Uwchgwyrfai yn yr ail ganrif ar bymtheg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
==Ffiniau, Poblogaeth a Ffyrdd== | ==Ffiniau, Poblogaeth a Ffyrdd== | ||
Wrth gychwyn yn y[[Foryd Bach]] lle mae aber [[Afon Gwyrfai]], mae ffin y cwmwd yn rhedeg ar hyd Afon Gwyrfai yr holl ffordd i fyny ei dyffryn, trwy ganol [[Llyn Cwellyn]] a hyd at y [[Rhyd-ddu]] at lannau [[Llyn y Gader]]. O’r fan honno, mae’n dringo i ben [[Y Garn]] ac yn rhedeg ar hyd [[Crib Nantlle]], gan ddisgyn i lawr i Pont Tafarn Faig|Bont Dafarn Faig]] rhwng [[Pant-glas]] a Bryncir. O’r fan honno mae’n croesi tir diarffordd nes cyrraedd [[Pont y | Wrth gychwyn yn y[[Foryd Bach]] lle mae aber [[Afon Gwyrfai]], mae ffin y cwmwd yn rhedeg ar hyd Afon Gwyrfai yr holl ffordd i fyny ei dyffryn, trwy ganol [[Llyn Cwellyn]] a hyd at y [[Rhyd-ddu]] at lannau [[Llyn y Gader]]. O’r fan honno, mae’n dringo i ben [[Y Garn]] ac yn rhedeg ar hyd [[Crib Nantlle]], gan ddisgyn i lawr i Pont Tafarn Faig|Bont Dafarn Faig]] rhwng [[Pant-glas]] a Bryncir. O’r fan honno mae’n croesi tir diarffordd nes cyrraedd [[Pont-y-gydros]] - nid nepell o iard goed Glasfryn. O’r fan honno wedyn ar draws y corsydd i [[Pont Mur-y-goeden|Bont Mur-y-goeden]] ar lôn Nefyn, gan ddringo i ben [[Yr Eifl]] ac ymlaen at y môr. Yn fras felly, y tir isel ger y môr, mynydd-dir helaeth, [[Dyffryn Nantlle]] i gyd ac ochr orllewinol [[Dyffryn Gwyrfai]]. | ||
Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg, roedd cymydau wedi hen gael eu rhannu’n blwyfi, gydag eglwys yn ganolbwynt i bob un. Yn [[Uwchgwyrfai]] roedd yna bum plwyf: [[Llanwnda]], [[Llandwrog]], [[Llanllyfni]], [[Clynnog Fawr]]a [[Llanaelhaearn]]. Dan yr hen drefn ganoloesol, rhannwyd y cwmwd yn drefgorddau megis [[Dinlle]] ac [[Elernion]] ond erbyn y cyfnod yr ydym ni’n sôn amdano heno roedd y plwyfi wedi derbyn pwerau dros bob agwedd ar fywyd seciwlar, dyletswyddau megis trwsio’r ffyrdd, gwarchod y tlodion a phenodi swyddogion lleol a hynny ar ben eu gofalon eglwysig. Cyfrifoldeb pob plwyf oedd penodi dynion yn flynyddol fel goruchwylwyr pobl dlawd a methedig; arolygwyr y ffyrdd i sicrhau bod pob dyn abl yn gwneud deuddydd o waith am ddim i gynnal y ffyrdd; a dau is-gwnstabl i ddod o hyd i droseddwyr. Roedd yna ddau warden eglwys hefyd a fyddai’n gofalu am yr eglwys ei hun, am ofynion claddu ac am faterion eglwysig. Fel y gallwch ddychmygu, nid oedd y swyddi hyn yn boblogaidd a bu ymdrechion cyson gan rai i ddadlau nad oeddynt yn addas i gael eu penodi, oherwydd tlodi, salwch neu anabledd. Nid wyf yn siŵr a oedd hawl i ferched gael eu penodi, ond ni allaf gofio erioed weld enw merch fel un o’r swyddogion hyn. | Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg, roedd cymydau wedi hen gael eu rhannu’n blwyfi, gydag eglwys yn ganolbwynt i bob un. Yn [[Uwchgwyrfai]] roedd yna bum plwyf: [[Llanwnda]], [[Llandwrog]], [[Llanllyfni]], [[Clynnog Fawr]]a [[Llanaelhaearn]]. Dan yr hen drefn ganoloesol, rhannwyd y cwmwd yn drefgorddau megis [[Dinlle]] ac [[Elernion]] ond erbyn y cyfnod yr ydym ni’n sôn amdano heno roedd y plwyfi wedi derbyn pwerau dros bob agwedd ar fywyd seciwlar, dyletswyddau megis trwsio’r ffyrdd, gwarchod y tlodion a phenodi swyddogion lleol a hynny ar ben eu gofalon eglwysig. Cyfrifoldeb pob plwyf oedd penodi dynion yn flynyddol fel goruchwylwyr pobl dlawd a methedig; arolygwyr y ffyrdd i sicrhau bod pob dyn abl yn gwneud deuddydd o waith am ddim i gynnal y ffyrdd; a dau is-gwnstabl i ddod o hyd i droseddwyr. Roedd yna ddau warden eglwys hefyd a fyddai’n gofalu am yr eglwys ei hun, am ofynion claddu ac am faterion eglwysig. Fel y gallwch ddychmygu, nid oedd y swyddi hyn yn boblogaidd a bu ymdrechion cyson gan rai i ddadlau nad oeddynt yn addas i gael eu penodi, oherwydd tlodi, salwch neu anabledd. Nid wyf yn siŵr a oedd hawl i ferched gael eu penodi, ond ni allaf gofio erioed weld enw merch fel un o’r swyddogion hyn. | ||
Llinell 23: | Llinell 23: | ||
A siarad yn gyffredinol, disgynyddion i hen arglwyddi’r cwmwd oedd yr ysweiniaid, a dichon mai hynafiaid y gwŷr bonheddig oedd y deiliaid tir dan y Tywysogion. Yr adeg honno, rhannwyd dynion cyffredin yn ŵyr rhyddion a gŵyr caeth. Dynion rhydd oedd hynafiaid yr iwmyn, tra oedd ffermwyr llai, y tenantiaid, a’r labrwyr heb dir yn disgyn (mae’n debyg) o hen ddosbarth y gŵyr caeth. | A siarad yn gyffredinol, disgynyddion i hen arglwyddi’r cwmwd oedd yr ysweiniaid, a dichon mai hynafiaid y gwŷr bonheddig oedd y deiliaid tir dan y Tywysogion. Yr adeg honno, rhannwyd dynion cyffredin yn ŵyr rhyddion a gŵyr caeth. Dynion rhydd oedd hynafiaid yr iwmyn, tra oedd ffermwyr llai, y tenantiaid, a’r labrwyr heb dir yn disgyn (mae’n debyg) o hen ddosbarth y gŵyr caeth. | ||
Un teulu estynedig a dra-arglwyddiaethai yn Uwchgwyrfai: sef y [[Teulu Glynn (Glynllifon)|Glynniaid]] yng Nglynllifon a’u cefndryd, teulu [[Teulu Glynn | Un teulu estynedig a dra-arglwyddiaethai yn Uwchgwyrfai: sef y [[Teulu Glynn (Glynllifon)|Glynniaid]] yng Nglynllifon a’u cefndryd, teulu [[Teulu Glynn, Nantlle a Phlasnewydd|Glynniaid Lleuar, Plasnewydd, Nantlle ac Elernion]]. O’u rhengoedd nhw y daeth bron i hanner ysweiniaid y cwmwd. Mae rhestr o’i brif benteuluoedd a gyhoeddwyd ym 1673 yn cynnwys pedwar o deulu Glynn, ynghyd â [[Thomas Bulkeley]] o Blas Dinas; William Lloyd o [[Bodfan|Fodfan]]; [[Ystad Cwmgwared|Benjamin Lloyd, Tŷ Mawr, Clynnog]]; William Wynne, [[Pengwern]]; a Richard Ellis, [[Bodychen]]. | ||
