Plas Newydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Plas Newydd ym mhlwyf Llandwrog yn sefyll y tu fewn i Wal Glynllifon ers i honno gael ei chodi tua 1840. Fe'i hadeiladwyd tua 1632 gan Thomas Glyn (gellir gweld carreg uwchben lle tân yn y tŷ gyda ‘TG 1632’ wedi’i naddu arni), ar ôl i’r teulu symud yno o Blas Nantlle (Baladeulyn).[1] Mae’n adeilad rhestredig hardd iawn, gyda llawer o’r nodweddion o'r 17eg ganrif i’w gweld hyd heddiw.

Roedd y teulu'n perthyn i Glynniaid Glynllifon ond nid oeddent yn cyd-fynd â hwy ar rai materion: er enghraifft, ceid cefnogwyr y Senedd yng Nglynllifon, ond cefnogwyr pybyr i Frenin Lloegr yn trigo ym Mhlas Newydd, yn ystod Rhyfel y Pleidiau Seisnig (sefY Rhyfel Cartref), 1642-8 a chyfnod y Gymanwlad, 1649-60. Cangen o deulu'r Glynniaid oedd teulu Plas Newydd a symudodd o'u cartref cyntaf yn Nantlle. Bu farw'r etifedd olaf cyn diwedd yr 17g.[2]

Yn fwy diweddar, ar ôl chwalfa'r rhan fwyaf o Ystad Glynllifon trwy werthiannau yn ystod ail hanner yr 20g, bu'r plas yn ei dro'n gartref i deulu a gadwai adar ysglyfaethus yn rhan o'r adeilad wrth iddynt redeg parc anifeiliaid gwylltion; ac yn gartref i Dr Dai Roberts, meddyg wedi ymddeol, o Nefyn yn wreiddiol, a'i wraig Dr Sheila Roberts, arbenigwraig ar erddi Glynllifon. Mae'n parhau'n dŷ preifat heb fynediad cyhoeddus ato.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein [1]; Adroddiad o brosiect denrogronoleg 'Dyddio Hen Dai Cymreig' Ty Mawr, Nantlle [2]
  2. Griffith, J. E. The Pedigrees of Caernarvonshire and Anglesey Families (Llundain, 1914)
  3. Gwybodaeth bersonol