Chwarel y Braich: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Chwarel lechi ar lethrau [[Moel Tryfan]] oedd '''Chwarel y Braich''', ger y [[Fron]]. | Chwarel lechi ar lethrau deheuol [[Moel Tryfan]] oedd '''Chwarel y Braich''', ger y [[Fron]]. | ||
Agorwyd hi yn y ddeunawfed ganrif, ac | Agorwyd hi yn y ddeunawfed ganrif, ac ym 1827 arbrofwyd ag ynni gwynt yno er mwyn pwmpio yn chwarel yr [[Chwarel yr Hen Fraich|Hen Fraich]] (a ddaeth yn [[Chwarel Braich-rhydd|Braich-rhydd]]). Roedd dan reolaeth Charles Curling o 1856 hyd 1868, pan aildrefnwyd parseli tir ar dir y Goron ar Foel Tryfan a chymerodd [[Hugh Beaver Roberts]] (twrnai o Fangor, ac un o gyfarwyddwyr [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]] a fyddai, maes o law, yn gwasanaethu Chwarel y Braich yn anuniongyrchol)<ref>Wici Festipedia [https://www.festipedia.org.uk/wiki/Hugh_Beaver_Roberts], cyrchwyd 7.11.2018</ref> reolaeth dros y lle, gan fasnachu dan enw Cwmni Chwarel Llechi Braich. Arhosodd y prif asiant ers dyddiau Curling, sef Thomas Turner, nes i hwnnw fawr ym 1873. | ||
Roedd | Cafodd ei datblygu yn yr 1870au, gan grynhoi gweithgaredd mewn un twll mawr gyda thair lefel a defnyddiwyd stêm i weithio'r peiriannau ac i bwmpio ar yr incleins. Am gyfnod byr cyn 1876, [[Owen Griffith Owen (Alafon)]] y bardd oedd y prif glerc, cyn iddo fynd i'r weinidogaeth. Am rai blynyddoedd hyd tua 1882, roedd gan y chwarel hon gysylltiad tramffordd â phrif lein [[Tramffordd John Robinson]] er mwyn gyrru ei llechi i ffwrdd ar hyd [[Rheilffordd Nantlle]]. Wedi hynny, defnyddid [[Tramffordd y Fron]]. Ar ôl y cyfnod hwnnw, defnyddid nifer o injans stêm ar dramffyrdd o fewn y chwarel.<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.238</ref> Roedd y chwarel ar ei hanterth ym 1882 pan gynhyrchwyd 2,600 tunnell yno, a chyflogwyd 124 o ddynion yno. Fodd bynnag, bu dirywiad cyflym, yn rhannol oherwydd cyflwr y fasnach lechi ac yn rhannol oherwydd problemau daearegol a wnaeth y llechen yn anodd i'w gweithio, ac yn amrywiol o ran lliw gyda llawer o smotiau o liw gwahanol trwyddi. Ar yr adeg hon, gweithiwyd y chwarel ar y cyd â [[Chwarel Coedmadog]] ond aeth honno hefyd trwy gyfnod anodd oherwydd llifogydd ac ati. Am ddegawd hyd 1900 amrywiai'r gweithlu rhwng 40 a 70, er bod y chwarel ers 1890 wedi bod yn rhan o chwareli [[John Robinson]]. Yn ystod streic y Penrhyn, dan fab John Robinson, Tom, cynyddodd y gweithlu i 80 a mwy, gyda chynnyrch o oddeutu 1700 tunnell y flwyddyn. Ym 1904, unodd Tom Robinson ei ddiddordebau chwarelyddol yn [[Chwarel Tal-y-sarn]], Braich, [[Cloddfa'r Coed]] a [[Chwarel Tan'rallt]] mewn un cwmni, Cwmni Chwareli Llechi Tal-y-sarn Cyf. | ||
Ym 1908, ffurfiwyd cwmni newydd, Cwmni Chwareli Llechi Braich newydd, Cyf. ond er buddsoddi mewn offer modern a chychwyn yn obeithiol, cafwyd cwymp mawr yn y chwarel, gan guddio rhai o'r ponciau ar waelod y twll. Roedd wedi cau erbyn diwedd 1911, er i waith ysbeidiol fynd ymlaen yno hyd y 1930au.<ref>Tomos, Dewi ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)</ref> Wedyn aeth tir y chwarel dan reolaeth cwmni a gafodd hawl dros y mynydd i gyd, ac ym 1930 ffurfiwyd Cwmni Chwareli Llechi Sir Gaernarfon y Goron, Cyf. (''Caernarvonshire Crown Slate Quarries Ltd.'') ond ni wnaed unrhyw ymdrech i ail-agor y Braich. Bu cryn waith ar adfer llechi o'r tipiau a'u trin, ac aeth y gwaith hwnnw ymlaen o dro i dro hyd mor ddiweddar â 1963.<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), tt.226-37.</ref> | |||
== | ==Cyfeiriadau== | ||
[[Categori: Chwareli llechi]] | [[Categori: Chwareli llechi]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:48, 24 Chwefror 2022
Chwarel lechi ar lethrau deheuol Moel Tryfan oedd Chwarel y Braich, ger y Fron.
