John Glynn, Plas Newydd
John Glynn (1650-1679) oedd y Glynn olaf o hen deulu Plas Newydd i fod yn berchennog a thrigiannydd yr ystâd. Ail fab ydoedd i William Glynn (g.1613), a'i wraig Ann Owen, Bodeon, Môn. Roedd gan John frawd, Thomas, a oedd ddeng mlynedd yn hŷn nag ef, a chwaer Jane. Bu farw'r tri heb adael plentyn i etifeddu’r ystâd, a aeth i ddwylo teulu’r fam, Oweniaid Bodeon. Cafodd y ddau frawd addysg prifysgol yn Rhydychen, sy’n tystio i gyfoeth sylweddol y teulu.
Pan fu John Glynn, Plas Newydd, Llandwrog, farw ym 1679, mynnodd na fyddai ei wraig Katherine yn cael etifeddu’r £600 a adawyd iddi yn ei ewyllys pe byddai’n ail-briodi ag “unrhyw Fanaticke (sef anghydffurfiwr crefyddol) ..., or a father, sonne, brother, uncle, first or second cosens to a Fanaticke” ac y byddai’r holl arian yn cael ei wario ar erlyn ffanatigiaid o’r fath yn Sir Gaernarfon. Roedd yr ewyllys yn ddiddorol am resymau eraill hefyd: mae’n debyg nad oedd John Glynn wedi bod yn iach iawn am gyfnod cyn marw, gan iddo benodi dau oruchwyliwr i’w ewyllys, Lewis Meyrick, ysw., o Gaernarfon ac Owen Hughes o Fiwmares, gan adael £10 yr un iddynt am eu trafferth a'u gofal wrth edrych ar ôl ei faterion personol tra oedd byw, ac yn y gobaith y byddent yn parhau i wneud hynny wedi iddo farw. Nodir hefyd, pe bai Katherine yn feichiog pan fyddai yntau’n marw, fod yr holl eiddo a gafodd ar ôl ei frawd Thomas yn mynd i’r baban (pe bai hwnnw’n fachgen); pe bai'n ferch, byddai honno’n etifeddu £600 - ac mae hynny’n dangos maint cyfoeth John Glynn. Fel y digwyddodd, fodd bynnag, nid oedd Katherine yn feichiog, ac felly etifeddodd honno’r £600 yn ogystal â gweddill eiddo John Glynn, ar wahân i diroedd a aeth i Ann Owen, Bodeon fel rhan o'r amodau y cytunwyd arnynt pan briododd ei dad.
Elfen arall o ewyllys John Glynn sy’n ddiddorol yw’r ffaith fod Mary Twisleton, merch George Twisleton a Mary Glynn o’r Lleuar, yn un o’r tystion. Roedd y Twisletoniaid wedi bod yn Biwritaniaid ffyrnig adeg y Rhyfel Cartref, ac yn ymladd yn erbyn Glynniaid Plas Newydd. Erbyn y genhedlaeth nesaf, fodd bynnag, ac er gwaethaf ofn John Glynn o’r “ffanatigiaid”, roedd perthynas y ddau deulu fel cymdogion yn amlwg wedi tawelu.[1]
Wedi i John Glynn farw, ail-briododd ei weddw Katherine â Lewis Meyrick, bargyfreithiwr ac aelod o deulu Ucheldre, Gwyddelwern, a ymsefydlodd fel cyfreithiwr yng Nghaernarfon. .[2] Dyma’r Lewis Meyrick a benodwyd yn un o oruchwylwyr ewyllys ei gŵr cyntaf. Mae’n amlwg iddo gymryd ei ddyletswyddau o ddifrif! Bu farw Lewis ym 1691, yntau’n ddi-blant,[3] ond ni fu Katherine farw tan 1723.[4] Mae’n ymddangos na phriododd hi am y trydydd tro, gan ei bod yn cael ei disgrifio fel Catherine Meyrick, gweddw, ym 1718.[5]
Cyfeiriadau
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B1681-47
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.308
- ↑ Yr Archifdy Gwladol, PROB11/403/361
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.251, 266, 270
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B1718/55