Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 27 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[ Delwedd:A view of Clynnog-Vawr near Carnarvon.jpeg|bawd| | [[ Delwedd:A view of Clynnog-Vawr near Carnarvon.jpeg|bawd|400px]] | ||
'''Clynnog Fawr''' yw plwyf mwyaf [[Uwchgwyrfai]] o ran arwynebedd. Enw llawn y plwyf yw "Clynnog Fawr yn Arfon". Ystyr "Clynnog" yw man lle mae coed celyn yn tyfu. Yn wir, ceir enghreifftiau o'r enw [[Y Gelynnog]] mewn dogfennau cynnar. | '''Clynnog Fawr''' yw plwyf mwyaf [[Uwchgwyrfai]] o ran arwynebedd. Enw llawn y plwyf yw "Clynnog Fawr yn Arfon". Ystyr "Clynnog" yw man lle mae coed celyn yn tyfu. Yn wir, ceir enghreifftiau o'r enw [[Y Gelynnog]] mewn dogfennau cynnar. | ||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
==Yr eglwys a'i sant== | ==Yr eglwys a'i sant== | ||
Credir i [[Beuno Sant]] sefydlu 'clas' neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen | [[Delwedd:Eglwys Clynnog c1975.jpg|bawd|de|400px]] | ||
Credir i [[Beuno Sant]] sefydlu 'clas' (ond clâs yw'r ynganiad) neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen gist dderw a elwir yn ''[[Cyff Beuno|gyff Beuno]]'' sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymu'r mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim ond fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad. | |||
Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw [[Beuno Sant]], ei sylfaenydd tybiedig, | Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw [[Beuno Sant]], ei sylfaenydd tybiedig, sant sydd yn gysylltiedig â sawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws [[Bae Caernarfon]] o Glynnog Fawr ymysg eraill. | ||
Nid nepell o'r eglwys ceir [[Ffynnon Beuno]], ychydig i'r de ar ochr yr hen lôn bost cyn cyrraedd Maes Glas. | Nid nepell o'r eglwys ceir [[Ffynnon Beuno]], ychydig i'r de ar ochr yr hen lôn bost cyn cyrraedd Maes Glas. | ||
Llinell 22: | Llinell 23: | ||
==Y traeth, pysgota môr a hwylio== | ==Y traeth, pysgota môr a hwylio== | ||
[[Delwedd: Y Borth, Clynnog c.1890.jpg|bawd|400px|de|Y Borth, Clynnog, c1890]] | |||
Mae'n bur debyg fod cysylltiad â chlas Beuno ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir ''Brut y Tywysogion''. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i Glynnog o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw ''Le Geffrey'' wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), tt.2, 4, 9.</ref> | Mae'n bur debyg fod cysylltiad â chlas Beuno ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir ''Brut y Tywysogion''. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i Glynnog o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw ''Le Geffrey'' wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), tt.2, 4, 9.</ref> | ||
Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19gg. Roedd gwraig Syr Ifor Williams yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), t.35</ref> | Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19gg. Roedd gwraig Syr Ifor Williams yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), t.35</ref> | ||
Adroddodd John Williams (John Coed), Cowrt Bach,yr hanes hwn yn 1967 (a recordiwyd i Amgueddfa Werin Cymru): "Roedd yna hen wraig yn byw yn Y Borth (tai sgotwrs) meddan nhw, ac mi fyddai ’ma beth ofnadwy o fecryll a penwaig yng Nghlynnog yn yr hen Gorad ’ma. Roedden nhw wedi dal llond y cae bron o benwaig ac fe’u gadawyd yno i ddrewi. Mi felltithiodd yr hen wraig nhw ac mi ddywedodd na fyddai penwaig yng Nghlynnog am 200 mlynedd. A fuo na ddim chwaith." Byddai ei dad yn arfer dweud bod hen dai bach yn Aberafon, [[Gurn Goch]], yn yr hen oes - cyn ei amser ef - ac y byddai pysgotwrs yn byw yno. | |||
