Teulu Plas Newydd (Glynllifon)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Teulu nodedig a oedd yn ddisgynyddion hefyd i Cilmin Droed-ddu oedd teulu Plas Newydd. Roedd y rheiny a oedd yn byw ym Mhlas Newydd, Llandwrog yn gangen arall o deulu'r Glyniaid o Lynllifon, ac roeddynt wedi ymgartrefu yn Llandwrog ar ôl symud o’u cartref cynharach yn Nantlle.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, rhannwyd ystâd Robert ap Meredudd rhwng ei feibion – Rhisiart ap Robert yn etifeddu tiroedd yr ystâd yn Nantlle, ac Edmund Lloyd yn cael Glynllifon. Disgynnydd i Rhisiart ap Robert oedd Thomas Glynn o Nantlle, a briododd â Jane Griffith, merch John Griffith, Cefnamlwch. Ef a symudodd y teulu i Blas Newydd o gwmpas 1632, ac yno y bu ei ddisgynyddion yn byw hyd at 1681. John Glynn oedd yr aelod olaf o’r teulu i fyw ym Mhlas Newydd, ac ar ôl ei farwolaeth aeth ei ystâd i’w berthnasau ym Modeon, Ynys Môn ac Orielton, Sir Benfro.

Ffynonellau

  • Griffith, J. E. The Pedigrees of Caernarvonshire and Anglesey Families (Llundain, 1914)