Llandwrog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 21: Llinell 21:


Ymysg unigolion pwysig a hanai/sy'n hanu o'r plwyf neu a drigai/sy'n trigo ynddo yr oedd:
Ymysg unigolion pwysig a hanai/sy'n hanu o'r plwyf neu a drigai/sy'n trigo ynddo yr oedd:
* [[Griffith Davies (mathemategwr)]]
* [[Griffith Davies]] mathemategwr blaenllaw]]
* [[Y Brodyr Francis]]
* [[Y Brodyr Francis]] cantorion enwog
* [[Dafydd Glyn Jones]] ysgolhaig,beirniad llenyddol,sefydlydd gwasg deuluol,blogiwr craffaf Cymru, ayb.  
* [[Dafydd Glyn Jones]] ysgolhaig,beirniad llenyddol,sefydlydd gwasg deuluol,blogiwr craffaf Cymru, ayb.  
* y dramodwr a'r beirniad llenyddol a'r nofelydd [[John Gwilym Jones]]  
* y dramodwr a'r beirniad llenyddol a'r nofelydd [[John Gwilym Jones]]  
Llinell 29: Llinell 29:
* yr ysgolhaig a'r bardd [[Thomas Parry]],  
* yr ysgolhaig a'r bardd [[Thomas Parry]],  
* y Parch.[[John Parry]], awdur ''Rhodd Mam'', cyhoeddwr a gweinidog gyda'r Calfiniaid.
* y Parch.[[John Parry]], awdur ''Rhodd Mam'', cyhoeddwr a gweinidog gyda'r Calfiniaid.
* [[Morris T. Williams]]y beirniad a'r nofelydd a'r newyddiadurwr
* [[Morris T. Williams]] y beirniad a'r nofelydd a'r newyddiadurwr


==Y pentref==
==Y pentref==

Fersiwn yn ôl 22:41, 6 Mawrth 2018

Mae Llandwrog yw un o blwyfi Uwchgwyrfai. Prif nodwedd y plwyf yw plasty mawreddog Glynllifon a 'r wal sy'n amgylchynu'r parc ac sydd yn 7 milltir o hyd. Mae pentref Llandwrog nid nepell o'r môr o gwmpas eglwys y plwyf. Mae'r plwyf hefyd yn cynnwys nifer o bentrefi a threflannau: Dinas Dinlle, Tŷ'n Lôn, Bethesda Bach, Y Groeslon, Carmel, Maes Tryfan, Y Fron, neu Cesarea, Cilgwyn a (hyd nes i ffiniau plwyfi Llandwrog a Llanllyfni gael eu newid tua diwedd y 20g), Nantlle. Fe elwir y darn mynyddig o'r plwyf, lle ceir tyddynod a bythynnod chwarelwyr, rhostir a chwareli, yn Llandwrog Uchaf weithiau.

Ffiniau a thirwedd

Mae plwyf Llandwrog yn gorwedd rhwng Llanwnda i'r gogledd a Llanllyfni a Chlynnog Fawr i'r de. Yn ei ben mwyaf dwyreiniol, mae bellach yn ffinio ar blwyf Betws Garmon, wedi i'r plwyf hwnnw 'ennill' tir oddi ar Llanwnda ym 1894, pan newidwyd llawer o ffiniau'r plwyfi, gan dorri'r cysylltiad hanesyddol rhwng ffiniau plwyfi eglwysig a ffiniau plwyfi 'sifil' a weinyddid gan gyngor etholedig. Tua diwedd y 20g, ennillwyd y tir ar drwyn penrhyn Abermenai oddi ar Llanwnda, ond cyn i'r ganrif ddiwethaf ddod i ben, collwyd tir ger Pen-y-groes, sef tir o gwmpas Garth Dorwen, (rhwng Pen-y-groes a'r Groeslon; a chwareli a phentref Nantlle, sydd bellach yn rhan o gymuned Llanllyfni.

Fe rannwyd y plwyf eglwysig tua chanol y 19g, gan godi eglwys newydd Sant Thomas rhwng Y Groeslon a Charmel i wasanaethu'r boblogaeth gynyddol ger y chwareli.

Mae'r tirwedd yn amrywio o draethau tywod a cherrig i forfa, tir gweddol ffwrythlon yn yr iseldir o gwmpas plasty Glynllifon, tir pori garw, corsydd a mawnogydd, a chopaon mynyddoedd sylweddol, gan gynnwys rhai creigiau serth megis Craig y Bera uwchben Drws-y-coed. Mae cryn coedwigo wedi digwydd o gwmpas Glynllifon, peth ohono'n blannu addurniadol; ond mae llawer o'r goedwig arall sy'n bodoli'n llwyni gwern a helyg. Efallai mai'r prif goedwig cynhenid a hynafol yw'r coedwig rhwng Gilwern a Thryfan-fawr ger Maes Tryfan, ond dichon y bu llawer mwy o goed cyn i'r tir gael ei glirio gan dyddynwyr ar yr un llaw a pherchnogion chwareli ar y llall.