Agorwyd hi yn y ddeunawfed ganrif, ac ym 1827 arbrofwyd ag ynni gwynt yno er mwyn pwmpio yn chwarel yr Hen Fraich (a ddaeth yn Braich-rhydd). Roedd dan reolaeth Charles Curling o 1856 hyd 1868, pan aildrefnwyd parseli tir ar dir y Goron ar Foel Tryfan a chymerodd Hugh Beaver Roberts (twrnai o Fangor, ac un o gyfarwyddwyr Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru a fyddai, maes o law, yn gwasanaethu Chwarel y Braich yn anuniongyrchol)[1] reolaeth dros y lle, gan fasnachu dan enw Cwmni Chwarel Llechi Braich. Arhosodd y prif asiant ers dyddiau Curling, sef Thomas Turner, nes i hwnnw fawr ym 1873.
Cafodd ei datblygu yn yr 1870au, gan grynhoi gweithgaredd mewn un twll mawr gyda thair lefel a defnyddiwyd stêm i weithio'r peiriannau ac i bwmpio ar yr incleins. Am gyfnod byr cyn 1876, Owen Griffith Owen (Alafon) y bardd oedd y prif glerc, cyn iddo fynd i'r weinidogaeth. Am rai blynyddoedd hyd tua 1882, roedd gan y chwarel hon gysylltiad tramffordd â phrif lein Tramffordd John Robinson er mwyn gyrru ei llechi i ffwrdd ar hyd Rheilffordd Nantlle. Wedi hynny, defnyddid Tramffordd y Fron. Ar ôl y cyfnod hwnnw, defnyddid nifer o injans stêm ar dramffyrdd o fewn y chwarel.[2] Roedd y chwarel ar ei hanterth ym 1882 pan gynhyrchwyd 2,600 tunnell yno, a chyflogwyd 124 o ddynion yno. Fodd bynnag, bu dirywiad cyflym, yn rhannol oherwydd cyflwr y fasnach lechi ac yn rhannol oherwydd problemau daearegol a wnaeth y llechen yn anodd i'w gweithio, ac yn amrywiol o ran lliw gyda llawer o smotiau o liw gwahanol trwyddi. Ar yr adeg hon, gweithiwyd y chwarel ar y cyd â Chwarel Coedmadog ond aeth honno hefyd trwy gyfnod anodd oherwydd llifogydd ac ati. Am ddegawd hyd 1900 amrywiai'r gweithlu rhwng 40 a 70, er bod y chwarel ers 1890 wedi bod yn rhan o chwareli John Robinson. Yn ystod streic y Penrhyn, dan fab John Robinson, Tom, cynyddodd y gweithlu i 80 a mwy, gyda chynnyrch o oddeutu 1700 tunnell y flwyddyn. Ym 1904, unodd Tom Robinson ei ddiddordebau chwarelyddol yn Chwarel Tal-y-sarn, Braich, Cloddfa'r Coed a Chwarel Tan'rallt mewn un cwmni, Cwmni Chwareli Llechi Tal-y-sarn Cyf.
Ym 1908, ffurfiwyd cwmni newydd, Cwmni Chwareli Llechi Braich newydd, Cyf. ond er buddsoddi mewn offer modern a chychwyn yn obeithiol, cafwyd cwymp mawr yn y chwarel, gan guddio rhai o'r ponciau ar waelod y twll. Roedd wedi cau erbyn diwedd 1911, er i waith ysbeidiol fynd ymlaen yno hyd y 1930au.[3] Wedyn aeth tir y chwarel dan reolaeth cwmni a gafodd hawl dros y mynydd i gyd, ac ym 1930 ffurfiwyd Cwmni Chwareli Llechi Sir Gaernarfon y Goron, Cyf. (Caernarvonshire Crown Slate Quarries Ltd.) ond ni wnaed unrhyw ymdrech i ail-agor y Braich. Bu cryn waith ar adfer llechi o'r tipiau a'u trin, ac aeth y gwaith hwnnw ymlaen o dro i dro hyd mor ddiweddar â 1963.[4]