Dyffryn Gwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dyffryn Gwyrfai yw dyffryn Afon Gwyrfai, sy'n rhedeg o bentref Rhyd-ddu i gyfeiriad y gogledd-orllewin nes cyrraedd ei haber yn y Foryd Bach, gan ffurfio ffin draddodiadol plwyf Llanwnda, ac yn wir Uwchgwyrfai ei hun, yr holl ffordd o darddiad yr afon yn Llyn y Gader i'r môr. Mae ochr ddwyreiniol y dyffryn yn rhan o gwmwd Isgwyrfai, gyda phlwyfi Llanfaglan, Llanbeblig (Treflan a Chastellmai), a Betws Garmon yn cyd-ochri â Llanwnda.

Rhed Afon Gwyrfai trwy lyn dyfnaf Eryri, sef Llyn Cwellyn, sydd ar waelod y dyffryn hanner ffordd rhwng Betws Garmon a Rhyd-ddu. Mae Llyn Cwellyn yn llyn naturiol ond mae wedi cael ei addasu fel cronfa ddŵr ar gyfer Caernarfon a'r gymdogaeth.

Prif ddiwydiant y dyffryn (ar wahân i amaethu) oedd chwarelu am lechi ar y ddwy ochr, a chloddio am fwynau megis haearn, yn bennaf ar ochr Isgwyrfai y cwm.[1]

Rhedai (ac erbyn hyn, rhed) rheilffordd drac cul, sef Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, a ail-enwyd yn Rheilffordd Ucheldir Cymru, ar hyd y dyffryn nes iddi gau ym 1937. Ailagorwyd y lein dan enw Rheilffordd Eryri fel lein i dwristiaid yn 2001.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


==Cyfeiriadau==
  1. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), passim.