Seindorf Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Seindorf Arian Trefor)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Seindorf Trefor ym 1863.

Arweinydd presennol y Seindorf yw Geraint Jones, brodor o Drefor. Cynhelir cyfarfodydd ymarfer yn wythnosol. Lleoliad y 'Bandroom' yw hen gapel Bethlehem ym mhentref Trefor.

Mae Geraint Jones wedi ysgrifennu hanes y band yn llawn yn ei lyfr Cywrain Wŷr y Cyrn Arian.[1]

Yn 1997 aeth y Seindorf i'r Unol Daleithiau i gynnal nifer o gyngherddau yna. Busnes costus iawn oedd mentro mynd á'r Seindorf dros yr Iwerydd, ac un o'r ymdrechion codi arian oedd cynhyrchu CD er budd y daith. Dyma'r unig CD y Seindorf hyd yn hyn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, Cywrain Wyr y Cyrn Arian,Hanes Seindorf Trefor 1863-1988 (1988)