Band Llyfnwy

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Band Llyfnwy oedd band pres cyntaf Dyffryn Nantlle, ac fe’i sefydlwyd gan Griffith Jones, ysgrifennydd Cymdeithas Gyfeillgar Brodorion Llyfnwy, ym 1864. Roedd wedi sylwi fod cymunedau llechi eraill wedi sefydlu bandiau, ac fe roddodd bob cefnogaeth i’r band newydd.

Yr arweinydd cyntaf oedd John Watts, arweinydd Seindorf Gwirfoddolwyr Caernarfon. Prynwyd set newydd sbon o offerynnau o Fanceinion. Roedd gan y band wisgoedd priodol o’r cychwyn, ac ym 1870, trefnwyd cyngerdd yn Neuadd y Farchnad,Pen-y-groes, er mwyn gorffen talu amdanynt.[1] Mae’n amlwg fod cyngherddau gan y band wedi profi’n boblogaidd – ceir sôn am gyngerdd arall gan y band yn Neuadd y Farchnad, bron union ddwy flynedd cyn hynny.[2]

Ysywaeth, er y cychwyn da, cyn bo hir fe gafodd y band yr enw o fod yn afreolus a meddw, a disgwylid rhialtwch lle bynnag y byddent yn chwarae - hynny’n gwneud y band yn boblogaidd gydag elfennau ysgafnfryd ac ysmala’r boblogaeth leol, ond yn gasbeth yn llygaid pobl syber y capeli, o dan ddylanwad y mudiad dirwest a oedd yn tyfu’n gyflym. Am gyfnod bu William Evans (Eos Eifion) yn arweinydd ar y band, a fo hefyd oedd arweinydd band gweddol newydd, sef Seindorf Dulyn. Ceisiai Eos Eifion fagu cydweithrediad rhwng y ddau fand, ond amheuai Band Llyfnwy mai cystadleuydd i’w ofni oedd y band arall, ac aeth pethau’n ddrwg rhyngddynt . Un noson fe ddisgwyliodd aelodau Band Llyfnwy wrth Bont-y-Crychddwr am hogiau Band Dulyn a oedd ar eu ffordd adref i Nebo, gan roi cweir iawn iddynt.[3]

Beth bynnag y bo am hynny, bu’r band yn ychwanegu at fwrlwm cerddoriaeth y dyffryn yn negawdau olaf y 19g., weithiau ar y cyd â Seindorf Arian Dyffryn Nantlle o bentref Tal-y-sarn. Er enghraifft, perfformiodd y ddau fand ym 1877 mewn cyngerdd yn y Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes.[4] Arferai’r band chwarae hefyd mewn cyngherddau ar ddiwrnod ffair, ac mae adroddiad fod llawer un wedi mynd i gyngerdd ar ddiwrnod ffair ym 1878 yn unswydd oherwydd iddynt ddisgwyl y byddai dawnsio ac yn y blaen yno; ysywaeth, cawsant eu siomi, gan fod y band wedi cyflwyno cerddoriaeth a oedd am unwaith yn ddigon derbyniol i aelodau mwy parchus (ac efallai mwy sych-dduwiol) y gymuned.[5]

Er gwaethaf poblogrwydd y band, ac er gwaethaf y cychwyn da, erbyn 1879 dywedwyd bod y band heb “ninlle i ymarfer ond ar y stryd neu mewn cae”, ac “ychydig o lewyrch” oedd ar y band o’r herwydd.[6] Mae’n debyg yr ofnid mai dyna oedd dechrau’r diwedd, ac i wneud pethau’n llai gobeithiol fyth, roedd bandiau eraill yn codi yn y dyffryn. Serch hynny, tynnodd aelodau’r band at ei gilydd gan drefnu i gystadlu yn Eisteddfod Ynys Enlli, lle manteisiodd yr aelodau’n rhy helaeth o lawer ar y cyflenwad o gwrw; er iddynt rywsut agor yr eisteddfod gyda pherfformiad byr, methodd y band â chystadlu yng nghystadleuaeth y bandiau pres ar yr ynys, er gwaethaf y ffaith nad oedd neb arall yn cystadlu ac felly roedd y wobr yno iddynt![7] Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ym 1881, cystadlodd y band yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd[8] Wedi hynny, fodd bynnag, mae enw'r band yn diflannu o dudalennau'r wasg a rhaid amau mai yn fuan wedyn y daeth y cwbl i ben.

Cyfeiriadau

  1. Y Dydd, 14.1.1870
  2. Y Dydd, 19.6.1868
  3. Geraint Jones, Cyrn y Diafol (Caernarfon, 2004), tt.32-3, 80-2
  4. Y Genedl Gymreig, 3.5.1877, t.8
  5. Y Genedl Gymreig, 4.7.1878, t.7
  6. Y Genedl Gymreig, 26.6.1879, t.8
  7. Geraint Jones, Cyrn y Diafol (Caernarfon, 2004), tt.82-3
  8. Y Genedl Gymreig, 2..6.1881, t.1