Cyfrannu at Cof y Cwmwd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 19: Llinell 19:
* Teipiwch deitl yr erthygl (sef enw gwrthrych yr erthygl) yn y bocs Chwilio ar frig y dudalen hafan hon.
* Teipiwch deitl yr erthygl (sef enw gwrthrych yr erthygl) yn y bocs Chwilio ar frig y dudalen hafan hon.
* Os cewch [[sgript coch]], cliciwch arno ac mi fyddwch yn mynd at dudalen newydd y gallwch ddechrau ei llenwi - bydd y teitl yno eisoes yn disgwyl amdanoch!  
* Os cewch [[sgript coch]], cliciwch arno ac mi fyddwch yn mynd at dudalen newydd y gallwch ddechrau ei llenwi - bydd y teitl yno eisoes yn disgwyl amdanoch!  
* Angen syniadau? Cliciwch ar '''Tudalennau Arbennig''' ar y chwith, ac wedyn '''Erthyglau sydd eu hangen ''' (tua seithfed i lawr ar chwith y dudalen newydd), dewis pwnc mewn coch ac wedyn glicio arno, ac mi gewch dudalen newydd dan y teitl hwnnw.
* Angen syniadau? Cliciwch ar '''Tudalennau Arbennig''' yn rhestr ar ochr chwith y dudalen hon, ac wedyn '''Erthyglau sydd eu hangen ''' (y nawfed i lawr ar chwith y dudalen newydd fydd yn agor), dewis pwnc mewn coch ac wedyn glicio arno, ac mi gewch dudalen newydd dan y teitl hwnnw yn barod i chi ysgrifennu.


===Enwau lleoedd===
===Enwau lleoedd===

Fersiwn yn ôl 09:28, 9 Hydref 2018

Dyma sut mae cyfrannu at Cof y Cwmwd. Cofiwch hefyd fod yna botwm Cymorth ar ochr chwith y dudalen hon.

Ychwanegiadau a newidiadau

Mae croeso i unrhyw un gyfrannu ychwanegiadau/newidiadau:

  • Crëwch gyfrif (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes - nid oes angen unrhyw fanylion personol, mae'n cymryd tua 20 eiliad ac mae am ddim wrth gwrs!).
  • Wedyn cliciwch ar y tab 'Golygu'.

(Nid oes rhaid creu cyfrif i wneud golygiadau bychain.)

Creu erthygl newydd

Os ydych wedi mewngofnodi gan ddefnyddio enw eich cyfrif, cewch hefyd greu erthygl newydd neu eginyn (sef cychwyn erthygl newydd) ar unrhyw bwnc sydd heb fod yma eisoes, ar yr amod ei fod ar bwnc yn gysylltiedig ag Uwchgwyrfai (plwyfi Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda). Cofiwch fod tudanel Cymorth ar gael, ond i chi glicio ar y gair Cymorthar ochr chwith y sgrin.

Mae'n hawdd creu erthygl newydd:

  • Mewngofnodwch i'ch cyfrif. (Crëwch eich cyfrif yn gyntaf os oes angen.)
  • Teipiwch deitl yr erthygl (sef enw gwrthrych yr erthygl) yn y bocs Chwilio ar frig y dudalen hafan hon.
  • Os cewch sgript coch, cliciwch arno ac mi fyddwch yn mynd at dudalen newydd y gallwch ddechrau ei llenwi - bydd y teitl yno eisoes yn disgwyl amdanoch!
  • Angen syniadau? Cliciwch ar Tudalennau Arbennig yn rhestr ar ochr chwith y dudalen hon, ac wedyn Erthyglau sydd eu hangen (y nawfed i lawr ar chwith y dudalen newydd fydd yn agor), dewis pwnc mewn coch ac wedyn glicio arno, ac mi gewch dudalen newydd dan y teitl hwnnw yn barod i chi ysgrifennu.

Enwau lleoedd

Cymraeg yw iaith gwefan Cof y Cwmwd ac felly defnyddir yr enw Cymraeg bob tro, boed y lle yng Nghymru neu'n rhywle arall - a bwrw bod enw Cymraeg ar gael, e.e. "Lerpwl". Os yw'r enw'n bur anghyfarwydd, rhodder yr enw Saesneg mewn llythrennau italig mewn cromfachau ar ei ôl, e.e. "Yr Heledd Wen (Nantwich)".

Mae rhai enwau lleol yn cael eu sillafu mewn sawl ffordd, ac felly penderfynwyd glynu'n bennaf at sillafiad y rhestr safonol, sef Rhestr o Enwau Lleoedd/A Gazeteer of Welsh Place-names, [1] Trwy wneud hyn, bydd yn haws dod o hyd i holl gyfeiriadau at le. Yn achos rhai enwau megis Y Fron a elwir weithiau'n "Cesarea", a Gurn Goch (a sillefir yn aml iawn yn "Gyrn Goch"), bydd croesgyfeirio pobl i'r dudalen briodol.