Er bod rhai bonheddwyr yn weddol gefnog, roedd nifer ohonynt yn Uwchgwyrfai fawr gwell eu stad na’r iwmyn. Yr hyn a’u gwahaniaethai oedd eu tras - yr oeddynt yn bur ymwybodol ohoni - a’r ffaith eu bod fel arfer nid yn unig yn ffarmio eu tir eu hunain ond eu bod â thir a thyddynnod eraill y gellid eu gosod i denantiaid. Roedd eu tir fel arfer ymysg tir gorau’r ardal, ac mewn rhai ardaloedd roedd tai bonheddwyr yn frith ar draws y lle: rhwng [[Dinas]] (Llanwnda) a’r ardal a elwir yn [[Y Groeslon|Groeslon]] heddiw, ceid [[Bodaden]], [[Cefn]], [[Hendre (Llanwnda)|Hendre]], [[Tryfan Fawr|Tryfan]], Gilwern, Bryn’rodyn, [[Llwyn-y-gwalch]] a’r [[Ystad Grugan|Grugan]], i gyd yn gartrefi teuluoedd o fân fonheddwyr. | Er bod rhai bonheddwyr yn weddol gefnog, roedd nifer ohonynt yn Uwchgwyrfai fawr gwell eu stad na’r iwmyn. Yr hyn a’u gwahaniaethai oedd eu tras - yr oeddynt yn bur ymwybodol ohoni - a’r ffaith eu bod fel arfer nid yn unig yn ffarmio eu tir eu hunain ond eu bod â thir a thyddynnod eraill y gellid eu gosod i denantiaid. Roedd eu tir fel arfer ymysg tir gorau’r ardal, ac mewn rhai ardaloedd roedd tai bonheddwyr yn frith ar draws y lle: rhwng [[Dinas]] (Llanwnda) a’r ardal a elwir yn [[Y Groeslon|Groeslon]] heddiw, ceid [[Bodaden]], [[Cefn Hendre|Cefn]], [[Hendre (Llanwnda)|Hendre]], [[Tryfan Fawr|Tryfan]], Gilwern, Bryn’rodyn, [[Llwyn-y-gwalch]] a’r [[Ystad Grugan|Grugan]], i gyd yn gartrefi teuluoedd o fân fonheddwyr. | ||
Roedd tua’r un nifer o iwmyn, perchnogion eu tyddynnod eu hunain - rhai, yn wir, lawn mor gefnog â’u cymdogion a arddelai eu tras uchel. Wedyn, ceid nifer sylweddol o denantiaid, sef yr hwsmyn, yn talu rhent i yswain neu fonheddwr lleol. Ac o dan y rheiny o ran statws a chysuron bywyd ceid y labrwyr a weithiai am gyflog a bennwyd gan yr ynadon, sef chwe cheiniog y dydd - neu dwy geiniog ynghyd â llety a bwyd – er y telid ychydig yn fwy i’r rhai oedd â sgiliau arbennig megis walio. Unwaith y byddai labrwr, gwas ffarm neu forwyn yn cytuno i wasanaethu meistr am flwyddyn, byddai’n drosedd pe byddent yn gadael eu gwaith cyn pen yr amser a gellid eu gorfodi’n ôl at eu dyletswyddau. Roeddynt fel dynion caeth y canol oesoedd mewn popeth ond enw. | Roedd tua’r un nifer o iwmyn, perchnogion eu tyddynnod eu hunain - rhai, yn wir, lawn mor gefnog â’u cymdogion a arddelai eu tras uchel. Wedyn, ceid nifer sylweddol o denantiaid, sef yr hwsmyn, yn talu rhent i yswain neu fonheddwr lleol. Ac o dan y rheiny o ran statws a chysuron bywyd ceid y labrwyr a weithiai am gyflog a bennwyd gan yr ynadon, sef chwe cheiniog y dydd - neu dwy geiniog ynghyd â llety a bwyd – er y telid ychydig yn fwy i’r rhai oedd â sgiliau arbennig megis walio. Unwaith y byddai labrwr, gwas ffarm neu forwyn yn cytuno i wasanaethu meistr am flwyddyn, byddai’n drosedd pe byddent yn gadael eu gwaith cyn pen yr amser a gellid eu gorfodi’n ôl at eu dyletswyddau. Roeddynt fel dynion caeth y canol oesoedd mewn popeth ond enw. | ||
Llinell 37: | Llinell 37: | ||
==Tai== | ==Tai== | ||
I droi at bethau llai haniaethol, rhaid i bawb gael to uwch eu pennau, ond roedd amrywiaeth fawr ym maint a safon tai’r cyfnod. Heb os, tŷ crandiaf y cwmwd oedd Glynllifon, tŷ a helaethwyd gan Syr William Glynn ar ddechrau’r ganrif, er mai bychan oedd o wrth ochr y plas sydd i’w weld heddiw. Y ganrif dan sylw oedd oes aur codi tai bonedd ar draws Gogledd Cymru, a cheir sawl enghraifft leol sy’n sefyll hyd heddiw: [[Plas Newydd | I droi at bethau llai haniaethol, rhaid i bawb gael to uwch eu pennau, ond roedd amrywiaeth fawr ym maint a safon tai’r cyfnod. Heb os, tŷ crandiaf y cwmwd oedd Glynllifon, tŷ a helaethwyd gan Syr William Glynn ar ddechrau’r ganrif, er mai bychan oedd o wrth ochr y plas sydd i’w weld heddiw. Y ganrif dan sylw oedd oes aur codi tai bonedd ar draws Gogledd Cymru, a cheir sawl enghraifft leol sy’n sefyll hyd heddiw: [[Plas Newydd, Llandwrog]], [[Bodfan]], [[Pant Du]], [[Plas Dinas]] yn eu mysg. Helaethwyd tai eraill fel yr Hendre yn Llanwnda (sydd bellach wedi ei hen ddymchwel), lle dyblwyd y nifer o ystafelloedd, a hynny mewn ymateb i’r angen am ffordd fwy preifat o fyw, gyda mwy o ystafelloedd a neilltuwyd at ddibenion arbennig yn hytrach na’r hen drefn lle byddai pawb a phopeth mewn neuadd neu gegin fawr lle arferai pobl goginio, byw a chysgu mewn un gybolfa fawr. Cymerwyd balchder yng ngogoniant y tai newydd gan eu perchnogion; gwelir hyn yn yr arysgrifau sy’n nodi pwy a’i cododd, neu’r arfbeisiau a gerfiwyd uwchben y prif ddrws neu a luniwyd mewn plastr uwchben yr aelwyd. | ||
Heblaw am dystiolaeth or-ganmoliaethus y beirdd, dyma’r cyfnod cyntaf pan gawn ni fanylion am bob math o dŷ oherwydd y rhestrau sydd wedi goroesi o eiddo rhai oedd wedi marw. Weithiau byddai’r gwaith rhestru’n fanwl iawn, gan nodi ym mha ystafell oedd pob dim. Cawn ryw ddarlun felly o’r hyn oedd i’w weld mewn tŷ y pryd hynny. | Heblaw am dystiolaeth or-ganmoliaethus y beirdd, dyma’r cyfnod cyntaf pan gawn ni fanylion am bob math o dŷ oherwydd y rhestrau sydd wedi goroesi o eiddo rhai oedd wedi marw. Weithiau byddai’r gwaith rhestru’n fanwl iawn, gan nodi ym mha ystafell oedd pob dim. Cawn ryw ddarlun felly o’r hyn oedd i’w weld mewn tŷ y pryd hynny. |
Fersiwn yn ôl 17:54, 26 Chwefror 2023
Erthygl yw hon am Uwchgwyrfai yn yr ail ganrif ar bymtheg, sef canrif y Rhyfel Cartref ac oes y Piwritaniaid, teyrnasiad y brenhinoedd Siarl yr ail a Siâms yr ail, ac wedyn y cwpl priod, William a Mari’r ail.[1]
Cefn gwlad brin ei phoblogaeth oedd hi a phawb i bob pwrpas yn ddibynnol ar y tir am eu cynhaliaeth. Ond cyn cychwyn ar ein taith, rhaid gofyn pam yr ail ganrif ar bymtheg? Yn gyntaf, mae ffynonellau dogfennol yn fwy niferus, amrywiol a chyfoethog o ganol yr ail ganrif ar bymtheg ymlaen. Ond yn bwysicach na hynny, dyna’r adeg y dechreuodd ein cymdeithas fodern ni ddechrau ymffurfio. Roedd y wlad wedi hen ymadael â’r cyfnod canoloesol ac yn ystod y ganrif flaenorol, sef cyfnod y Tuduriaid, bu newidiadau mawr yn y system gyfreithiol a llywodraeth leol, ac yn y dulliau o fod yn berchen ar dir, a hefyd roedd y cysylltiad rhwng y Pab a’r eglwys wedi’i ddiddymu. Erbyn tua 1600 roedd prif elfennau'r oes fodern wedi dechrau egino.
Ysywaeth, roedd newidiadau’r Tuduriaid yn gynyddol effeithio ar gymdeithas gyflawn Cymru. Manteisiodd nifer o’r mân fonheddwyr a’u meibion llai ar y newidiadau hyn trwy fynd dros y ffin am Loegr a thlodi eu hardaloedd eu hunain. Mae’r ail ganrif ar bymtheg yn bwysig i’r hanesydd Cymreig gan ei bod yn amlygu’r gymdeithas gynhenid yn gorfod ymateb i bwysau y byd modern.
