Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
 
(Ni ddangosir y 56 golygiad yn y canol gan 7 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
[[ Delwedd:A view of Clynnog-Vawr near Carnarvon.jpeg|bawd|200px]]
[[ Delwedd:A view of Clynnog-Vawr near Carnarvon.jpeg|bawd|400px]]


'''Clynnog Fawr''' yw plwyf mwyaf [[Uwchgwyrfai]] o ran arwynebedd. Enw llawn y plwyf yw "Clynnog Fawr yn Arfon". Ystyr "Clynnog" yw man lle mae coed celyn yn tyfu. Yn wir, ceir enghreifftiau o'r enw [[Y Gelynnog]] mewn dogfennau cynnar.  
'''Clynnog Fawr''' yw plwyf mwyaf [[Uwchgwyrfai]] o ran arwynebedd. Enw llawn y plwyf yw "Clynnog Fawr yn Arfon". Ystyr "Clynnog" yw man lle mae coed celyn yn tyfu. Yn wir, ceir enghreifftiau o'r enw [[Y Gelynnog]] mewn dogfennau cynnar.  


Yn ogystal â phentref Clynnog Fawr ei hun,ble mae'r eglwys ac nid nepell o'r môr, mae'r plwyf yn cynnwys y pentrefi neu'r treflannau canlynol: [[Capel Uchaf]], [[Tai'n Lôn]], [[Pontlyfni]], [[Brynaerau]], [[Aberdesach]] ac, ym mhenucha'r plwyf, [[Pant-glas]], yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig [[Bwchderwin]].
Yn ogystal â phentref Clynnog Fawr ei hun,ble mae'r eglwys ac nid nepell o'r môr, mae'r plwyf yn cynnwys y pentrefi neu'r treflannau canlynol: [[Capel Uchaf]], [[Tai'n Lôn]], [[Pontlyfni]], [[Brynaerau]], [[Aberdesach]] ac, ym mhenucha'r plwyf, [[Pant-glas]], yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig [[Bwlchderwin]].


Ystyr yr enw yw 'rhywle celynnog' sef mangre lle ceir coed celyn yn tyfu. Mae'n debygol y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Glynnog Fechan ym mhlwyf Llangeinwen, sir Fôn, lle oedd gan y sefydliad crefyddol (neu 'glas') a sefydlwyd gan Beuno diroedd - neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun.   
Mae'n debygol y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Glynnog Fechan ym mhlwyf Llangeinwen, sir Fôn, lle oedd gan y sefydliad crefyddol (neu 'glas') a sefydlwyd gan Beuno diroedd - neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun.   


==Ffiniau a thirwedd==
==Ffiniau a thirwedd==
Mae i'r de o blwyfi [[Llandwrog]] a [[Llanllyfni]] (gan godi dros Fynydd Graig Goch  hyd at gopa Craig Cwm Dulyn), ac i'r gogledd o blwyf [[Llanaelhaearn]], yn ogystal â ffinio ar nifer o blwyfi Eifionydd, hefyd ar ei ffin ddeheuol.  
Mae i'r de o blwyfi [[Llandwrog]] a [[Llanllyfni]] (gan godi dros Fynydd Graig Goch  hyd at gopa Craig Cwm Dulyn), ac i'r gogledd o blwyf [[Llanaelhaearn]], yn ogystal â ffinio ar nifer o blwyfi Eifionydd, hefyd ar ei ffin ddeheuol.
 
Yr oedd y plwyf yn rhan o [[Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon]] at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.  


==Yr eglwys a'i sant==
==Yr eglwys a'i sant==
Credir i [[Beuno Sant]] sefydlu 'clas' neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen flwch derw a elwir yn ''gyff Beuno'' sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymiad y mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim ond fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.
[[Delwedd:Eglwys Clynnog c1975.jpg|bawd|de|400px]]
Credir i [[Beuno Sant]] sefydlu 'clas' (ond clâs yw'r ynganiad) neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen gist dderw a elwir yn ''[[Cyff Beuno|gyff Beuno]]'' sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymu'r mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim ond fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.
 
Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw [[Beuno Sant]], ei sylfaenydd tybiedig, sant sydd yn gysylltiedig â sawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws [[Bae Caernarfon]] o Glynnog Fawr ymysg eraill.
 