Dyma'r ffurfiau sy'n cael eu defnyddio yng Nghof y Cwmwd: Bethesda Bach; Bwlchderwin; Clynnog Fawr; Drws-y-coed; Glan-rhyd; Gurn Goch; Isgwyrfai; Maestryfan; Pant-glas; Pen-y-groes; Pontlyfni; Rhosgadfan; Rhos-isaf; Rhostryfan; Rhyd-ddu; Tal-y-sarn; Tan'rallt; Tai Lôn; Tŷ'nlôn; Uwchgwyrfai; Y Bontnewydd; Y Fron; Y Groeslon.

Safon eich Cymraeg

Cymraeg yw unig iaith Cof y Cwmwd. OND - peidiwch â phryderu am safon eich Cymraeg; bydd ein gweinyddwyr yn hapus i newid unrhyw gamgymeriadau ac ni fydd neb yn gwybod pwy ydych chi os dewiswch ffugenw fel eich enw mewngofnodi. Un o'n hamcanion yw annog defnydd o'r Gymraeg wrth i ni drafod ein hanes.

Canllawiau cyfrannu

Ewch i Cymorth am ragor o fanylion ar sut i gyfrannu erthygl neu newid testun, mewnosod cyfeiriadau at ffynonellau ac ati. Ond dyma rai canllawiau i'w cadw mewn cof:

Mae'r rheolau'n syml iawn:

  1. Cofiwch sicrhau fod gennych ganiatád perchennog unrhyw hawliau mewn deunydd fel lluniau neu gerddi cyn ei gynnwys
  2. Dylai pob erthygl fod yn berthnasol i hanes a diwylliant Uwchgwyrfai a'i bobl
  3. Mae croeso i chi newid gwallau teipio, camdreiglo ac ati, ond...
  4. Gwyliwch rhag dileu dim byd nes i chi fod yn sicr y dylid ei ddileu (camgymeriadau, ffeithiau yr ydych yn siwr eu bod yn anghywir, ac ati)
  5. Rhaid peidio â chynnwys manylion personol unigolion sy'n dal yn fyw (cyfeiriad, rhif ffôn, ac ati) heb eu caniatád
  6. Nodwch ffynhonnell eich gwybodaeth (llyfr, erthygl, ac ati). Edrychwch yn Cymorth i weld sut mae gwneud hyn
  7. Nodwch yn y blwch ar waelod y dudalen beth yw natur unrhyw gyfraniad neu newid
  8. Cofiwch fod yn gwrtais bob amser. DIM sylwadau personol na beirniadaeth ar gyfranwyr eraill os gwelwch yn dda - na dim iaith anweddus ychwaith!

Y print mân

Pwrpas Cof y Cwmwd, fel pob wici, yw hwyluso cyfnewid gwybodaeth yn rhad ac yn rhwydd. Fodd bynnag rhaid gwarchod eich deunydd rhag i bobl ei ddefnyddio'n annheg neu beidio â’i gydnabod. I’r perwyl hwn, gweithredir yn unol â'r amodau isod.

Mae cyfraniadau, golygiadau ac ychwanegiadau ar gyfer wici Cof y Cwmwd yn cael eu derbyn gennych ar y ddealltwriaeth bod pob cyfrannwr yn trosglwyddo hawliau Comin Creu yn eu deunydd i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai ar sail ‘rhannu’n gyfatebol’, sef CC BY SA4. Bydd y deunydd yn cael ei gyhoeddi ar wici Cof y Cwmwd dan drwydded anfasnachol a mwy cyfyng, sef CC BY NC, am gyfnod all barhau hyd at 30 Mehefin 2023. Mae hyn yn golygu y gall Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ganiatáu defnydd priodol gan drydydd parti yn unol ag amodau’r drwydded, ond ni bydd modd i’r cyhoedd ailddefnyddio nac atgynhyrchu’r deunydd at ddibenion masnachol o unrhyw fath heb ganiatád tan ar ôl y dyddiad hwnnw. Wedi hynny gallai’r drwydded gael ei hymestyn i drwydded CC BY SA4, ond hyd yn oed wedyn, bydd rhaid i unrhyw ddefnyddiwr gydnabod ffynhonnell y deunydd. Am fanylion llawn y trwyddedau y sonnir amdanynt, ewch at https://creativecommons.org/share-your-work/licensing-types-examples/.

Ni ddylid cyfrannu unrhyw ddeunydd at wici Cof y Cwmwd os nad chi a’i creodd heb i chi'n gyntaf sicrhau bod gennych yr hawl i wneud hynny (e.e. gan y sawl a dynnodd lun neu a ysgrifennodd rywbeth).

Ni ddylech gyfrannu unrhyw beth at wici Cof y Cwmwd oni fyddech yn hollol fodlon i’r deunydd gael ei ailddefnyddio neu ei atgynhyrchu (gyda’r gydnabyddiaeth briodol) mewn mannau eraill.

Er bydd gweinyddwyr y Cof yn ceisio osgoi unrhyw dorhawlfraint, anwireddau, enllib a/neu anlladrwydd, ni all Canolfan Hanes Uwchgwyrfai dderbyn cyfrifoldeb am yr hyn a ysgrifennir gan y sawl sy'n cyfrannu. Eich cyfrifoldeb chi felly yw gofalu fod pob dim a ychwanegir gennych yn gywir ac yn dderbyniol hyd y gwyddys.

  1. (Gwasg Prifysgol Cymru, 3ydd gol.,1967).