Ffiniau, Poblogaeth a Ffyrdd
Wrth gychwyn yn yForyd Bach lle mae aber Afon Gwyrfai, mae ffin y cwmwd yn rhedeg ar hyd Afon Gwyrfai yr holl ffordd i fyny ei dyffryn, trwy ganol Llyn Cwellyn a hyd at y Rhyd-ddu at lannau Llyn y Gader. O’r fan honno, mae’n dringo i ben Y Garn ac yn rhedeg ar hyd Crib Nantlle, gan ddisgyn i lawr i Pont Tafarn Faig|Bont Dafarn Faig]] rhwng Pant-glas a Bryncir. O’r fan honno mae’n croesi tir diarffordd nes cyrraedd Pont-y-gydros - nid nepell o iard goed Glasfryn. O’r fan honno wedyn ar draws y corsydd i Bont Mur-y-goeden ar lôn Nefyn, gan ddringo i ben Yr Eifl ac ymlaen at y môr. Yn fras felly, y tir isel ger y môr, mynydd-dir helaeth, Dyffryn Nantlle i gyd ac ochr orllewinol Dyffryn Gwyrfai. Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg, roedd cymydau wedi hen gael eu rhannu’n blwyfi, gydag eglwys yn ganolbwynt i bob un. Yn Uwchgwyrfai roedd yna bum plwyf: Llanwnda, Llandwrog, Llanllyfni, Clynnog Fawra Llanaelhaearn. Dan yr hen drefn ganoloesol, rhannwyd y cwmwd yn drefgorddau megis Dinlle ac Elernion ond erbyn y cyfnod yr ydym ni’n sôn amdano heno roedd y plwyfi wedi derbyn pwerau dros bob agwedd ar fywyd seciwlar, dyletswyddau megis trwsio’r ffyrdd, gwarchod y tlodion a phenodi swyddogion lleol a hynny ar ben eu gofalon eglwysig. Cyfrifoldeb pob plwyf oedd penodi dynion yn flynyddol fel goruchwylwyr pobl dlawd a methedig; arolygwyr y ffyrdd i sicrhau bod pob dyn abl yn gwneud deuddydd o waith am ddim i gynnal y ffyrdd; a dau is-gwnstabl i ddod o hyd i droseddwyr. Roedd yna ddau warden eglwys hefyd a fyddai’n gofalu am yr eglwys ei hun, am ofynion claddu ac am faterion eglwysig. Fel y gallwch ddychmygu, nid oedd y swyddi hyn yn boblogaidd a bu ymdrechion cyson gan rai i ddadlau nad oeddynt yn addas i gael eu penodi, oherwydd tlodi, salwch neu anabledd. Nid wyf yn siŵr a oedd hawl i ferched gael eu penodi, ond ni allaf gofio erioed weld enw merch fel un o’r swyddogion hyn.
Nid oedd dewis helaeth mewn rhai plwyfi, wrth ystyried nad oedd poblogaeth pum plwyf Uwchgwyrfai gyda’i gilydd fawr mwy na dwy fil a hanner. Heb fynd ar ôl y ffordd y cyrhaeddwyd at y ffigyrau hyn, ar y mwyaf roedd tua 400 o bobl o bob oedran yn byw ym mhlwyf Llanaelhaearn; saith gant a hanner yng Nghlynnog; pum cant a hanner yr un yn Llanllyfni a Llanwnda; ac wyth cant yn Llandwrog. Dyna brin chwarter poblogaeth Uwchgwyrfai heddiw, ac roedd y patrwm byw yn hollol wahanol. Nid oedd yr un pentref na threflan yma a phawb yn byw yng nghanol y wlad mewn tŷ o ryw fath, boed hynny’n blasty neu’n fwthyn un ystafell. I’r rhai oedd heb dir ac yn gweithio fel gwas ffarm neu’n byw ar y plwyf, dichon mai eu cartrefi nhw oedd bythynnod digysur a di-nod ar fuarth fferm y meistr. Yn sicr, heblaw am yr ychydig wehyddion, teilwriaid, gofaint a melinwyr, ffermio oedd yr unig ffordd o gael dau ben llinyn ynghyd a oedd yn agored i drigolion y cwmwd. I’r math hwn o gymdeithas, roedd y trefi cyfagos yn holl bwysig oherwydd eu marchnadoedd ac i’r dref agosaf y byddai’r werin yn teithio, er mwyn gwerthu cynnyrch y wlad fel caws ac wyau.
Dwy ffordd oedd yn y cwmwd - un yn arwain o Gaernarfon i Bwllheli, a changen ohoni o Lan-rhyd draw am Gricieth. Er bod y plwyfi’n gyfrifol am gynnal y rhain, rhedeg ar draws gwaelodion y plwyfi oedd y ffyrdd, ac felly teithwyr o blwyfi eraill oedd yn eu defnyddio i raddau helaeth, a ‘doedd fawr o symbyliad i’r plwyfolion lleol eu cynnal. Pwysicach iddyn nhw oedd y system o lonydd bach, traciau a sarnau a arweiniai ar y naill law i fyny at y mawnogydd a thir pori’r mynydd agored, ac ar y llall i’r felin leol a’r eglwys, hynny yw i gyfeiriad hollol groes i rediad y ffyrdd rhwng y trefi. Roedd ambell i bont yn cael ei chodi ar draul y sir neu drwy garedigrwydd unigolyn - rydym i gyd yn cofio am Mrs Elizabeth Bulkeley yn rhoi £20 at godi Pont y Cim ym 1612, yn dilyn trychineb pan gollodd ei chariad (yn ôl y chwedl) ei fywyd wrth groesi’r rhyd oedd yno cyn hynny. Gan fod y ffyrdd mor wael, ac yn cau gyda mwd mewn tywydd gwlyb, nid oedd unrhyw bwrpas ceisio defnyddio cerbydau gydag olwynion. Os oedd angen cludo pethau trwm neu swmpus, defnyddid car llusg neu sled heb olwynion, ond prif gyfrwng teithio a chludo nwyddau i’r rhai gweddol gefnog oedd y ceffyl. Mae’n werth nodi bod pobl yn tueddu i fanylu mwy am geffylau nag am anifeiliaid eraill mewn ewyllys neu restr eiddo, gan sôn am farch gwinau, caseg lwyd ac ati. Gallai ceffyl gwell na’i gilydd fod yn werth mwy na chyflog gwas ffarm am flwyddyn. I’r werin, wrth gwrs, nid oedd dewis ond cerdded a chario unrhyw gynnyrch i’r farchnad ar eu cefnau.
Statws, Teitlau a Thirfeddiannaeth
Er bod pawb, hyd yn oed ficeriaid y plwyfi, yn ddibynnol ar ffarmio i sicrhau safon byw cystal ag yr oedd modd, byddai’n gamgymeriad mawr ystyried y gymdeithas yn un ddi-ddosbarth. Roedd pawb yn aelodau o’r un gymdeithas ond roedd pawb yn gwybod eu lle - i’r graddau bod disgrifiad o statws dyn yn cael ei osod ar ôl ei enw mewn dogfennau - marchog, yswain, bonheddwr neu iwmon. Rhoddid y gair clerc ar ôl enw offeiriad, er nad oedd yr hen arfer canoloesol o alw offeiriad yn Syr wedi llwyr ddiflannu ychwaith. Nodwyd ei grefft ar ôl enw crefftwr. Rhoddwyd Mr o flaen enw'r ychydig ddynion proffesiynol megis meddyg, marsiandwr llewyrchus neu diwtor addysgedig mewn plasty. O ran enwau a chyfenwau, roedd y rhai uchaf yn y gymdeithas wedi dechrau defnyddio cyfenw, tra oedd y bonheddwyr lleiaf eu safle, yr iwmyn a’r werin yn gyffredinol yn dal i lynu at yr hen ddull: er enghraifft Dafydd ap Siôn neu Mari ferch Ifan.
Unig farchog y cwmwd gydol y ganrif oedd Syr William Glynn, Glynllifon, a fu farw ym 1619; fe gafodd ei deitl oherwydd iddo wasanaethu Coron Lloegr yn Iwerddon. Peidied neb â meddwl, fodd bynnag, ei fod wedi cefnu ar gymdeithas a diwylliant ei fro ei hun, gan iddo fod yn noddwr brwd i’r beirdd.
A siarad yn gyffredinol, disgynyddion i hen arglwyddi’r cwmwd oedd yr ysweiniaid, a dichon mai hynafiaid y gwŷr bonheddig oedd y deiliaid tir dan y Tywysogion. Yr adeg honno, rhannwyd dynion cyffredin yn ŵyr rhyddion a gŵyr caeth. Dynion rhydd oedd hynafiaid yr iwmyn, tra oedd ffermwyr llai, y tenantiaid, a’r labrwyr heb dir yn disgyn (mae’n debyg) o hen ddosbarth y gŵyr caeth. Un teulu estynedig a dra-arglwyddiaethai yn Uwchgwyrfai: sef y Glynniaid yng Nglynllifon a’u cefndryd, teulu Glynniaid Lleuar, Plasnewydd, Nantlle ac Elernion. O’u rhengoedd nhw y daeth bron i hanner ysweiniaid y cwmwd. Mae rhestr o’i brif benteuluoedd a gyhoeddwyd ym 1673 yn cynnwys pedwar o deulu Glynn, ynghyd â Thomas Bulkeley o Blas Dinas; William Lloyd o Fodfan; Benjamin Lloyd, Tŷ Mawr, Clynnog; William Wynne, Pengwern; a Richard Ellis, Bodychen.
Er bod rhai bonheddwyr yn weddol gefnog, roedd nifer ohonynt yn Uwchgwyrfai fawr gwell eu stad na’r iwmyn. Yr hyn a’u gwahaniaethai oedd eu tras - yr oeddynt yn bur ymwybodol ohoni - a’r ffaith eu bod fel arfer nid yn unig yn ffarmio eu tir eu hunain ond eu bod â thir a thyddynnod eraill y gellid eu gosod i denantiaid. Roedd eu tir fel arfer ymysg tir gorau’r ardal, ac mewn rhai ardaloedd roedd tai bonheddwyr yn frith ar draws y lle: rhwng Dinas (Llanwnda) a’r ardal a elwir yn Groeslon heddiw, ceid Bodaden, Cefn, Hendre, Tryfan, Gilwern, Bryn’rodyn, Llwyn-y-gwalch a’r Grugan, i gyd yn gartrefi teuluoedd o fân fonheddwyr.