Nid nepell o'r eglwys ceir [[Ffynnon Beuno]], ychydig i'r de ar ochr yr hen lôn bost cyn cyrraedd Maes Glas.
 
Roedd ysgol yng Nghapel Beuno (Eglwys y Bedd) ym 1811.
 
==Y traeth, pysgota môr a hwylio==
[[Delwedd: Y Borth, Clynnog c.1890.jpg|bawd|400px|de|Y Borth, Clynnog, c1890]]
Mae'n bur debyg fod cysylltiad â chlas Beuno ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir ''Brut y Tywysogion''. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i Glynnog o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw ''Le Geffrey'' wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), tt.2, 4, 9.</ref>
 
Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19gg. Roedd gwraig Syr Ifor Williams yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), t.35</ref> 
 
Adroddodd John Williams (John Coed), Cowrt Bach,yr hanes hwn yn 1967 (a recordiwyd i Amgueddfa Werin Cymru): "Roedd yna hen wraig yn byw yn Y Borth (tai sgotwrs) meddan nhw, ac mi fyddai ’ma beth ofnadwy o fecryll a penwaig yng Nghlynnog yn yr hen Gorad ’ma. Roedden nhw wedi dal llond y cae bron o benwaig ac fe’u gadawyd yno i ddrewi. Mi felltithiodd yr hen wraig nhw ac mi ddywedodd na fyddai penwaig yng Nghlynnog am 200 mlynedd. A fuo na ddim chwaith." Byddai ei dad yn arfer dweud bod hen dai bach yn Aberafon, [[Gurn Goch]], yn yr hen oes - cyn ei amser ef - ac y byddai pysgotwrs yn byw yno.
 
Nodir yn llyfr David Thomas hefyd fod llong wedi ei hadeiladu yng Nghlynnog - efallai mai wrth geg [[Afon Desach]] neu yn [[Aberafon]] y digwyddodd hyn lle 'roedd modd lansio cwch o'r lan i'r dŵr ar adeg o lanw uchel: creigiau a cherrig sydd ar y traeth ei hun. Gydag erydiad cyson, fodd bynnag, gellid dychmygu fod yna gei ger Y Borth a fyddai wedi rhoi digon o gysgod. Ym 1780 adeiladwyd y llong, sef y ''Nancy'', 32 tunnell o faint. Fe hwyliodd hi hyd nes iddi suddo ym 1817.<ref>David Thomas, ''Llongau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), t.206</ref>
[[Delwedd:Borth1 copy (002).gif|bawd|400px|de|Y Borth yn 1974 ond erbyn 2019 mae'r môr wedi erydu'r lle.]]
[[Delwedd:Borth3 copy (002).gif|bawd|chwith|400px|(Ty'n-y-coed a welir trwy'r twll ffenestr)]]
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 


Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw [[Beuno Sant]], ei sylfaenydd tybiedig, sydd â sant sydd yn gysylltiedig a sawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws [[Bae Caernarfon]] o Glynnog Fawr ymysg eraill.


====Ffynnon Beuno====
Mae'r ffynnon yn heneb gofrestredig ac adeilad Gradd II* rhestredig, cafodd ei restru ar 29 Mai 1968. Mae'n ffynnon sanctaidd ganoloesol, a chafodd llogeiliau eu hychwanegu yn ddiweddarach yn yr 18fed ganrif; mae'r gweddill yn debygol o fod o'r 15fed ganrif pan gafodd eglwys Sant Beuno ei hailadeiladu. Mae'r ffynnon yn fasn garreg, sgwâr, uchder o 6tr. Mae'r dŵr tua 350mm dyfn. Mae yna feinciau ar ddwy ochr y waliau. Uwchben y feinciau, mae yna 3 agen sgwâr yn y waliau, gelwir yn ''"ledged recesses"'', efallai ar gyfer dillad a meddiannau'r ymdrochwr.<ref>http://www.coflein.gov.uk/en/site/32193/details/ffynnon-beuno.</ref>
Yn Mai 2010, dinistriodd fandaliaid y ffynnon, cafodd cerrig eu rhwygo o'r.<ref>http://www.dailypost.co.uk/news/local-news/fury-historic-clynnog-well-vandalised-2756200].</ref>


