Hafan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 8: Llinell 8:
|'''GWEITHDY'R COF'''<br>
|'''GWEITHDY'R COF'''<br>


'''Dewch i helpu yn y gwaith o ddatblygu Cof y Cwmwd. Os nad ydych yn gyfarwydd â'r meddalwedd a ddefnyddiwn, byddwn yn esbonio i chi sut i fynd ati. '''<br> Bore braf  a chymdeithasol yng nghwmni rhai eraill sydd â diddordeb yn hanes eu bro.
'''Diolch i'r rhai a ddaeth i Weithdy'r Cof yn Ysgoldy Eben Fardd, Clynnog Fawr, ddydd Sadwrn 3 Chwefror. Crëwyd tua dwsin o erthyglau am bynciau newydd ac ychwanegwyd at nifer o erthyglau eraill a'u gwneud yn fwy cynhwysfawr.'''


'''10-12 bore Sadwrn 3 Chwefror 2024 Ysgoldy Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr'''.  
OND mae llawer mwy i'w wneud. Gwyliwch allan am ddyddiad y gweithdy nesaf, gyda nos yn ôl pob tebyg, rywbryd yn ystod mis Ebrill.


Dewch â gliniadur neu iPad sy'n gallu cysylltu â'r we gyda chi.
Yn y cyfamser, beth am ein helpu ni i gyrraedd y garreg filltir nesaf, sef 1700 o wahanol erthyglau. Gall unrhyw un gyfrannu hanesion, ffeithiau a disgrifiadau am bobl, lleoedd, digwyddiadau a thraddodiadau'r fro arbennig hon. Mae'r cyfarwyddiadau isod.


Am fwy o fanylion neu i ddeud eich bod am ddod, anfonwch neges at '''cofycwmwd@gmail.com''' - neu trowch i fyny ar y diwrnod


'''CROESO I BAWB'''
|-
|-
|}
|}

Fersiwn yn ôl 19:24, 4 Chwefror 2024

Cof y Cwmwd


Dyffryn Nantlle o Lôn Eifion.
GWEITHDY'R COF

Diolch i'r rhai a ddaeth i Weithdy'r Cof yn Ysgoldy Eben Fardd, Clynnog Fawr, ddydd Sadwrn 3 Chwefror. Crëwyd tua dwsin o erthyglau am bynciau newydd ac ychwanegwyd at nifer o erthyglau eraill a'u gwneud yn fwy cynhwysfawr.

OND mae llawer mwy i'w wneud. Gwyliwch allan am ddyddiad y gweithdy nesaf, gyda nos yn ôl pob tebyg, rywbryd yn ystod mis Ebrill.

Yn y cyfamser, beth am ein helpu ni i gyrraedd y garreg filltir nesaf, sef 1700 o wahanol erthyglau. Gall unrhyw un gyfrannu hanesion, ffeithiau a disgrifiadau am bobl, lleoedd, digwyddiadau a thraddodiadau'r fro arbennig hon. Mae'r cyfarwyddiadau isod.



Croeso i Cof y Cwmwd. Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein bro a'i phobl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n hawdd iawn i chi ddefnyddio'r wefan - os ydych wedi defnyddio Wicipedia rywbryd, byddwch yn gwybod mor hawdd ydy hi: mi rydan ni'n defnyddio'r un un meddalwedd.

Uwchgwyrfai
Uwchgwyrfai

Mae Cof y Cwmwd yn ymdrin ag ardal Uwchgwyrfai, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol Clynnog Fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda; yr oedd Llanwnda'n blwyf mwy yn y gorffennol, gan gynnwys darn gorllewinol plwyf modern Betws Garmon. Mae Uwchgwyrfai yn cynnwys Dyffryn Nantlle i gyd ac ochr Gorllewinol Dyffryn Gwyrfai o'r môr i lan Llyn y Gader. Cof y Cwmwd yw un o weithgareddau Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Cewch fwy o wybodaeth am Cof y Cwmwd wrth glicio yma.

Diolch i'n noddwyr presennol am sicrhau parhad y wefan, ac hefyd i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ariannu'r gwaith o'i sefydlu.