Roedd tua’r un nifer o iwmyn, perchnogion eu tyddynnod eu hunain - rhai, yn wir, lawn mor gefnog â’u cymdogion a arddelai eu tras uchel. Wedyn, ceid nifer sylweddol o denantiaid, sef yr hwsmyn, yn talu rhent i yswain neu fonheddwr lleol. Ac o dan y rheiny o ran statws a chysuron bywyd ceid y labrwyr a weithiai am gyflog a bennwyd gan yr ynadon, sef chwe cheiniog y dydd - neu dwy geiniog ynghyd â llety a bwyd – er y telid ychydig yn fwy i’r rhai oedd â sgiliau arbennig megis walio. Unwaith y byddai labrwr, gwas ffarm neu forwyn yn cytuno i wasanaethu meistr am flwyddyn, byddai’n drosedd pe byddent yn gadael eu gwaith cyn pen yr amser a gellid eu gorfodi’n ôl at eu dyletswyddau. Roeddynt fel dynion caeth y canol oesoedd mewn popeth ond enw.
Yr oedd un dosbarth bach arall yn y gymdeithas, sef y rhai a ddilynai ryw grefft neu’i gilydd. Roedd angen melinydd neu ddau ym mhob plwyf, ac ambell i of i greu offer amaethu ac ati. Gallwn fod yn siŵr bod ambell i saer maen a saer coed ar gael ar gyfer gwaith adeiladu a walio, ac un neu ddau o dowyr a oedd wrth law i osod toeau llechi. Clywir sôn am deiliwr yng Nghlynnog ac un arall yn Llanwnda, a nifer o wehyddion ar draws y cwmwd. Mae hanes un pedler, Evan Rowland o Lanwnda, ar gael hefyd. At y dynion crefftus hyn y gellir ychwanegu’r offeiriaid, a oedd mor dlawd â’r crefftwr cyffredin yn aml, er eu haddysg – a rhaid sôn am yr apothecari Henry Williams o Glynnog, a fu farw ym 1690 ac a adawodd nifer o lyfrau diwinyddol a meddygol. Ond roedd hyd yn oed y math yma o ddynion yn ddibynnol ar y tir; bron yn ddieithriad roedd ganddynt ychydig o wartheg neu ddefaid i ddarparu bwyd neu incwm.
Rhaid ymddiheuro nad oes modd sôn mwy am wragedd y cwmwd yn yr erthygl yma, a hynny oherwydd diffyg tystiolaeth. Dim ond yn ewyllys ambell i wraig weddw y ceir hanes cartrefi merched, ac er bod ambell i ferch yn cael ei henwi yn nogfennau’r llys, fel arfer am ddwyn neu am ffraeo, dynion oedd y pechaduriaid amlaf o bell ffordd! Prin fod angen deud fod gan ferched rôl ganolog ym mywyd y cartref: nhw fyddai’n gofalu am y teulu, yn coginio, ac yn cynhyrchu caws a menyn a fyddai’n ychwanegu ffynhonnell fach o incwm. Dichon mai nhw hefyd oedd yn edrych ar ôl y dofednod a’r gwenyn, yn bwydo’r mochyn ac yn halltu ei gig wedi iddo gael ei ladd. Ac o nifer y troellau nyddu sy’n cael eu rhestru mewn cartrefi, mae’n amlwg fod nyddu a gweu’n rhan o’u gwaith mewn llawer i gartref. Merched hefyd fyddai’n chwarae eu rhan mewn edrych ar ôl y gweinion mewn cymdeithas: edrychodd Elizabeth ferch Hugh Thomas o Landwrog ar ôl perthynas iddi, Lowri David o Lanllyfni wedi iddi fynd o’i phwyll - “lunatic” yw’r disgrifiad ohoni. Bu Lowri’n creu hafog yn yr ardal, yn malu ffenestri gwydr, bygwth llosgi tai a rhefru ar bawb. Cafodd Elizabeth y swm tywysogaidd o swllt a chwech yr wythnos am ei thrafferth. Lowri arall a gafodd gam - fel sawl merch arall - oedd Lowri Morgan o Landwrog. Er ei bod wedi etifeddu tir gwerth £5 y flwyddyn mewn rhent, taflodd ei gŵr hi, William Prichard, iwmon, o’r tŷ heb geiniog a chafodd hi ddim dewis ond, yn ôl ei chyfaddefiad ei hun, begera o dŷ i dŷ, a hynny ynddo’i hun yn drosedd. Aeth hi â’i hachos at y llys ym 1661, a orchmynnodd fod rhaid i’w gŵr roi rhywfaint o’i thir yn ôl iddi - sydd, i’n meddwl ni heddiw, yn ymddangos yn llai na chyfiawn dan yr amgylchiadau.
Yn ystod y ganrif gynt, ac am sawl rheswm, daeth yn haws crynhoi tiroedd yn ystâd a chafodd y rhai goludog gyfle i brynu mân ddaliadau fel y daeth mwy a mwy o dir i ddwylo llai a llai o ddynion - dynion, sylwer, gan nad oedd hawl i ferch briod fod yn berchen ar eiddo yn ei hawl ei hun. Dyna gychwyn ar ffurfiant ystadau ac, yn achos Uwchgwyrfai, Ystad Glynllifon yn anad yr un arall - er na thyfodd yr ystâd honno i’w llawn faint tan ganol y ganrif ddilynol pan unwyd teuluoedd Glynllifon, Boduan a sawl teulu arall trwy gyfrwng p riodasau ffodus ag aeresau cefnog.
Tai
I droi at bethau llai haniaethol, rhaid i bawb gael to uwch eu pennau, ond roedd amrywiaeth fawr ym maint a safon tai’r cyfnod. Heb os, tŷ crandiaf y cwmwd oedd Glynllifon, tŷ a helaethwyd gan Syr William Glynn ar ddechrau’r ganrif, er mai bychan oedd o wrth ochr y plas sydd i’w weld heddiw. Y ganrif dan sylw oedd oes aur codi tai bonedd ar draws Gogledd Cymru, a cheir sawl enghraifft leol sy’n sefyll hyd heddiw: Plas Newydd, Llandwrog, Bodfan, Pant Du, Plas Dinas yn eu mysg. Helaethwyd tai eraill fel yr Hendre yn Llanwnda (sydd bellach wedi ei hen ddymchwel), lle dyblwyd y nifer o ystafelloedd, a hynny mewn ymateb i’r angen am ffordd fwy preifat o fyw, gyda mwy o ystafelloedd a neilltuwyd at ddibenion arbennig yn hytrach na’r hen drefn lle byddai pawb a phopeth mewn neuadd neu gegin fawr lle arferai pobl goginio, byw a chysgu mewn un gybolfa fawr. Cymerwyd balchder yng ngogoniant y tai newydd gan eu perchnogion; gwelir hyn yn yr arysgrifau sy’n nodi pwy a’i cododd, neu’r arfbeisiau a gerfiwyd uwchben y prif ddrws neu a luniwyd mewn plastr uwchben yr aelwyd.
Heblaw am dystiolaeth or-ganmoliaethus y beirdd, dyma’r cyfnod cyntaf pan gawn ni fanylion am bob math o dŷ oherwydd y rhestrau sydd wedi goroesi o eiddo rhai oedd wedi marw. Weithiau byddai’r gwaith rhestru’n fanwl iawn, gan nodi ym mha ystafell oedd pob dim. Cawn ryw ddarlun felly o’r hyn oedd i’w weld mewn tŷ y pryd hynny.
Dewch i ni ddechrau trwy ymweld â phlasty Lleuar Fawr ym 1676, wedi i Mari Twistleton, un o’r Glyniaid, farw: cegin yn llawn o sosbenni, potiau, platiau piwter a phob math o offer coginio; sawl ystafell gyda gwelyau: ystafell yr ysgol - sef “schoolroom” - er nad oedd offer dysgu yno; llofft uwchben y stabl; y parlwr bach; siambr y neuadd; yr ystafell ganol; a dwy garet. Roedd yno barlwr tywyll, yn cynnwys deunaw cadair a dodrefn crand; y parlwr mewnol, gyda byrddau mahogani cain; roedd waliau rhai ystafelloedd wedi eu paentio, a’u henwi felly: parlwr gwyrdd; y siambr werdd; a‘r ystafell wen. Cedwid pob math o offer paratoi bwyd (megis cafn halltu a thybiau tylino) ac anghenion bragu mewn seler. Hefyd ceir rhestr o’r holl ddillad gwely, llieiniau byrddau ac ati. Dyma safon byw a fyddai ymhell tu hwnt i brofiad y rhan fwyaf o bobl y sir, ac mae yna ryw elfen (o bosibl) o chwaeth fwy ffasiynol Seisnig diweddar ŵr Mari, sef y milwr o Swydd Efrog, George Twistleton.