Yr eglwys a'i sant

Eglwys fodern o ganol y 19g sydd ym mhlwyf Llandwrog, a godwyd ym 1857 (ynghyd â phorth y fynwent) mewn dull addurniadol wrth i'r pentref ei hun gael ei ddatblygu'n rhyw fath o 'bentref model', er mwyn difyrru llygaid yr Arglwydd Newborough, ei deulu a'i wahoddedigion wrth iddynt fynychu gwasanaethau. Yn wir, mae'r eglwys yn ymdebygu i gapel preifat tirfeddiannwr yn hytrach nag eglwys blwyf, oherwydd prinder seddau, ac mae'r seddau sydd yno yn wynebu ei gilydd - er, erbyn hynny, mae'n debyg fod llawer o'r plwyfolion nad oeddynt yn gaeth i dir rhent neu swyddi ar ystad Newborough wedi troi at y capeli anghydffurfiol.

Dywedir fod yr eglwys bresennol wedi ei hadeiladu o gwmpas yr hen eglwys, ac wedi i'r gwaith ar y waliau gael ei gwblhau, chwalwyd yr hen eglwys gan gario'r rwbal allan trwy'r drws. Mae'n amlwg fod eglwys wedi bod ar y safle ers canrifoedd lawer, ac mae lefel y fynwent mewn cymhariaeth â'r tir amgylchynol yn awgrymu hynny. Hefyd, yn yr eglwys newydd, mae nifer o gofebion a chreiriau sy'n dyddio'n ôl mor bell â 1700. Mae'n bosibl fod yr eglwys wedi ei hailadeiladu tua'r adeg honno gan fod nifer o eitemau yn dyddio o 1700-1703, fel pe bai angen gosodiadau newydd.

Cysegrwyd yr eglwys i Sant Twrog, ac mae'r cysegriad hwn yn awgrymu bod eglwys, neu lan, wedi bod ar y safle ers dyddiau cynnar Christnogaeth yng Nghymru. Credir i Twrog fyw yn ystod y 6-7g, a'i fod yn fab i Ithel Hael, a ddaeth i Gymru o Lydaw. Mae nifer o eglwysi eraill yn gysylltiedig ag ef, sef Maentwrog (Meirionnydd), Bodwrog (Sir Fôn) a chapel (sydd bellach yn furddun) ar Garreg y Capel (Chapel Rock) yn aber yr Afon Hafren ger Beachley, swydd Caerloyw (nid nepell o Gas-Gwent).

Tai pwysig ac enwogion

Mae nifer o fân blastai yn y plwyf, megis Tryfan-fawr, Llwyngwalch, Bodfan, Plas Newydd a Chollfryn (Mount Hazel).

Fodd bynnag, nid oes yr un blasty arall i gymharu o ran statws, hanes na maint â Glynllifon, cartref y teulu Glyn, a'u holynwyr y Wynniaid a ddyrchafwyd yn y 18g gyda theitl Arglwydd Newborough. Ymysg aelodau pwysicaf y teulu oedd Thomas Glynne (AS a botanegydd), y Sarsiant John Glynne ac Edmund Glynne - ill dau'n gefnogwyr Cromwell - a Thomas Wynn yr Arglwydd Newborough cyntaf. Yn y 19g, gwnaeth y 3ydd Arglwydd, Spencer Bulkeley Wynn lawer i harddu'r ystad a gwella ffermdai'r ardal.

Ymysg unigolion pwysig a hanai/sy'n hanu o'r plwyf neu a drigai/sy'n trigo ynddo yr oedd:

Y pentref

'Pentref plasty' yw Llandwrog ar ei ffurf bresennol yn ôl yr argraff gyntaf a geir ohono. Hyd nes i'r ffordd dyrpeg gael ei wneud, roedd y briffordd o Gaernarfon i Bwllheli'n pasio trwy'r pentref. Mae darn o'r hen "briffordd", sef y Lôn Gul, yn aros i ddangos mor wael oedd cyfleusterau teithio ddau gan mlynedd yn ôl. Fel y dywedwyd uchod, ailadeiladwyd y pentref i gyd yng nghanol y 19g gan y tirfeddiannwr lleol (gan gynnwys yr eglwys a chodwyd ysgol eglwysig) mewn dull 'pictiwresc' fel addurn ar yr ystad: mae pentref arall tebyg iddo yn Llandygái ger Bangor. Mae un nodwedd diddordol yw'r cytiau pwmp dŵr sy'n dal i sefyll (ond heb eu cyflenwad dwr bellach!).

Erbyn hyn, yr unig gyfleuster yn y pentref yw tafarn y Delyn, neu ar dafod leferydd pawb o'r ardal, "Tŷ'n Llan". Bu swyddfa bost a siop yma tan y 1970au, ond ar ôl iddi gau, aeth pobl leol ati i geisio godi'r arian i agor siop gymunedol newydd ond yn anffodus methiant bu'r fenter ar ôl ychydig o flynyddoedd. Nid oes yma neuadd pentref, a defnyddir yr ysgol ar gyfer ambell i weithgaredd cymunedol. Mae yma hefyd ganolfan ar gyfer y tîm gwylwyr y glannau gwirfoddol, a dywedir mai dyma oedd y tîm cyntaf o'i fath.

Roedd yr Arglwydd Newborough yn elyniaethus tuag at godi capeli ar ei dir, ond ar ôl cryn drafferth cafodd y Methodistiaid Calfinaidd dir i godi Capel Bwlan tua hanner milltir o'r pentref. Dywedir i'r Arglwydd blannu coed rhwng y capel a'r olygfa o'r Eifl, naill ai i sbeitio'r saint, neu i guddio'r capel rhag ei olwg pan fynychai wasanaethau yn yr eglwys!