Cymorth

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cof y Cwmwd yn wici (math agored o wefan y gall unrhyw un ei golygu). Os ydych wedi arfer efo Wicipedia, mae'r dulliau o gyfrannu a golygu yn union yr un fath. Rydym yn defnyddio'r un meddalwedd. Isod, gweler cyfarwyddiadau am sut i fynd ati i wneud mwy na darllen erthyglau yn unig.

Creu cyfrif

Os ydych chi am olygu, ewch i greu cyfrif a mewngofnodi.

Byddwch wedyn yn medru golygu neu greu unrhyw dudalen yn syth.

(Nodwch fod angen e-bostio Cof y Cwmwd i chi geisio am gyfrif newydd bellach. Rydym wedi diffodd y ffurflen creu cyfrif ar y wefan oherwydd problemau anffodus gyda sbam.)

Golygu erthyglau

"Golygu" yw jargon byd y wicïau am y weithred o newid, neu ychwanegu at, erthygl.

Mae'n ddigon hawdd golygu'r wici yma:

1. Ewch i'r erthygl briodol a chliciwch Golygu ar frig y ddalen.


2. Ewch ati i newid yr erthygl.


3. Yna cliciwch 'Cadw'r holl newidiadau.

Hawdd fel baw!


Arferion da

Er mwyn ei gwneud hi'n hawdd i'r darllenydd fforio o gwmpas y wefan, mae cysondeb arddull yn eitha pwysig, neu mi eith hi'n rhemp!

Dyma ddau reol syml o ran arddull eich erthyglau: 1. Er mwyn i ffurf yr holl erthyglau fod yn gyson, dylai'r frawddeg gyntaf fod yn gryno ac yn cynnwys enw gwrthrych yr erthygl mewn teip bras (rhowch dri chollnod (') o flaen ac ar ôl y teitl wrth ei deipio) 2. Os aiff yr erthygl yn hir, cystal beth yw defnyddio is-benawdau, megis "Bywyd cynnar". Gallwch greu'r rhain trwy osod == o flaen ac ar ôl y gair/geiriau, a'u gosod ar linell newydd.

Ia! Ewch ati i olygu, gan newid ac ychwanegu at erthyglau - neu grëwch erthygl o'r newydd - a chofiwch y daw eraill ar eich hôl gyda chrib mân - a siswrn - felly peidiwch â phetruso'n ormodol! Does dim yn orffenedig, a gwaith ar y gweill ydy Cof y Cwmwd! Byddwch gwrtais a goddefgar!

Gall eich golygiad fod yn un bychan iawn - cywiro teipio gwallus er enghraifft, neu fe allech ychwanegu paragraff neu ddau, neu dri! Mae'n hanfodol fod eich arddull yn ddealladwy i bawb, a'ch ysgrifen yn glir, gan gadw mor wrthrychol â phosib. Cofiwch mai cofnodion hanesyddol sydd yma, ac nid dyddiadur personol! Mae'n bwysig, felly, mai ffeithiau sydd yma, ac nid barn bersonol.

Mae codio wici (sef y ffordd o gael effeithiau megis creu pennawd neu roi gair mewn teip italig) ymhlith y codio mwyaf syml sydd ar gael. Pwrpas pob wici yw rhoi llwyfan i nifer o bobl i gyd-sgwennu, i greu gyda'i gilydd. Cyn hir, fe ddaw hyn fel ail natur i chi: byddwch yn italeiddio gyda dau gollnod, ac yn creu print bras drw roi tair - mae ychydig o'r codio symlaf wedi'i restru isod. Rhowch gynnig arni ar eich tudalen defnyddiwr chi eich hun.

Dyma ganllaw o'r codio symlaf i chi:


Disgrifiad Teipiwch hyn ... a dyma sydd i'w weld
Testun italig
''italig''

italig

Testun trwm
'''trwm'''

trwm

Trwm ac italig
''''' Trwm ac italig '''''

Trwm ac italig

Atal y codio-wici
<nowiki>  ''atal y cod''</nowiki>
''atal y cod''
Penawdau

== Lefel 2 == 

=== Lefel 3 === 

==== Lefel 4 ==== 


Lefel 2


Lefel 3


Lefel 4


Llinell lorweddol
 Testun cyn
----
 Testun yn dilyn
Testun cyn

Testun yn dilyn

Dolen i erthygl arall

Glas: dolen lwyddiannus
Coch: dolen aflwyddiannus

[[Trefor]]

Trefor

Peipen sy'n newid yr hyn a welir ar y sgrin

[[Trefor|Pentref Trefor]]

Pentref Trefor

Treigladau: defnyddiwch yr un system i greu treiglad

yn [[Trefor|Nhrefor]]

yn Nhrefor

Dolen goch
mae dolen goch yn arwain i nunlle - dydy'r ddalen neu'r erthygl heb ei chreu eto. Ewch ati!

erthygl ar goll

erthygl ar goll

Ffynhonnell (neu "gyfeiriad")
mae'r ffynhonnell ei hun yn mynd o fewn yr erthygl, ond mae'n ymddangos ar y gwaelod - ble y rhoddir y Nodyn / cod yma: {{cyfeiriadau}}.