Rhywbeth yn debyg oedd plasty Bodfan, lle bu William Lloyd, yswain, farw ym 1682. Ceir sôn am sawl ystafell yn y rhestr o’i eiddo yntau: neuadd; cegin; parlwr; seler; bwtri; ystafell uwchben y neuadd; ystafell uwchben y parlwr; ystafell uwchben y bwtri; y garet uwchben y neuadd; y garet uwchben y bwtri a “chloset” nesaf at y garet honno. Roedd gwelyau ym mhob ystafell heblaw am y neuadd, y seler a’r bwtri - ac roedd gweision y gegin yn cysgu yn y gegin!
Tai bonheddwyr cefnog oedd y rhain (er eu bod yn dai fferm yn ogystal â phlastai). Roedd y rhan fwyaf o ffermwyr yn byw mewn tai oedd yn llai o gryn dipyn. Byddai teulu Bryn’rodyn, plwyf Llandwrog yn arddel statws bonheddwr, ond dim ond pedair stafell oedd yn y tŷ: y neuadd neu’r “hall”, sef y gegin; y parlwr, a ddefnyddid fel ystafell wely; y llofft, sef y brif ystafell wely; a’r bwtri. I’r rhelyw o bobl y wlad megis labrwr neu ffermwr bach, fodd bynnag, bythynnod un ystafell, o bosibl gyda chroglofft, fyddai’n arferol. Mewn cyfrifon beili ystâd Cefnamwlch, heb fod ymhell o ffin Uwchgwyrfai, mae manylion am gostau codi tŷ ar gyfer un Evan Hughes: roedd angen 26 llwyth o wellt, 4 llwyth o “wattles”, 6 trawst i goedio’r to, adeiladu 57 llathen sgwâr o waliau mwd, a’r gwaith o osod to gwellt. Cost y cwbl oedd tair punt, chwe swllt a chwe cheiniog sef rhywbeth yn debyg i bris dwy fuwch. Does dim syndod fod tai’r werin o’r cyfnod wedi hen ddiflannu heddiw. Tai mwd fyddai tai’r iseldir, yn arbennig ger y môr; yn uwch i fyny’r dyffrynnoedd ac yn y bryniau, bythynnod gyda waliau cerrig oedd i’w gweld, er bod eu tu mewn yn hollol ddigysur.
Mwya’r tŷ wrth gwrs, mwya’r dodrefn yr oedd eu hangen, ac yn y tai gweddol eu maint roedd detholiad o gadeiriau, stolion (ar gyfer y plant a’r gweision!), byrddau, dreselydd a chypyrddau, ac wrth gwrs gwelyau gyda matresi plu, cyfnasau a blancedi - eto rhai mor fain ag y gellid eu fforddio i’r meistr a’i wraig, ond rhai bras, a choslyd mae’n debyg, i’r gweision. Nodwedd arall o dai’r bonedd oedd yr amrywiaeth o offer coginio ar gyfer rhostio, berwi a phobi. Yn aml iawn mae rhestrau eiddo'r tai mwyaf yn rhoi manylion am bob celficyn a darn o offer, lle mae rhestrau’r ffermwyr a’r tyddynwyr yn tueddu i fod yn fwy cywasgedig, gan roi un pris cyfansawdd am “all the household stuff”. Prin y byddai’r bobl hyn yn berchen ar ddodrefn megis dreselydd, cypyrddau na chadeiriau - rhaid oedd bodloni ar stolion, ond un eitem bwysig oedd cist neu gistiau i gadw’r grawn rhag llygod. Un o’r dosbarth hwnnw oedd John ap Robert Francis o Lanaelhaearn, tyddynwr tlawd oedd yn crafu byw cyn iddo farw ym 1699. Tŷ dwy ystafell oedd ganddo, y pen isa a’r pen ucha lle yr arferai gynnau tân; doedd ei holl ddodrefn, dillad gwely ac offer coginio gyda’i gilydd ond werth punt a dau swllt.
Anaml y ceir llawer o dystiolaeth am ba mor llwm oedd unig ystafell bwthyn labrwr neu weddw dlawd, ond mae gwerth cynnwys y tŷ’n dangos yn aml mai prin oedd unrhyw ddodrefn ac offer mwy na matres o wair, cist a chrochan. Eistedd ar y llawr fyddai’r werin yn ôl Iorwerth Peate, ac nid oes rheswm i amau hyn yn achos Uwchgwyrfai. Disgrifiodd Thomas Pennant y tu mewn i hafoty ganrif yn ddiweddarach fel hyn: “Mae’r dodrefn yn syml iawn. Mae cerrig mawr yn cymryd lle stolion, ac mae’r gwelyau o wair wedi cael eu gosod ar hyd y waliau”. Dichon mai felly oedd llawer i fwthyn bach yn y ganrif dan sylw.
Addysg a Llythrennedd
Byddai’n anghywir meddwl nad oedd neb yng nghefn gwlad yn llythrennog heblaw am y boneddigion mwyaf a’r offeiriaid - a rheiny’n aml iawn yn feibion iau'r plastai. ‘Doedd yna ddim rhwydwaith o ysgolion yn bodoli, ac roedd angen arian i anfon plentyn i’r ychydig ysgolion a oedd ar gael, megis Botwnnog a Bangor, ond mae’n amlwg fod plant y dosbarth uchaf yn cael rhywfaint o addysg sylfaenol. Fodd bynnag, mae ‘na dystiolaeth fod rhai heblaw am blant y bonheddwyr yn gallu darllen ac ysgrifennu, a hynny’n cynnwys rhai merched, er y diffyg pwys a roddwyd yn aml ar eu haddysg nhw. Wrth bori trwy ewyllysiau a rhestrau eiddo’r cyfnod, lle ceir llofnodion cymynwyr, tystion a phriswyr, mae’n amlwg fod nifer ym mhob plwyf yn gallu ysgrifennu eu henwau - rhai llofnodion yn bur wantan a blêr ond eraill yn dangos llawysgrifen gain. Yn yr un modd, er bod pawb yn Uwchgwyrfai yn Gymry Cymraeg, mae’n amlwg fod gan nifer o bobl beth gwybodaeth o Saesneg, er bod eu sillafu weithiau’n garbwl. Yn aml, byddai ficer y plwyf yn llunio ewyllysiau’r bobl gyffredin, ond mae digon o rai a ysgrifennwyd (a hynny yn Saesneg) gan rai eraill mewn ysgrifen lai daclus. Gwelir yr un peth mewn adroddiadau a cheisiadau ysgrifenedig a aeth o flaen yr ynadon yn y llys. Er enghraifft: roedd modd ennill ychydig geiniogau trwy ladd fyrmin megis llwynogod, gan ddangos y cyrff i’r wardeiniaid eglwys yn y fynwent, cyn anfon cais ysgrifenedig at yr ynadon am daliad allan o dreth y sir. Ym 1652, gwnaeth Thomas a Simon Lloyd a William ap Robert o blwyf Llanwnda gais am dâl am ladd un ar ddeg o lwynogod gyda’u milgwn mewn tri phlwyf gwahanol. Cadarnhawyd dilysrwydd y cais gan ddeg o ddynion y plwyfi hynny, gan gynnwys chwe warden eglwys, a phob un yn llofnodi yn hytrach na gwneud marc. Gan gofio bod swydd warden yn mynd o berson i berson, mae’n amlwg fod nifer o rai llythrennog mewn sawl plwyf.
Tystiolaeth arall am lythrennedd, a hynny o radd uwch, yw’r ewyllysiau a’r rhestrau eiddo sydd yn enwi llyfrau, ac weithiau llyfrgell sylweddol, a hynny nid yn unig mewn plasty neu ficerdy. Roedd gan yr apothecari Henry Williams o Glynnog nifer helaeth o lyfrau diwinyddol, meddygol a llenyddol gwerth rhyw bunt a phum swllt. A dim yn anaml y ceir cyfeiriad at Feibl. Dynes dlawd oedd Mary Thomas, gweddw o Dyddyn Hen, Clynnog, ond roedd ganddi Feibl a hwnnw’n un Saesneg.
Serch hyn, er nad oedd dysgu darllen ac ysgrifennu ar gael i bawb o bell ffordd, roedd addysg i’w chael weithiau yn yr eglwys leol, naill ai gan ficer cydwybodol neu hyd yn oed gan athro a gyflogid gan awdurdodau’r plwyf. Ym 1641 rhoddodd Lewis Harris, bonheddwr o Lundain a hanai o Lanwnda, swm sylweddol o arian i wardeiniaid y plwyf i godi ysgoldy am gost o £40, a chyflogi gŵr graddedig o Rydychen neu Gaergrawnt fel athro ar gyflog o £10 y flwyddyn. Ni wyddwn beth a ddigwyddodd o ran dymuniad Lewis Harris. O bosib fe ddaeth cythrwfl y Rhyfel Cartref ar draws pethau ond mae’r hanes yn dangos yr awydd i wella addysg pobl gyffredin y plwyfi gwledig hyn.
