John Glynn (Y Sarsiant)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Syr John Glynn (1603-1666) a elwid "Y Sarsiant" ar lafar gwlad yn ail fab Syr William Glynn a fu farw 1619. Cafodd addysg yn Ysgol Westminster a Neuadd Hart, Rhydychen. Cafodd ei alw i'r bar fel bargyfreithiwr 24 Mehefin 1628, gan wneud ei yrfa yn y Gyfraith. Fe etholwyd yn aelod seneddol dros Sir Gaernarfon a dros Westminster ym 1640. Gwnaeth ei farc wedyn yn ystod cyfnod y cythrwfl rhwng y Senedd a'r Goron a fe oedd yn crynhoi'r achos yn erbyn ffefryn y Brenin, yr Iarll Strafford. Fodd bynnag, fel un a arddelai ddaliadau'r Presbyteriaid o 1645 ymlaen, nid oedd yn gymeradwy gan y Piwritaniaid eithafol, digiodd plaid y fyddin ato a'i gyhuddo o deyrnfradwriaeth, rhoddwyd o yn garcharor yn Nhŵr Llundain rhwng Medi 1647 a Mai 1648. Cafodd ddyrchafiad fodd bynnag yn nes ymlaen yn ystod cyfnod y Piwritaniaid wedi eu buddugoliaeth yn Rhyfel y Pleidiau Seisnig (y "Rhyfel Cartref" chwedl y Sais) yn gyntaf i fod yn ryngyll y gyfraith, barnwr y frawdlys ac wedyn, o dan Cromwell, Arglwydd Farnwr yr Uchel Fainc. Yn lleol yn Sir Gaernarfon, cafodd ei ethol yn aelod seneddol ym 1654 a 1660, ac ym 1655 fe'i wnaed yn ynad heddwch yn y sir.

Gyda'r gyfoeth a ddaeth gyda'i swyddi pwysig, prynodd ystad Castell Penarlâg yn Sir y Fflint, a oedd wedi ei meddiannu gan y llywodraeth ym 1651 oddi ar y perchnogion brenhinol eu cydymdeimlad; ac yna ymhen dwy ganrif, pan nad oeddynt yn byw yn eu tŷ yn Llundain, fe ymsefydlodd Glynn a'i deulu - aelod olaf ac etifeddes yr ystad yn Sir y Fflint oedd y Miss Glynne a briododd William Gladstone y Prif Weinidog a wnaeth Penarlâg yn gartref gwledig iddo fo ei hun. Cafodd Glynn ystadau eraill, Henley Park yn Swydd Surrey (trwy ei wraig cyntaf) a Bicester, Swydd Rydychen, ac yr oedd ganddo rywfaint o dir yn Uwchgwyrfai a gafodd fel ei gyfran oi ystad ei dad; bu ei frawd iau, Edmund Glynn, yn gweithredu fel ei gynrychiolydd a rheolwr ar y tiroedd olaf hyn.[1]

Wedi marwolaeth Oliver Cromwell, gwelodd nad oedd fawr o ddyfodol i deyrnasiad Richard Cromwell, a fe oedd un o'r rhai a fentrodd i Ffrainc ar ran seneddwyr cymedrol i wahodd y Brenin Siarl II i ddychwelyd i Loegr a chymryd ei orsedd, ac fe gafodd ei wneud yn farchog ac yn brif sarjent y gyfraith yn sgil ei gefnogaeth - er nad oedd pawb yn falch o'i weld yn troi ei gôt gymaint o weithiau - peth a oedd yn nodweddiadol o'r teulu yn ôl rhai. Roedd gan Samuel Pepys bethau hallt iawn i ddweud amdano yn ei ddyddiadur, wrth gofnodi gorymdaith goroni Siarl II ym 1661 pan syrthiodd Glynn oddi ar ei geffyl a chael ei frifo'n bur arw. Digwyddiad, meddai Pepys, "which people do please themselves with, to see how just God is to punish that rogue at such a time".[2]

Priododd ddwywaith, yn gyntaf â Frances Squib, ac yn ail Ann Manning o Lundain. Bu farw yn ei gartref yn Llundain, 15 Tachwedd 1666, a'i gladdu yn Eglwys Santes Marged, Westminster.[3] Gadawodd fab ar ei ôl, William Glynn a wnaed yn farwnig ym 1673, a nifer o ferched, un ohonynt oedd Jane, a bridodd Syr Robert Williams, Penrhyn. Parhaodd y cysylltiad teuluol â Phenarlâg fel cartref i'r teulu; a hefyd, roedd nifer o feibion iau y teulu'n gwasanaethu yno fel rheithoriaid.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gweler yr erthygl ar Edmund Glynn yng Nghof y Cwmwd.
  2. Dyddiadur Pepys, 23 Ebrill 1661.
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.263.
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.261.