentrefi cyfagos. Yno y claddwyd John Jones Tal-y-sarn, ac o ystyried nifer y bobl a ddaeth i'w gynhebrwng nid yw'n syndod y dywedir iddo ymestyn yr holl ffordd o Dal-y-sarn i Lanllyfni....."

"Yr oedd Llanllyfni hefyd yn ganolfan siopa bwysig a dyma'r siopau a oedd yno yn fy mhlentynod i: Siop Uchaf, Siop Liverpool House a Siop London House (siopau mawrion yn gwerthu blawdiau a phopeth oedd y rhain), Siop Rhedyw (blawdiau), Y Llythyrdy (hefyd yn gwerthu blawdiau a warws wrth ei ochr), Siop Manchester House (siop ddillad fawr), Y Becws, Y Becws Isaf, Stanley House (cartref y teilwriaid a weithiai i Manchester House cyn iddynt symud i fyw i Compton House), Siop Gruffudd Jones y Cigydd (fe gododd dy ar Lon Coecia yn ddiweddarach ac fe'i galwodd yn Bod Ruffudd), a Siop Robert Williams y Cigydd (hen lanc oedd ef ar roedd ei frawd yn gigydd ym Mhen-y-groes). Yn ychwanegol at hyn yr oedd nifer o siopau bach yn gwerthu fferins a phapurau newydd a thrigai clocsiwr yn un o'r tai.

"Cofiaf bum ty tafarn yn y pentref, sef Barmouth Tavern, Fort Tavern, Quarrymen's Arms, King's Head a Thafarn y Coecia (a godwyd yn arbennig ar gyfer gweithwyr y rheilffordd)."

Addysg

Dyma ddyfyniad o Lyfr Log yr ysgol a gofnodwyd gan Howell Roberts (Hywel Tudur), yr ysgolfeistr :

Dec. 20th 1872: "...the past week is memorable in the fact that Welsh has been transported from the premises in all the standards below Standard 3. From the playground also in Standards 3 and 4 and from the road leading to the playground as well in Standards 5 and 6." [1]

Cyfeiriadau

  1. Allan o Hywel Tudur 1840-1922 Bardd, Pregethwr, Dyfeisydd Golygwyd gan Catrin Pari Huws (Gwasg Pantycelyn,1993) tt23-5