Gwnaethpwyd ymdrech tua 1679 os nad cynt i ddarparu addysg ar gyfer plant Clynnog hefyd. Mae hanes yr athro yno yn digwydd bod ar glawr: Richard Davies oedd ei enw ac roedd wedi cael ei gyflogi gan wardeiniaid yr eglwys i “gadw ysgol a dysgu plant yn yr eglwys”. Prin y bydden ni’n gwybod amdano oni bai iddo gael ei erlyn am anfoesoldeb. Fe gyfaddefodd wrth ffrind iddo mai ei arfer pan oedd o’n byw yn Llundain oedd cael un o’r rhyw deg wastad ar alw er mwyn iddo fodloni ei chwantau nwydwyllt; gofynnodd lle gallai ddod o hyd i ferch debyg yn ei ardal newydd ac fe’i cyfeiriwyd at dŷ un Jane ferch Harry yn Llanaelhaearn, lle byddai merch ifanc ar gael iddo. Unwaith y clywodd y wardeiniaid am hyn, fe gafodd Richard Davies ei hel o’i swydd, rhag halogi moesau’r plant.
Crefydd
Mae’n hollol amlwg fod y rhan fwyaf o bobl yn derbyn crefydd eglwys y plwyf yn ddi-gwestiwn. Roedd mynychu’r gwasanaethau’n rhan o fywyd i lawer, er mae’n amlwg o ddogfennau’r llys fod yna nifer helaeth nad oeddynt yn gydwybodol o ran eu presenoldeb. Clywir sôn am ddiffygion yr offeiriaid yn ddigon aml ond mae’n ymddangos yn Uwchgwyrfai mai dynion cydwybodol oedd rhan fwyaf o’r dynion hyn - dynion megis Ffowc Price, a fu’n ficer Llanllyfni am dros ugain mlynedd ac y ceir ei enw fel tyst (ac ysgrifennydd) llawer o ewyllysiau ei blwyfolion. Meibion y mân fonheddwyr oeddynt at ei gilydd, er ni chafodd pob un ohonynt addysg prifysgol; offeiriad at iws gwlad oeddynt yn hytrach na diwinyddion. Cawn gip ar deimladau crefydd pobl gyffredin trwy darllen eu hewyllysiau. Wrth gwrs byddai’r ficer, wrth roi ar bapur eu dymuniadau, yn tueddu i lunio eu meddyliau ar hyd llinellau Cristnogol. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod yr offeiriad yn cael ei arwain i raddau gan y sawl oedd, yn ôl pob tebyg, ar ei wely angau. Mae’n hawdd adnabod llawysgrifen Rowland Williams, ficer Llanaelhaearn yn y 1690au. Wrth iddo ysgrifennu ewyllys David Griffith ym 1698, ni cheir unrhyw destun crefyddol fwy na chychwyn gyda'r geiriau “In the name of God, Amen” - ond flwyddyn yn ddiweddarach, pan ysgrifennodd ewyllys John Probert Francis, ceir traethiad llawer mwy crefyddol ei naws: “I commit my soul into the hands of Almighty God my creatour hopeing through the meritorious death and passion of my Saviour and Redeemer Jesus Christ to receive perfect remission & pardon of all my sins”.
Yn ystod y ganrif gynt, pan dorrwyd yr eglwys a’i sefydliadau’n rhydd o’r cysylltiad ag Eglwys Rhufain, bu cryn hiraethu ar ôl y ffydd Babyddol nid yn lleiaf yng Nghlynnog. Ond erbyn y ganrif ganlynol, ni cheir fawr o sôn yn Uwchgwyrfai am yr hen ffydd Gatholig. Gyda’r twf mewn cyfleoedd a chyfoeth ymysg y dosbarth bonheddig, cafodd mwy o ddynion ifanc y cyfle i fynychu Caergrawnt, Rhydychen, neu’r Inns of Court yn Llundain, ac yn y fan honno daethant weithiau o dan ddylanwad rhai a arddelai ddiwinyddiaeth fwy radical - a dyna, mae’n debyg sut y plannwyd yr hadau a flodeuodd yng nghanol y ganrif pan gafwyd hollt yn y wlad, gyda’r brenin a’r senedd yn brwydro, y naill yn erbyn y llall. Daeth yr anghydffurfwyr, yn annibynwyr, yn Fedyddwyr ac yn sectau mwy eithafol o lawer, a oedd yn gwrthwynebu agwedd uchel-eglwysig y brenin, yn bŵer adeg y Rhyfel Cartref. Tueddu i gefnogi’r Brenin yn eu herbyn wnaeth pobl Uwchgwyrfai, ond (mae’n debyg) heb unrhyw frwdfrydedd, a cheid digon o enghreifftiau o bobl y cwmwd yn cwffio ar y ddwy ochr. Roedd Thomas Glynn, Glynllifon, yr aelod seneddol, wedi cychwyn fel cefnogwr i’r brenin ond fel yr aeth amser yn ei flaen ac yntau’n gweld pa ffordd yr oedd y gwynt yn chwythu, newidiodd ei ochr. Roedd brodyr iau Thomas Glynn yn fwy parod i gefnogi plaid y Senedd: aeth John Glynn yn arglwydd brif ustus Cromwell yn y man, ac roedd brawd arall, Edmund Glynn, yn gapten ym myddin Cromwell ac yn un o brif lywodraethwyr y sir am ddegawd oherwydd ei dueddiadau at Bresbyteriaeth.
Wedi i Oliver Cromwell a’i blaid ddod i rym, profwyd degawd o gulni a ddiflasodd y werin oherwydd y cyfreithiau newydd oedd yn cyfyngu ar eu sbort, yn arbennig ar y Saboth. Cafodd sawl ficer ei droi o’i blwyf am wrthod mabwysiadu cred biwritanaidd. Yn eu lle daeth rhai mwy eithafol, rhai fel Ellis Rowlands a ddaeth i Glynnog a Llanwnda ym 1657, na fyddent erioed wedi cael eu hordeinio fel arall. Daeth y drefn Biwritanaidd i ben ym 1660, a dychwelodd y brenin i’w orsedd. Un eithriad oedd Robert Jones, Ficer Llandwrog cyn 1650 pan ddaeth y drefn newydd i fod. Derbyniodd y grefydd newydd a chadw ei blwyf; ym 1660, newidiodd ei deyrngarwch unwaith eto, gan barhau yno hyd ei farwolaeth.
Mae ‘na gwestiwn faint oedd y chwyldro diwinyddol hwn wedi mennu ar y dyn cyffredin. Yr un bywyd caled oedd ganddynt beth bynnag a glywid o’r pulpud. Ym 1660, pan ddychwelwyd at yr hen drefn eglwysig, prif lawenydd y werin oedd gweld llacio’r gwaharddiad ar bethau megis gemau, dawnsio a pherfformio anterliwtiau. I’r rhai a oedd wedi eu clwyfo ym myddin y senedd, roedd y canlyniad yn waeth canys ni chawsent dderbyn pensiwn bellach - yn eu lle, y rhai a wasanaethodd ym myddin y brenin a gafodd bensiwn ar ôl 1660. Cafodd y ficeriaid Piwritanaidd eu troi o’u plwyfi hefyd – Thomas Hanson yn Llanllyfni ac Ellis Rowlands yng Nghlynnog. Cafodd hwnnw ei rwystro rhag mynd i’w eglwys ar adeg gwasanaeth gan ddau o’i blwyfolion, Benjamin Lloyd, sgweier Cwmgwara, a David Evans. Aeth y ddau i mewn i’r eglwys a chipio Beibl dynes o’r enw Grace ferch Ffransis. Gwaeddodd David Evans “Ni a gawn losgi yr holl feibls sydd heb y common prayer ynddynt”, ac ar ôl agor y llyfr a’i ddangos i bawb fe ddywedodd “dyma fo”.
Gellid disgwyl y byddai dylanwad Rowlands wedi dwyn rhywfaint o ffrwyth, ond prin fod hynny wedi digwydd. Yn fuan iawn, trodd pobl o dueddiadau cymedrol fel yr ynad Presbyteraidd Edmund Glynn a ficer Llandwrog, Robert Jones yn ôl at y fam eglwys. Dyna oedd y peth call i’w wneud er mwyn gwarchod eu buddiannau bydol, ond nid dyna fyddai penboethiaid yr anghydffurfwyr wedi ei wneud. Nid oedd llawer o’r rheiny yn Uwchgwyrfai, er ym 1676 clywodd yr ynadon fod cyfarfod crefyddol anghydffurfiol wedi ei gynnal yn Llangybi. Ymysg y dwsin oedd yno, roedd tri o Glynnog: Dafydd ap William Morris, Morgan ap William ap Robert a Cadwaladr Jones. Cawsant eu dirwyo yn y swm o bum swllt yr un am fynychu’r achlysur. Ond eithriad oedd y tri hyn a gallwn dybio fod Uwchgwyrfai mor driw i’r Eglwys sefydledig ar ddiwedd y ganrif ag yr oedd ar ei dechrau. Ond yr oedd yr ofn yn dal i fodoli y gallai pethau newid. Pan fu John Glynn, Plas Newydd, Llandwrog farw ym 1679, mynnodd na fyddai ei wraig Katherine yn cael etifeddu’r £600 a adawyd iddi pe byddai hi’n ail-briodi efo “unrhyw Fanaticke (sef anghydffurfiwr crefyddol) ..., or a father, sonne, brother, uncle, first or second cosens to a Fanaticke” ac y byddai’r holl bres yn cael ei wario ar erlyn ffanatics o’r fath yn Sir Gaernarfon.
