Bandiau Cwmwd Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:09, 24 Tachwedd 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dyma restr (yn nhrefn yr wyddor) o enwau Bandiau Cwmwd Uwchgwyrfai (bandiau pres) a fu neu sydd mewn bodolaeth ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg :

1. Band Deulyn (Baladeulyn)

2. Band Dolydd

3. Seindorf Dulyn (Nebo)

4. Band Ceidwadwyr Pen-y-groes

5. Band Gwirfoddolwyr Pen-y-groes

6. Band Moeltryfan (Rhosgadfan)

7. Band Nantlle (Tal-y-sarn)

8. Band Llyfnwy (Llanllyfni)

9. Seindorf Trefor

10. Band Uwchllifon (Carmel)

Diflannodd Dolydd, Dulyn, dau fand Pen-y-groes ac Uwchllifon, cyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Diflannodd Deulyn a Llyfnwy yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Diflannodd Cadfan ym 1947 wedi iddo ymuno â Seindorf Arian Dyffryn Nantlle i gystadlu'n aflwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn y flwyddyn honno dan arweiniad Alfred Henderson, Nantlle.

O ddeg band Cwmwd Uwchgwyrfai, dau yn unig sy'n dal yn fyw ac yn ymarfer yn gyson - dau fand sydd bron iawn yr un oedran, ac fel mae'n digwydd, dau fand hyna'r cwmwd: Band Trefor (sefydlwyd ym 1863) a Seindorf Arian Dyffryn Nantlle - neu Band Nantlle (sefydlwyd ym 1865).