==Tai a phobl nodedig==
==Tai a phobl nodedig==
Prif dŷ'r plwyf yn yr amser a fu,efallai, oedd [[Lleuar-fawr]]. Roedd [[Mynachdy Gwyn]] ym mhen ucha'r plwyf, cartref teulu Meredydd neu Feredith hefyd yn fangre o ddylanwad.
Prif dŷ'r plwyf yn yr amser a fu, efallai, oedd [[Lleuar Fawr]]. Roedd [[Mynachdy Gwyn]] ym mhen ucha'r plwyf, cartref teulu Meredydd neu Feredith, hefyd yn fangre o ddylanwad.


Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd:
Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd:
* [[Morys Clynnog]]
* [[Morys Clynnog]]
* [[Sant John Jones]]
* [[Sant John Jones]]
* [[Sion Gwynedd (John Gwyneth)]], cerddor
* [[Siôn Gwynedd (John Gwynneth)]], cerddor
* [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]], ysgolfeistr, bardd a llenor
* [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]], ysgolfeistr, bardd a llenor
* [[William Owen (Gwilym Ddu Glan Hafren)]], ysgolfeistr, bardd a cherddor
* [[Robert Price, Melin Faesog]], melinydd a saer coed
* [[Edgar Christian]], anturiaethwr a dyddiadurwr
* [[Edgar Christian]], anturiaethwr a dyddiadurwr
* [[Sion Robert Lewis]] y seryddwr a'r almanaciwr
* [[Siôn Robert Lewis (John Roberts)]] y seryddwr a'r almanaciwr
* [[Robert Roberts]] y "seraff bregethwr"
* [[Robert Roberts]] y "seraff bregethwr"
* [[Syr Ifor Williams]], ysgolhaig
* [[Syr Ifor Williams]], ysgolhaig
* [[R. Dewi Williams]], prifathro Ysgol Ragbaratoawl y Methodistiaid Calfinaidd - [["Ysgol Eben Fardd"]] -  a llenor.  
* [[R. Dewi Williams]], prifathro Ysgol Ragbaratoawl y Methodistiaid Calfinaidd - "[[Ysgol Eben Fardd]]" -  a llenor.  
* [[Hywel Roberts (Hywel Tudur)]], bardd, pregethwr a dyfeisydd
* [[Howell Roberts (Hywel Tudur)]], bardd, pregethwr a dyfeisydd


==Y pentref==
==Y pentref==
Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllheli - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref.
Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllheli - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref. Arferai fod yn gyrchfan bwysig, nid yn unig oherwydd y cysylltiadau &acirc; Beuno, ond hefyd gan mai dyma'r pentref oedd yr agosaf at hanner y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac roedd galw am dafarnau a gwesty coets fawr yma. Fodd bynnag, aeth llawer o'r busnes i gyfeiriad y rheilffordd, pan agorodd honno i Bwllheli (trwy Afon-wen) ym 1867. Ys dywed W. R. Ambrose: "Er pan agorwyd Rheilffordd Sir Gaerynarfon y mae pentref Clynnog wedi myned yn un o'r cilfachau mwyaf tawel a neillduedig o fewn y wlad."<ref>W.R. Ambrose, ''Nant Nantlle'', (1872), t.96.</ref> 
 
Bu nifer o dafarnau a siopau a gweithdai crefftwyr, yn cynnwys gefail, yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y gwesty olaf, Y Beuno, yn nechrau'r 2010au a'i osod yn lle gwyliau hunan ddarpar. Roedd swyddfa'r post a oedd hefyd yn siop wedi cau erbyn hynny, ond mae siop arall wedi agor yn y garej ar gyrion y pentref. Ar un cyfnod caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn yr Ysgoldy ble mae [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]] wedi ei  sefydlu - yn hen [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]], sef ysgol y Methodistiaid Calfinaidd a gychwynnodd ddarpar weinidogion ar eu gyrfa o astudio am y weinidogaeth. Fe'i caewyd ym 1929 a'i throsglwyddo i'r Rhyl.
 
Agorwyd [[Neuadd y Pentref, Clynnog Fawr]] yn Ebrill 1957.