Troseddu
Roedd nifer o ddeddfau penodol yn ystod adeg Cromwell i warchod y ffydd Biwritanaidd, ond, heblaw am gyfnod Cromwell rhwng 1650 a 1660, mae’r cofnodion yn dangos yn glir mai’r brif broblem yn ystod tri chwarter cyntaf y ganrif oedd trais a chweryla, hynny’n aml yn gwffio yn sgil gor-yfed mewn tafarndai anghyfreithlon; hefyd, roedd yno rywfaint o ladrata a throseddau mwy technegol eu naws megis gwerthu cwrw neu borthmona heb y trwyddedau priodol. O’r holl gannoedd o ddogfennau llys o’r cyfnod, amhosibl yw rhoi mwy na chip sydyn yma ar y math o droseddau a nodwyd ynddynt. Er enghraifft, ym 1654, bu tri ar ddeg o bobl y cwmwd o flaen ynadon yn y llys chwarter, a hynny am y troseddau canlynol: pedwar achos o ymosod, dau o fygwth ymosod, tri am dorri’r heddwch, ac un yr un o’r canlynol: cario ŷd i’r felin a gofyn am iddo gael ei falu ar y Saboth; gwerthu cwrw ar y Saboth; dwyn ŷd a cheffylau; ac, yn olaf, achos o gyflawni’r hyn a alwyd yn “fornications”.
Roedd hyn yn ystod cyfnod mwyaf caeth y Piwritaniaid, ond bu’r wlad yn mynd trwy gyfnod bur gythryblus wrth i’r wlad newid yn ôl i’r hen drefn dan Frenin Lloegr ym 1660 - gydag ambell un yn talu’r pwyth yn ôl am ormes y deddfau moesol, ac eraill yn methu gollwng yr agweddau cul oedd wedi bodoli ers rhai blynyddoedd – a’u hymateb weithiau’n groes i’w daliadau piwritanaidd honedig. Aeth ficer Llanllyfni, Thomas Hanson, i helynt wrth dyngu’r hyn a alwyd gan yr oruchwyliaeth newydd yn “profane oaths”. Ac i gadw cydbwysedd, gadewch i ni gofio am Ellis Rowlands, ficer Clynnog, yn cael ei rwystro ar ei ffordd i mewn i’w eglwys ar y Sul gan rai na hoffai’r Piwritaniaid.
Wrth symud ymlaen at ddiwedd y ganrif, mae cofnodion y llys yn dangos yr un lefel o droseddu yn Uwchgwyrfai. A barnu oddi wrth y cofnodion, roedd pobl yn llai ffraegar nac oeddynt ddeugain mlynedd ynghynt, ond efallai eu bod yn llai onest. Ym 1699, ceir sôn am dri achos o ddwyn defaid, ac un arall o ddwyn gwartheg a defaid gwerth £30, dau achos o ddwyn nwyddau, ac un achos yr un o falu gwrychoedd a throi anifeiliaid y troseddwr i mewn i bori ar wair cymydog, a gwyro nant er mwyn manteisio’n llawn ar y dŵr ynddi gan gadw cymydog rhag ei ddefnyddio. Dim ond un achos o ymosod yn ystod y flwyddyn a ddaeth i sylw’r ynadon.
Amaethyddiaeth
Hyd yn hyn rydym wedi bod yn trafod tirwedd, ffiniau, cymdeithas ac agweddau eraill ar fywyd y cwmwd, ond cyn gorffen , priodol yw ystyried realiti’r bywyd beunyddiol, sef bywyd caled ar y tir er mwyn crafu byw. Economi hunangynhaliol oedd nod cyntaf pob fferm a thyddyn, a hynny oedd yn rheoli diet y werin. Arferid mynd ag unrhyw beth nad oedd y teulu ei angen i’r farchnad yng Nghaernarfon, er mwyn sicrhau arian at y rhent neu at brynu angenrheidiau nad oedd modd eu cynhyrchu. Roedd arian ei hun yn brin, ac roedd llawer o ffeirio nwyddau neu dderbyn coel - hyd yn oed ymysg y rhai oedd â digon o gyfoeth o ran anifeiliaid neu dir. Er enghraifft, pan fu Thomas ap John ap Richard o Glynnog farw ym 1635 roedd 31 o bobl yn ei ddyled, llawer ohonynt wedi cael blawd ceirch ganddo a heb yr arian parod i dalu iddo. Ceir rhestrau o ddyledion unigolion lle mae arnynt symiau sylweddol i bobl eraill, ond hefyd gyda symiau sylweddol yn ddyledus iddyn nhwythau. Byddai llawer o setlo dyledion yn digwydd tua’r hydref wrth i’r porthmyn ddychwelyd a thalu i'r ffermwyr am eu gwartheg. Yn Uwchgwyrfai, teulu Abraham Williams a’i fab-yng-nghyfraith William Thomas, Llyn-y-gele oedd yn bennaf gyfrifol am gyflawni’r gwasanaeth hwnnw am hanner canrif a mwy.
Gwartheg oedd bron yr unig beth sylweddol a allforiwyd o Uwchgwyrfai; ac er bod mwy o ddefaid nac o wartheg ar ffermydd, roedd gwerth y gwartheg ar fferm yn sylweddol fwy fel arfer. Dangosa’r rhestrau eiddo nad oedd y cysyniad o fferm laeth neu fferm bîff yn gyfarwydd. Roedd gan bob fferm o unrhyw faint nifer o fuchod llaeth fyddai’n dod â llo bob blwyddyn; byddai’r lloeau beinw’n cael eu cadw nes iddynt ddod â’u lloeau eu hunain yn dair oed, a’r bustych tair oed yn cael eu gyrru i Loegr gyda’r porthmyn. Cylch o bump neu chwe blynedd fyddai i wartheg: byddai buwch yn dod â llo, llo gwryw’n tyfu’n fustach ac yn pesgi’n araf am dair blynedd cyn cael ei werthu tra bod heffer yn dod â’i llo ei hun ar ôl tair blynedd – a’r heffer honno bellach yn fuwch odro, ac yn cymryd lle buwch hynaf y fferm. Byddai hyd at draean y buchod yn sych neu’n colli llo ar ei eni, ac felly roedd y cylch yn tueddu ymestyn yn hwy na’r pump neu chwe blynedd yr anelwyd ato. Y patrwm felly byddai buchod yn dod â thri neu bedwar llo, nes iddynt gael eu gyrru gyda’r porthmyn neu’n cael ei gwerthu i dyddynwr neu weddw dlawd fel “hen fuwch” fyddai’n rhoi llo neu ddau arall ac ychydig o laeth am gyfnod. Eithriadau i’r drefn hon oedd y tyddynwyr tlotaf oedd arfer gwerthu bustych yn ddwy oed er mwyn cael eu gwerth nhw’n gynt.
Ychen oedd yn cael eu defnyddio i dynnu erydr, yn arbennig ar dir trwm neu garegog, a lle tyfid ŷd fe gedwid pâr o fustych. Ac oes oedd digon o wartheg ar fferm, byddai tarw’n rhan anhepgor o’r stoc; byddai tenantiaid neu gymdogion y perchennog yn cael galw ar wasanaeth y tarw yn ôl yr angen. Mae’n debyg i’r ffermwyr wneud defnydd helaeth o’r ffriddoedd fel porfa arw yn ystod yr haf, er mwyn rhyddhau’r dolydd ar gyfer tyfu’r gwair oedd yn hanfodol i gadw’r stoc dros y gaeaf. Byddai’r stoc mwyaf gwerthfawr yn cael eu cadw mewn beudai, a phan fethai’r cynhaeaf gwair, byddai rhaid gwaredu mwy o stoc na’r hyn oedd yn arferol er mwyn arbed bwyd. Roedd maint y tir pori oedd ar gael, nifer y parau o ddwylo ar fferm, marwolaethau a chlefydau stoc a lwc i gyd yn cyfyngu ar faint y gyrr, ond rhywle rhwng 5 a 10 o fuchod ynghyd â rhwng 10 ac 20 o wartheg iau oedd yn arferol.
Roedd y stoc bron i gyd yn wartheg duon, er y ceir sôn weithiau am fuwch goch neu fuwch frith. Gwartheg bach oeddynt, yn llai ym mhob ffordd na gwartheg heddiw; ond roeddynt yn galed ac yn gallu dioddef porfa sâl a thywydd gwael. Mae’n debyg i’r bustych, beth bynnag, oroesi'r gorau y gallent ar y tir comin neu yn y mynydd gydol y flwyddyn. Mae’n debyg bod yna ddigon o dir comin ar gael gan fod yna o leiaf ddau achos o blwyfolion yn codi tai ac amgáu caeau o’r comin gyda sêl bendith eu cymdogion.