Nodir yn llyfr David Thomas hefyd fod llong wedi ei hadeiladu yng Nghlynnog - efallai mai wrth geg [[Afon Desach]] neu yn [[Aberafon]] y digwyddodd hyn lle 'roedd modd lansio cwch o'r lan i'r dŵr ar adeg o lanw uchel: creigiau a cherrig sydd ar y traeth ei hun. Gydag erydiad cyson, fodd bynnag, gellid dychmygu fod yna gei ger Y Borth a fyddai wedi rhoi digon o gysgod. Ym 1780 adeiladwyd y llong, sef y ''Nancy'', 32 tunnell o faint. Fe hwyliodd hi hyd nes iddi suddo ym 1817.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), t.206</ref> | |||
[[Delwedd:Borth1 copy (002).gif|bawd|400px|de|Y Borth yn 1974 ond erbyn 2019 mae'r môr wedi erydu'r lle.]] | |||
[[Delwedd:Borth3 copy (002).gif|bawd|chwith|400px|(Ty'n-y-coed a welir trwy'r twll ffenestr)]] | |||
==Tai a phobl nodedig== | ==Tai a phobl nodedig== | ||
Prif dŷ'r plwyf yn yr amser a fu,efallai, oedd [[Lleuar Fawr]]. Roedd [[Mynachdy Gwyn]] ym mhen ucha'r plwyf, cartref teulu Meredydd neu Feredith hefyd yn fangre o ddylanwad. | Prif dŷ'r plwyf yn yr amser a fu, efallai, oedd [[Lleuar Fawr]]. Roedd [[Mynachdy Gwyn]] ym mhen ucha'r plwyf, cartref teulu Meredydd neu Feredith, hefyd yn fangre o ddylanwad. | ||
Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd: | Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd: | ||
* [[Morys Clynnog]] | * [[Morys Clynnog]] | ||
* [[Sant John Jones]] | * [[Sant John Jones]] | ||
* [[ | * [[Siôn Gwynedd (John Gwynneth)]], cerddor | ||
* [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]], ysgolfeistr, bardd a llenor | * [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]], ysgolfeistr, bardd a llenor | ||
* [[William Owen (Gwilym Ddu Glan Hafren)]], ysgolfeistr, bardd a cherddor | * [[William Owen (Gwilym Ddu Glan Hafren)]], ysgolfeistr, bardd a cherddor | ||
* [[Robert Price, Melin Faesog]], melinydd a saer coed | * [[Robert Price, Melin Faesog]], melinydd a saer coed | ||
* [[Edgar Christian]], anturiaethwr a dyddiadurwr | * [[Edgar Christian]], anturiaethwr a dyddiadurwr | ||
* [[ | * [[Siôn Robert Lewis (John Roberts)]] y seryddwr a'r almanaciwr | ||
* [[Robert Roberts]] y "seraff bregethwr" | * [[Robert Roberts]] y "seraff bregethwr" | ||
* [[Syr Ifor Williams]], ysgolhaig | * [[Syr Ifor Williams]], ysgolhaig | ||
* [[R. Dewi Williams]], prifathro Ysgol Ragbaratoawl y Methodistiaid Calfinaidd - "[[Ysgol Eben Fardd]]" - a llenor. | * [[R. Dewi Williams]], prifathro Ysgol Ragbaratoawl y Methodistiaid Calfinaidd - "[[Ysgol Eben Fardd]]" - a llenor. | ||
* [[ | * [[Howell Roberts (Hywel Tudur)]], bardd, pregethwr a dyfeisydd | ||
==Y pentref== | ==Y pentref== | ||
Llinell 55: | Llinell 82: | ||
==Digwyddiadau== | ==Digwyddiadau== | ||
Hydref 5 1652: Cosbi William | Hydref 5 1652: Cosbi William Rowlands am halogi'r Saboth. Ei drosedd oedd gyrru gyrr o wartheg o Landwrog i Bwllheli. Fe'i dirwywyd i 10 swllt. | ||
Mehefin 25 1976: Torri ceubren y pentref ger Tyrpaig. Yn ôl traddodiad byddai'r pentref farw pe gwneid hyn. Lluniau i ddilyn a rhagor o hanes. | Mehefin 25 1976: Torri ceubren y pentref ger Tyrpaig. Yn ôl traddodiad byddai'r pentref farw pe gwneid hyn. Lluniau i ddilyn a rhagor o hanes. |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:06, 14 Medi 2023
Clynnog Fawr yw plwyf mwyaf Uwchgwyrfai o ran arwynebedd. Enw llawn y plwyf yw "Clynnog Fawr yn Arfon". Ystyr "Clynnog" yw man lle mae coed celyn yn tyfu. Yn wir, ceir enghreifftiau o'r enw Y Gelynnog mewn dogfennau cynnar.