Bu nifer o dafarnau a siopau a gweithdai crefftwyr, yn cynnwys gefail, yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y gwesty olaf, Y Beuno, yn nechrau'r 2010au a'i osod yn lle gwyliau hunan ddarpar. Roedd swyddfa'r post a oedd hefyd yn siop wedi cau erbyn hynny, ond mae siop arall wedi agor yn y garej ar gyrion y pentref. Ar un cyfnod caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn yr Ysgoldy ble mae mae [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]] wedi ei  sefydlu - yn hen [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]], sef ysgol y Methodistiaid Calfinaidd a gychwynnodd ddarpar weinidogion ar eu gyrfa o astudio am y weinidogaeth. Fe'i caewyd ym 1929 a'i throsglwyddo i'r Rhyl.
Prif nodweddion y pentref yw'r Eglwys, ffynnon Beuno a [[Cromlech Bachwen|Chromlech Bachwen]].


Agorwyd Neuadd y Pentref yn Ebrill 1957
==Digwyddiadau==
Hydref 5 1652:    Cosbi William Rowlands am halogi'r Saboth. Ei drosedd oedd gyrru gyrr o wartheg o Landwrog i Bwllheli.  Fe'i dirwywyd i 10 swllt.


Prif nodwedd y pentref yw'r eglwys; hefyd ceir [[Ffynnon Beuno]] ychydig i'r de ar ochr yr hen lôn bost cyn cyrraedd Maes Glas; a [[Cromlech Bachwen|Chromlech Bachwen]].
Mehefin 25 1976:  Torri ceubren y pentref ger Tyrpaig. Yn &ocirc;l traddodiad byddai'r pentref farw pe gwneid hyn.  Lluniau i ddilyn a rhagor o hanes.  


[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:06, 14 Medi 2023

Clynnog Fawr yw plwyf mwyaf Uwchgwyrfai o ran arwynebedd. Enw llawn y plwyf yw "Clynnog Fawr yn Arfon". Ystyr "Clynnog" yw man lle mae coed celyn yn tyfu. Yn wir, ceir enghreifftiau o'r enw Y Gelynnog mewn dogfennau cynnar.

Yn ogystal â phentref Clynnog Fawr ei hun,ble mae'r eglwys ac nid nepell o'r môr, mae'r plwyf yn cynnwys y pentrefi neu'r treflannau canlynol: Capel Uchaf, Tai'n Lôn, Pontlyfni, Brynaerau, Aberdesach ac, ym mhenucha'r plwyf, Pant-glas, yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig Bwlchderwin.

Mae'n debygol y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Glynnog Fechan ym mhlwyf Llangeinwen, sir Fôn, lle oedd gan y sefydliad crefyddol (neu 'glas') a sefydlwyd gan Beuno diroedd - neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun.

Ffiniau a thirwedd

Mae i'r de o blwyfi Llandwrog a Llanllyfni (gan godi dros Fynydd Graig Goch hyd at gopa Craig Cwm Dulyn), ac i'r gogledd o blwyf Llanaelhaearn, yn ogystal â ffinio ar nifer o blwyfi Eifionydd, hefyd ar ei ffin ddeheuol.

Yr oedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.

Yr eglwys a'i sant

Credir i Beuno Sant sefydlu 'clas' (ond clâs yw'r ynganiad) neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen gist dderw a elwir yn gyff Beuno sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymu'r mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim ond fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.

Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw Beuno Sant, ei sylfaenydd tybiedig, sant sydd yn gysylltiedig â sawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws Bae Caernarfon o Glynnog Fawr ymysg eraill.

Nid nepell o'r eglwys ceir Ffynnon Beuno, ychydig i'r de ar ochr yr hen lôn bost cyn cyrraedd Maes Glas.

Roedd ysgol yng Nghapel Beuno (Eglwys y Bedd) ym 1811.