Sut i ddarllen erthygl neu ganfod ffeithiau

Defnyddiwch y blwch Chwilio ar ben y sgrîn hon, ar y dde - neu gliciwch Holl gategorïau ar y rhestr ar y chwith i weld pa gategorïau o bynciau sydd ar gael. Os gwelwch eiriau lliw glas rhywle ar y wefan hon, gallwch gliciwch arnynt ac mi ewch yn syth at yr erthygl berthnasol.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cliciwch yma i ganfod dolennau at wefanau eraill all fod o ddefnydd i chi.

NEU BETH AM... ddysgu rhywbeth newydd am eich dyffryn? Cliciwch ar Tudalen ar hap ar y chwith a 'does wybod be' wnewch chi ei ddysgu


Erthyglau newydd

Uwchgwyrfai o Fwlch yr Eifl
  1. David Williams, Fern Villa
  2. Y Bryn
  3. Y Bryn, Llanwnda
  4. Cae Sais, Llanwnda
  5. Fern Villa
  6. Fern Villa, Llanwnda
  7. Bryn Crach
  8. Pwll tywod
  9. Tan-y-cefn
  10. Tan-cefn
  11. Dewi Arfon
  12. Carwyn Eckley
  13. Liz Saville Roberts
  14. Cwm Cerwin
  15. Coedlan Carl
  16. Pant-glas Inn
  17. Tafarn Pant-glas
  18. Treth Aelwyd 1662
  19. Stemar y ''Monk''
  20. Michael Roberts

Cyfanswm: 1,777 erthygl

Sut i ychwanegu gwybodaeth

Gwefan gydweithredol yw Cof y Cwmwd a chaiff pawb ychwanegu ati'n uniongyrchol dros y we. Hawdd iawn yw i unrhyw un ychwanegu ffeithiau at erthygl, neu greu erthygl o'r newydd. Rydym yn eich gwahodd chi i gyd i wneud hynny, a hynny'n gynnes iawn.

Uwchgwyrfai o Rosgadfan

Mae arnom wir angen eich cyfraniadau er mwyn sicrhau y bydd Cof y Cwmwd yn cynnwys pob elfen o hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal. Cyflwynwch eich gwybodaeth; dyna sut y daw ffeithiau newydd i'r golwg. Am fwy o wybodaeth am gyfrannu erthygl neu ychwanegu/cywiro ffeithiau, cliciwch yma.

Yn fwy na dim, mentrwch! Ni ellir gwneud dim i'r wefan nad yw'n bosibl i ni ei wrthdroi. Felly, allwch chi ddim gwneud stomp o bethau .

Iaith Cof y Cwmwd

Ffynhonnell o wybodaeth Gymraeg ei hiaith yw Cof y Cwmwd. Mae erthyglau Cymraeg am rai elfennau o hanes Uwchgwyrfai ar gael hefyd ar Wicipedia Cymraeg - ac wrth gwrs mewn ieithoedd eraill ar Wikipedia. Mae enwau lleoedd yn tueddu cael eu sillafu mewn sawl ffordd ac yr ydym ni wedi safoni'r sillafiad er mwyn i'r mynegai weithio'n iawn. Cewch weld y manylion trwy glicio yma. Os oes enw Cymraeg ar rywle yn Lloegr neu y tu draw, yr enw Cymraeg a ddefnyddir. Cofiwch hefyd fod modd i ffrindiau di-Gymraeg fentro cael cyfieithiad (o ryw fath!) o erthyglau Cof y Cwmwd trwy ddefnyddio Google Translate.


Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

Dyma'r ganolfan yng nghwmwd Uwchgwyrfai sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro. Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon.

Elusen gofrestredig yw Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.

Ewch i brif wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am fanylion llawn a'r newyddion diweddaraf.

A oes gennych sylwadau?

Mae modd rhoi sylwadau am unrhyw dudalen trwy ddefnyddio'r botwm Sgwrs ar ben erthygl (mae un ar dop y dudalen hon, er enghraifft). Ond os yw'n well gennych anfon e-bost, gallwch gysylltu â gweinyddwyr Cof y Cwmwd trwy yrru e-bost at cofycwmwd@gmail.com