Yn ogystal â phentref Clynnog Fawr ei hun,ble mae'r eglwys ac nid nepell o'r môr, mae'r plwyf yn cynnwys y pentrefi neu'r treflannau canlynol: Capel Uchaf, Tai'n Lôn, Pontlyfni, Brynaerau, Aberdesach ac, ym mhenucha'r plwyf, Pant-glas, yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig Bwlchderwin.
Mae'n debygol y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Glynnog Fechan ym mhlwyf Llangeinwen, sir Fôn, lle oedd gan y sefydliad crefyddol (neu 'glas') a sefydlwyd gan Beuno diroedd - neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun.
Ffiniau a thirwedd
Mae i'r de o blwyfi Llandwrog a Llanllyfni (gan godi dros Fynydd Graig Goch hyd at gopa Craig Cwm Dulyn), ac i'r gogledd o blwyf Llanaelhaearn, yn ogystal â ffinio ar nifer o blwyfi Eifionydd, hefyd ar ei ffin ddeheuol.
Yr oedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.
Yr eglwys a'i sant
Credir i Beuno Sant sefydlu 'clas' (ond clâs yw'r ynganiad) neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen gist dderw a elwir yn gyff Beuno sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymu'r mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim ond fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.
Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw Beuno Sant, ei sylfaenydd tybiedig, sant sydd yn gysylltiedig â sawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws Bae Caernarfon o Glynnog Fawr ymysg eraill.
Nid nepell o'r eglwys ceir Ffynnon Beuno, ychydig i'r de ar ochr yr hen lôn bost cyn cyrraedd Maes Glas.
Roedd ysgol yng Nghapel Beuno (Eglwys y Bedd) ym 1811.
Y traeth, pysgota môr a hwylio
Mae'n bur debyg fod cysylltiad â chlas Beuno ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir Brut y Tywysogion. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i Glynnog o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw Le Geffrey wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.[1]
Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19gg. Roedd gwraig Syr Ifor Williams yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.[2]
Adroddodd John Williams (John Coed), Cowrt Bach,yr hanes hwn yn 1967 (a recordiwyd i Amgueddfa Werin Cymru): "Roedd yna hen wraig yn byw yn Y Borth (tai sgotwrs) meddan nhw, ac mi fyddai ’ma beth ofnadwy o fecryll a penwaig yng Nghlynnog yn yr hen Gorad ’ma. Roedden nhw wedi dal llond y cae bron o benwaig ac fe’u gadawyd yno i ddrewi. Mi felltithiodd yr hen wraig nhw ac mi ddywedodd na fyddai penwaig yng Nghlynnog am 200 mlynedd. A fuo na ddim chwaith." Byddai ei dad yn arfer dweud bod hen dai bach yn Aberafon, Gurn Goch, yn yr hen oes - cyn ei amser ef - ac y byddai pysgotwrs yn byw yno.