Y traeth, pysgota môr a hwylio

Y Borth, Clynnog, c1890

Mae'n bur debyg fod cysylltiad â chlas Beuno ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir Brut y Tywysogion. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i Glynnog o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw Le Geffrey wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.[1]

Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19gg. Roedd gwraig Syr Ifor Williams yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.[2]

Adroddodd John Williams (John Coed), Cowrt Bach,yr hanes hwn yn 1967 (a recordiwyd i Amgueddfa Werin Cymru): "Roedd yna hen wraig yn byw yn Y Borth (tai sgotwrs) meddan nhw, ac mi fyddai ’ma beth ofnadwy o fecryll a penwaig yng Nghlynnog yn yr hen Gorad ’ma. Roedden nhw wedi dal llond y cae bron o benwaig ac fe’u gadawyd yno i ddrewi. Mi felltithiodd yr hen wraig nhw ac mi ddywedodd na fyddai penwaig yng Nghlynnog am 200 mlynedd. A fuo na ddim chwaith." Byddai ei dad yn arfer dweud bod hen dai bach yn Aberafon, Gurn Goch, yn yr hen oes - cyn ei amser ef - ac y byddai pysgotwrs yn byw yno.

Nodir yn llyfr David Thomas hefyd fod llong wedi ei hadeiladu yng Nghlynnog - efallai mai wrth geg Afon Desach neu yn Aberafon y digwyddodd hyn lle 'roedd modd lansio cwch o'r lan i'r dŵr ar adeg o lanw uchel: creigiau a cherrig sydd ar y traeth ei hun. Gydag erydiad cyson, fodd bynnag, gellid dychmygu fod yna gei ger Y Borth a fyddai wedi rhoi digon o gysgod. Ym 1780 adeiladwyd y llong, sef y Nancy, 32 tunnell o faint. Fe hwyliodd hi hyd nes iddi suddo ym 1817.[3]

Y Borth yn 1974 ond erbyn 2019 mae'r môr wedi erydu'r lle.
(Ty'n-y-coed a welir trwy'r twll ffenestr)












Tai a phobl nodedig

Prif dŷ'r plwyf yn yr amser a fu, efallai, oedd Lleuar Fawr. Roedd Mynachdy Gwyn ym mhen ucha'r plwyf, cartref teulu Meredydd neu Feredith, hefyd yn fangre o ddylanwad.

Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd:

Y pentref

Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllheli - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref. Arferai fod yn gyrchfan bwysig, nid yn unig oherwydd y cysylltiadau â Beuno, ond hefyd gan mai dyma'r pentref oedd yr agosaf at hanner y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac roedd galw am dafarnau a gwesty coets fawr yma. Fodd bynnag, aeth llawer o'r busnes i gyfeiriad y rheilffordd, pan agorodd honno i Bwllheli (trwy Afon-wen) ym 1867. Ys dywed W. R. Ambrose: "Er pan agorwyd Rheilffordd Sir Gaerynarfon y mae pentref Clynnog wedi myned yn un o'r cilfachau mwyaf tawel a neillduedig o fewn y wlad."[4]

Bu nifer o dafarnau a siopau a gweithdai crefftwyr, yn cynnwys gefail, yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y gwesty olaf, Y Beuno, yn nechrau'r 2010au a'i osod yn lle gwyliau hunan ddarpar. Roedd swyddfa'r post a oedd hefyd yn siop wedi cau erbyn hynny, ond mae siop arall wedi agor yn y garej ar gyrion y pentref. Ar un cyfnod caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn yr Ysgoldy ble mae Canolfan Hanes Uwchgwyrfai wedi ei sefydlu - yn hen Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, sef ysgol y Methodistiaid Calfinaidd a gychwynnodd ddarpar weinidogion ar eu gyrfa o astudio am y weinidogaeth. Fe'i caewyd ym 1929 a'i throsglwyddo i'r Rhyl.

Agorwyd Neuadd y Pentref, Clynnog Fawr yn Ebrill 1957.

Prif nodweddion y pentref yw'r Eglwys, ffynnon Beuno a Chromlech Bachwen.

Digwyddiadau

Hydref 5 1652: Cosbi William Rowlands am halogi'r Saboth. Ei drosedd oedd gyrru gyrr o wartheg o Landwrog i Bwllheli. Fe'i dirwywyd i 10 swllt.

Mehefin 25 1976: Torri ceubren y pentref ger Tyrpaig. Yn ôl traddodiad byddai'r pentref farw pe gwneid hyn. Lluniau i ddilyn a rhagor o hanes.

Cyfeiriadau

  1. ↑ David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), tt.2, 4, 9.
  2. ↑ David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.35
  3. ↑ David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206
  4. ↑ W.R. Ambrose, Nant Nantlle, (1872), t.96.