Mae llai o fanylion yn cael eu cofnodi am ddefaid yn y rhestrau eiddo. Y tuedd oedd nodi “defaid o bob math” neu hyn a hyn o famogiaid a’u hŵyn. Doedd gwerth dafad ddim yn newid llawer o flwyddyn i flwyddyn, lle byddai pris gwartheg yn amrywio cryn dipyn yn ddibynnol ar brisiau draw ym marchnadoedd Lloegr wedi i’r porthmyn fynd yno; a hyd y gwyddys, ni yrrai porthmyn Arfon ddefaid i Loegr. Arferid godro defaid ar gyfer gwneud caws, ac roedd eu gwlân yn angenrheidiol ar gyfer dilladu pawb; a cheid troell mewn llawer iawn o dai gweddol ddistadl. Ond hyd y gwyddys, ni allforiwyd gwlân o’r cwmwd tan y ganrif nesaf. Byddai ffermwyr Uwchgwyrfai’n tueddu i gadw tua’r un nifer o ddefaid ag o wartheg, er nad oedd dafad ond gwerth tua degfed ran o bris buwch. Gwell oedd defnyddio’r borfa oedd ar gael ar gyfer cynhyrchu anifeiliaid y gellid eu gwerthu, sef gwartheg. Dim ond hyn a hyn o wlân, llaeth a chig hen ddafad hesb y gallai teulu eu defnyddio.
Roedd sawl math arall o anifail i’w cael wrth gwrs. Roedd nifer sylweddol o eifr yn Uwchgwyrfai - mwy nag mewn ardaloedd eraill. Gall geifr glirio tir o frwgaits yn well na defaid a gwartheg, ac yn y mynyddoedd roeddynt yn bur ddefnyddiol i glirio tyfiant mewn cilfach cyn i fustach fynd i helynt yno a methu dod oddi yno. Arferid godro geifr hefyd a chynhyrchu caws; ym 1660 mi wnaeth dynes ddwyn 20 cosyn o gaws gafr o Leuar Fawr, lle cedwid cymaint â 15 gafr at ddibenion y llaethdy. Roedd eu cig yn werthfawr hefyd, ac yn y plastai rhoddwyd cig gafr i’r gweision - er iddynt ei alw’n “rock venison” i wneud iddo flasu'n well, efallai!
Ychydig o foch a gedwid ond prin y ceid fferm o unrhyw faint heb un neu ddau, a’r rheiny i’w ladd ar gyfer halltu’r cig. Sonnir yn weddol aml am wyddau ac ieir, ond eto, fel moch, fesul un neu ddau, a rhaid amau bod rhai priswyr yn eu hystyried yn werth dim – roedd gwerth iâr lle’i nodir yn amrywio o geiniog i rôt yr un. Yn Uwchgwyrfai yn amlach nag mewn un man arall yn y sir fe nodir cychod gwenyn hefyd.
Un anifail fferm nad ydym wedi ei grybwyll eto wrth gwrs yw’r ceffyl. Roedd un neu ddau o’r rhain ar bob fferm heblaw am y tyddynod lleiaf. Byddai ceffyl yn angenrheidiol i gludo nwyddau i’r farchnad, cario mawn o’r mynydd a thynnu car llusg neu sled gyda llwyth o wair neu wellt. Ceffylau bach digon diolwg fyddai’r rhai hyn; roedd gan Thomas Parry, iwmon tlawd Tre-gwyn, plwyf Llanllyfni, geffyl cloff gwerth dim ond deuddeg swllt ym 1661 – a hynny ar adeg pan oedd buwch gyffredin yn costio bron i ddwy bunt. Ceffylau o’r math yma fyddai’n cael eu defnyddio o gwmpas y fferm, ac yn benodol ar gyfer tynnu ogau i lyfnu’r tir; ac ar dir ysgafn tywodlyd, gallai ceffyl wneud y gwaith aredig hefyd. Mater arall oedd ceffylau marchogaeth y bonheddwyr, fel yr ydym wedi sôn eisoes – roedd y rheiny’n anifeiliaid o dras hollol wahanol i ferlod y tyddyn.
Rhan yn unig o stori llawer o ffermwyr oedd cadw stoc. Byddai pawb yn ceisio tyfu digon o gnydau at eu defnydd eu hunain, a byddai’r hyn a dyfid yn dibynnu ar ansawdd y tir a’i leoliad. Ychydig iawn o wenith a dyfid yn ôl pob tystiolaeth. Barlys oedd y cnwd arferol ar y tir da gwastad ger y môr, ond ar dir mwy garw, tyfid rhyg ac ym mhobman yn yr ucheldir y cnwd oedd ceirch gwyn neu geirch du. Mentrai ambell un dyfu ychydig o ffa neu bys, a cheir sôn weithiau am gywarch at wneud rhaffau a sachau, a llin a droid yn ddefnydd main. Rhaid cofio hefyd am hopys a dyfid ar gyfer bragu. Byddai rhai yn bragu eu maidd eu hunain, wedi eplesu’r grawn; mae hanes llwyth yn cael ei anfon o fferm Gwernor ger Tal-y-sarn i felin Llanllyfni ym 1654. Ac roedd ambell i wraig dlawd yn prynu ychydig o faidd a hopys i fragu cwrw i’w werthu, yn anghyfreithlon yn aml, er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd.
Fel ardal hunangynhaliol, roedd yr hyn oedd ar fwrdd y werin yn dibynnu bron yn llwyr ar yr hyn y gallen nhw ei dyfu: bara “gwyn”, sef y bara y bydden ni’n ei alw’n fara cyflawn neu fara brown, a hwnnw wedi’i wneud o flawd gwenith neu haidd yn yr iseldir; bara du, sef bara rhyg y tir garw; neu fara ceirch yn yr ucheldir. Ac wedyn, caws a menyn, ychydig o bys efallai, ychydig o gig moch cartref, weithiau cig o hen ddafad, wyau, mêl os oedd cwch gwenyn gan y teulu. Ni cheir sôn am erddi gan y werin, ond dichon fod rhywfaint o ffrwythau a llysiau megis bresych, cennin a nionod yn cael eu tyfu – ond nid tatws na maip oedd heb ddod yn boblogaidd nac yn gyffredin. Serch hynny, roedd gerddi Plas Glynllifon yn rhyfeddu ymwelwyr mor gynnar â 1639 ac felly roedd sgiliau garddwriaethol yn yr ardal. Ac fe geir sôn ambell i dro mewn llythyrau o’r cyfnod am hel pethau megis mwyar duon, cnau, blodau’r banadl a briallu Mair, a hyd yn oed samffir a dyfai’n wyllt ar y Foryd, ac mae’n amlwg o restrau o offer coginio fod pysgod hefyd yn rhan o ddiet y plastai. Ond yr egwyddor i bawb arall oedd, os nad oedd rhyw fwyd neu’i gilydd ar gael am ddim trwy ei hel neu trwy lafur y teulu, prin y byddai’n rhan o fwyd y cartref.
Cyn gadael Uwchgwyrfai fel yr oedd dri chant a mwy o flynyddoedd yn ôl, dewch i ni alw heibio un o gartrefi’r cwmwd, trwy alw yn nhŷ iwmon o’r enw John Hughes a fu farw tua diwedd 1693. Fel iwmon, nid oedd pethau fel rhenti yn ei boeni, ond roedd maint ei stoc yn ddigon i ddangos mai crafu byw ydoedd: buwch a llo gwerth £2, heffer flwydd werth punt, ceffyl gwerth pymtheg swllt, dwy ddafad a dau oen blwydd oed gwerth efo’i gilydd yn un swllt ar bymtheg, dwy afr werth hanner coron yr un a holl offer amaethu a dodrefn ac ati yn y tŷ gwerth efo’i gilydd yn bunt a chwe swllt, cyfanswm o chwe phunt. Ac ar ddiwedd y rhestr ceir nodyn sydd, o’i gyfieithu, yn deud: “ac o’r rhestr a ysgrifennwyd uchod roedd ar yr ymadawedig ddyledion hyd gyfanswm o bum punt a phum swllt.” Wyddom ni ddim faint oedd oedran John Hughes yn marw, ond ar ôl oes o lafurio ar ei dir ei hun, cynnyrch terfynol ei holl ymdrechion oedd pymtheg swllt, neu £115 yn arian heddiw. Roedd rhai pobl yn fwy cefnog wrth gwrs ond prin oedd y rhai oedd yn gadael gwerth o fwy na hanner can punt mewn stoc, celfi ac arian, sef saith neu wyth mil o bunnoedd yn arian heddiw. Un peth sy’n sicr, os oedd gwerin Uwchgwyrfai am gadw corff ac enaid ynghyd, roedd gwaith cydwybodol a chaled ar y tir yn anorfod iddynt - fel y dywedodd eu cydoeswr, y bardd Owen Gruffydd o Lanystumdwy:
A gwyliwn drwy gamsyniaeth Esgeuluso’n galwedigaeth. Ni ddaw bodlonrwydd rhwydd i’n rhan, Os mynnwn anhwsmonaeth.
Cyfeiriadau
- ↑ Dyma sgwrs a draddodwyd mewn cyfarfod Canolfan Hanes Uwchgwyrfai Am y rheswm hwnnw, nid oedd modd cynnwys cyfeiriadau yma. Mae llawer o'r ffeithiau, fodd bynnag, i'w canfod ar wefan Ewyllysiau'r Llyfrgell Genedlaethol, neu ymysg papurau'r Llys Chwarter yn Archifdy Caernarfon.