Nodir yn llyfr David Thomas hefyd fod llong wedi ei hadeiladu yng Nghlynnog - efallai mai wrth geg Afon Desach neu yn Aberafon y digwyddodd hyn lle 'roedd modd lansio cwch o'r lan i'r dŵr ar adeg o lanw uchel: creigiau a cherrig sydd ar y traeth ei hun. Gydag erydiad cyson, fodd bynnag, gellid dychmygu fod yna gei ger Y Borth a fyddai wedi rhoi digon o gysgod. Ym 1780 adeiladwyd y llong, sef y Nancy, 32 tunnell o faint. Fe hwyliodd hi hyd nes iddi suddo ym 1817.[3]
Tai a phobl nodedig
Prif dŷ'r plwyf yn yr amser a fu, efallai, oedd Lleuar Fawr. Roedd Mynachdy Gwyn ym mhen ucha'r plwyf, cartref teulu Meredydd neu Feredith, hefyd yn fangre o ddylanwad.
Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd:
- Morys Clynnog
- Sant John Jones
- Siôn Gwynedd (John Gwynneth), cerddor
- Ebenezer Thomas (Eben Fardd), ysgolfeistr, bardd a llenor
- William Owen (Gwilym Ddu Glan Hafren), ysgolfeistr, bardd a cherddor
- Robert Price, Melin Faesog, melinydd a saer coed
- Edgar Christian, anturiaethwr a dyddiadurwr
- Siôn Robert Lewis (John Roberts) y seryddwr a'r almanaciwr
- Robert Roberts y "seraff bregethwr"
- Syr Ifor Williams, ysgolhaig
- R. Dewi Williams, prifathro Ysgol Ragbaratoawl y Methodistiaid Calfinaidd - "Ysgol Eben Fardd" - a llenor.
- Howell Roberts (Hywel Tudur), bardd, pregethwr a dyfeisydd
Y pentref
Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllheli - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref. Arferai fod yn gyrchfan bwysig, nid yn unig oherwydd y cysylltiadau â Beuno, ond hefyd gan mai dyma'r pentref oedd yr agosaf at hanner y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac roedd galw am dafarnau a gwesty coets fawr yma. Fodd bynnag, aeth llawer o'r busnes i gyfeiriad y rheilffordd, pan agorodd honno i Bwllheli (trwy Afon-wen) ym 1867. Ys dywed W. R. Ambrose: "Er pan agorwyd Rheilffordd Sir Gaerynarfon y mae pentref Clynnog wedi myned yn un o'r cilfachau mwyaf tawel a neillduedig o fewn y wlad."[4]
Bu nifer o dafarnau a siopau a gweithdai crefftwyr, yn cynnwys gefail, yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y gwesty olaf, Y Beuno, yn nechrau'r 2010au a'i osod yn lle gwyliau hunan ddarpar. Roedd swyddfa'r post a oedd hefyd yn siop wedi cau erbyn hynny, ond mae siop arall wedi agor yn y garej ar gyrion y pentref. Ar un cyfnod caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn yr Ysgoldy ble mae Canolfan Hanes Uwchgwyrfai wedi ei sefydlu - yn hen Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, sef ysgol y Methodistiaid Calfinaidd a gychwynnodd ddarpar weinidogion ar eu gyrfa o astudio am y weinidogaeth. Fe'i caewyd ym 1929 a'i throsglwyddo i'r Rhyl.
Agorwyd Neuadd y Pentref, Clynnog Fawr yn Ebrill 1957.
Prif nodweddion y pentref yw'r Eglwys, ffynnon Beuno a Chromlech Bachwen.
Digwyddiadau
Hydref 5 1652: Cosbi William Rowlands am halogi'r Saboth. Ei drosedd oedd gyrru gyrr o wartheg o Landwrog i Bwllheli. Fe'i dirwywyd i 10 swllt.
Mehefin 25 1976: Torri ceubren y pentref ger Tyrpaig. Yn ôl traddodiad byddai'r pentref farw pe gwneid hyn. Lluniau i ddilyn a rhagor o hanes.