Llyn y Gader
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Llyn y Gader (neu Llyn y Gadair fel y'i gelwir hefyd) i'r de o bentref Rhyd-ddu ac, yn dechnegol, mae'r cwbl ohono y tu allan i ffiniau Uwchgwyrfai ond dyma darddiad Afon Gwyrfai neu, fel y'i gelwir yn yr ardal, Afon Cwellyn neu Afon Llyn y Gader. Fodd bynnag, mae ffin plwyf Llanwnda, ac felly ffin Uwchgwyrfai, yn rhedeg ar hyd ymyl y llyn am ryw hyd ger y fan lle mae'r afon yn cychwyn ar ei thaith o'r llyn. Craig fawr ar ffurf cadair sy'n codi o'r llyn ar ochr yr ogledd-orllewinol iddo a roddodd ei enw iddo ac fe'i hanfarwolwyd hefyd yn un o sonedau enwocaf y bardd o Rhyd-ddu, T.H. Parry-Williams, sy'n dechrau â'r llinellau:
Ni wêl y teithiwr talog mono bron Wrth edrych dros ei fasddwr ar y wlad. Mae mwy o harddwch ym mynyddoedd hon Nag mewn rhyw ddarn o lyn, heb ddim ond bad Pysgotwr unig, sydd yn chwipio'r dŵr A rhwyfo plwc yn awr ac yn y man, Fel adyn ar gyfeiliorn, neu fel gŵr Ar ddyfroedd hunlle'n methu cyrraedd glan.[1]
Cyfeiriadau
1. T.H. Parry-Williams, Detholiad o Gerddi, (Gwasg Gomer, 1972), t.35.