Yng nghorff yr erthygl rhowch y refs yma:

Roedd 350 yn byw yn Nhrefor yn 1834.<ref>Allan o ''Hanes Trefor'' gan John Jones; Gwasg y Gwynt (2019).</ref>

Ar waelod yr erthygl rhowch:
==Cyfeiriadau==

{{cyfeiriadau}}

Yng nghorff yr erthygl gwelir:

Roedd 350 yn byw yn Nhrefor yn 1834.[1]

Ar waelod yr erthygl, gwelir:

Cyfeiriadau:

  • [1] Allan o Hanes Trefor gan John Jones; Gwasg y Gwynt (2019).


Arwyddo ar Dudalennau Sgwrs
Nid mewn erthygl! Rhowch 4 sgwigl (tilde)

~~~~

Enw'r Defnyddiwr (sgwrs) 18:30, 10 Mawrth 2013 (UTC)

Gwefan

http://www.wicipediacymraeg.org

http://www.wicipediacymraeg.org

Dolen fer i wefan

[http://www.wicipediacymraeg.org]

[1]

Dolen i wefan ac enw

[http://www.wicipediacymraeg.org Wicipedia]

Wicipedia

Croesi allan eich sylw
i ddangos eich bod wedi newid eich meddwl

<s>Yn fy marn i dydy'r erthygl ddim yn ddiduedd.</s>

Yn fy marn i dydy'r erthygl ddim yn ddiduedd.

Cuddio testun yn yr erthygl

<!--Yn fy marn dydy'r erthygl ddim yn ddiduedd.-->

Delwedd

[[Delwedd:Bysiau'r maes.jpg|bawd|100px|Ychwanegwch eich testun]]

Ychwanegwch eich testun

Crynhoi eich newidiadau

Cyn i chi gyhoeddi (neu arbed) eich gwaith, rhowch grynodeb o'r hyn rydych wedi'i wneud ee 'Cywiro iaith' neu 'ychwanegu delwedd i'r erthygl'.

Mae hyn yn cynorthwyo gweinyddwyr y wici i gadw llygad ar yr holl newidiadau.

Dangos rhagolwg

Dyma eich dull o weld drafft o'ch gwaith cyn ei gyhoeddi! Hanfodol! Ewch i'r arferiad da o glicio ar y botwm hwn pob tro cyn ei gyhoeddi! mi arbedith lawer!

Ffynhonellau

Yn y lle mwyaf briodol i nodi cyfeiriad at ffynhonell, cliciwch ar yr eicon hirsgwar gyda rhuban arni ar y bar offer ar dop y blwch golygu. Mi welwch <ref></ref> yn ymddangos. Teipiwch eich cyfeiriad rhwng "ref" a "/ref". Pan fyddwch yn cadw'r erthygl, bydd y cyfeiriadau'n un rhestr ar waelod yr erthygl, a rhif y cyfeiriad yn y testun.

Mae hi'n bwysig nodi ffynonellau dibynadwy. Mewn rhai achosion, pobl leol neu chi eich hun yw ffynhonell yr wybodaeth. Os felly, ac os nad oes ffynhonell fwy "academaidd" sicr ar gael, nodwch:

Gwybodaeth leol neu" Gwybodaeth bersonol

Os ydych wedi cael yr wybodaeth o lyfr, erthygl neu fap, rhowch y cyfeiriad yn y dull canlynol (t. yn sefyll am "dudalen" a tt. am "dudalennau"):

John Jones, Hanes Trefor (Pwllheli, 2019), t.22

Ar gyfer erthyglau, defnyddiwch y ffurfiau isod: John Jones, Tramffordd Trefor (Cylchgrawn Hanes Rheilffyrdd, Cyf.5,2015), t.45

Ar gyfer papurau newydd a mannau lle nad oes enw awdur ar gael:

Cambrian News, 14.3.1887, t.6

Os ydych yn cael gwybodaeth o wefan ac yr ydych yn hapus fod yr wefan yn un ddibynadwy, rhowch rhywbeth yn y dull hwn, gan nodi dyddiad yr ydych wedi ei gweld (gan fod gwefannau'n gallu cael eu newid):

Gwefan Henaduriaeth Arfon [https://henaduriaeth_arfon.cymru/hanes capeli], cyrchwyd 21.3.2020

Yn olaf, gofalwch eich bod yn teipio ==Cyfeiriadau== ar linell newydd ar ddiwedd yr erthygl ; ac wedyn ar y llinell nesaf, teipiwch {{cyfeiriadau}} er mwyn i'r system yma weithio.

Y ddalen 'Sgwrs'

Ar bob erthygl ceir dalen Sgwrs: os ydych yn dymuno trafod ryw agwedd o'r erthygl, yna gadewch neges ar y ddalen honno, a chofiwch arwyddo ar y diwedd gyda 5 sgwigl (neu tilde). Dyma'r lle i chi drafod eich pryderon, gynnig gwelliant ayb.

Creu tudalen newydd

Oes angen tudalen newydd ar gyfer eich pwnc?

Yn gyntaf dylech chi chwilio am y pwnc er mwyn gwirio bob angen creu tudalen newydd sbon.

Nodwch mai dim ond defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi gyda chyfrif all greu tudalennau newydd. (Yn ffodus mae creu cyfrif yn hawdd.)

Mae dwy ffordd o greu tudalen, naill ai:

  • Teipiwch deitl mewn Chwilio ac wedyn cliciwch y ddolen goch sydd yn ymddangos yn y canlyniadau.

Neu

  • Weithiau mae dolenni coch sydd yn cyfeirio at dudalennau sydd ddim yn bodoli eto. Cliciwch unrhyw ddolen goch rydych chi'n gweld ar y wici er mwyn creu'r dudalen honno.

Wedyn ewch amdani i ysgrifennu'r cynnwys sydd angen ar eich tudalen. Peidiwch ag anghofio clicio Cadw wedyn.

Mewnosod delwedd

Uwchlwytho

Os ydych chi eisiau ychwanegu llun neu ddelwedd arall i erthygl ewch i uwchlwytho ffeil sydd ar gael o'r bar ar yr ochr chwith.

Mae modd uwchlwytho ffeil delwedd, wedyn dilynwch y cyfarwyddiau ar y dudalen honno er mwn gosod y ddelwedd mewn erthygl.

Ailddefnyddio

Fel arall ewch i'r rhestr o'r holl ffeiliau sydd eisoes ar gael i'w defnyddio.

Gosod delwedd mewn erthygl

Dyma'r cod sydd angen er mwyn gosod delwedd fersiwn llawn:

[[Delwedd:Ffeil.jpg]]

Mae modd newid y ffordd mae'r system yn dangos delwedd:

[[Delwedd:Ffeil.png|200px|bawd|chwith|eich testun amgen]]

a wnaiff dangos llun 200 picsel o led mewn blwch ar yr ochr chwith, a'r testun 'eich testun amgen' wrth ei odre

Categorïau

Ychwanegu tudalen i gategori

Gallech chi roi unrhyw dudalen o fewn categori trwy ychwanegu'r cod isod i'r dudalen (fel arfer rydym yn rhoi hyn ar ddiwedd y dudalen):

[[Categori:Enw categori]]

Rhowch enw y categori yn lle Enw categori.

Er enghraifft, er mwyn ychwanegu erthygl o'r enw "Angharad Evans Jones Davies" i'r categori "Pobl", byddech yn olygu'r erthygl ac ychwanegu "[[Categori:Pobl]]" (dim dyfynodau).

Tudalennau categori

Cofiwch fod angen angen creu tudalen ar gyfer unrhyw gategori newydd rydych chi'n creu. Fe fydd unrhyw gategori yn ymddangos fel dolen goch ar ddiwedd yr erthygl rydych chi wedi creu.

Nid oes angen llawer o gynnwys ar dudalen categori. Mae'r system yn gwneud y gwaith o restru'r tudalennau sydd o fewn categori.

Dyma enghraifftiau o dudalennau ar gyfer categorïau gwahanol: Categori:Pontydd, Categori:Trafnidiaeth, Categori:Pobl.

Categori Uwchgwyrfai

Ar y wici hon mae prif gategorïau sydd yn cynnwys is-gategorïau (ac eto, ac eto, ad infinitum os fydd angen...)

Mae Categori:Uwchgwyrfai yn uwch nag unrhyw gategori arall. Hynny yw, mae'n cynnwys holl brif gategorïau'r wici. O'r fan yna mae modd cyrraedd unrhyw is-gategori yn gyflym.

Os ydych chi eisiau rhestru categori ar y dudalen hon rhowch y cod isod ar eich tudalen categori:

[[Categori:Uwchgwyrfai]]