Dafydd Glyn Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Dafydd Glyn Jones (ganed 1941) yn ysgolhaig o'r radd flaenaf a geiriadurwr nodedig, llenor a blogiwr craff, a aned ym mhentref Carmel. Mae'n arbenigwr ar ryddiaith Cymraeg Canol ac mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys hanesyddiaeth Cymru, Saunders Lewis, Robert Jones, Rhoslan, a bywyd a gwaith Emrys ap Iwan.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Carmel ac Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes, ble y disgleiriai fel disgybl. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac yng Ngholeg Linacre, Rhydychen.

Treuliodd gyfnod hir fel darlithydd ac wedyn Uwch-ddarlithydd yn yr Iaith Gymraeg a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Gyda'i gyd-olygydd Bruce Griffiths, golygodd Geiriadur yr Academi. Ymddeolodd o'r brifysgol yn 2000 a gweithiodd yn ddiflino ar ôl hynny. Iddo ef mae llawer o'r diolch fod y Coleg Cymraeg Cenedlaetol wedi dod i fodolaeth.

Llyfryddiaeth

Mae Dafydd Glyn Jones yn awdur nifer o erthyglau ar bynciau'n ymwneud â llên a hanesyddiaeth Cymru, e.e.

  • Drych yr Amseroedd (1987)
  • Gwlad y Brutiau (1990)
  • Cyfrinach Ynys Brydain (Darlith Flynyddol BBC Cymru, 1992)

Cyhoeddwyd detholiad o'i ysgrifau ar hanesyddiaeth Cymru yn Agoriad yr Oes (Y Lolfa, 2001).

Yn fwy diweddar, mae ef a'i briod, Gwawr, wedi sefydlu eu gwasg eu hunain, sef Dalen Newydd. Eisoes maent wedi cyhoeddi nifer o destunau clasurol Cymraeg yn y gyfres Cyfrolau Cenedl. Golygwyd rhai o'r cyfrolau hyn gan Dafydd Glyn Jones ei hun ac eraill gan olygyddion eraill gydag arbenigedd yn y meysydd dan sylw. Elfen bwysig arall o arlwy Dalen Newydd yw nifer o'r hyn a elwir ganddynt yn "Hen Lyfrau Bach", lle'r atgynhyrchir detholiadau o weithiau llenorion Cymraeg sydd wedi mynd allan o brint ers blynyddoedd maith.https://www.dalennewydd.cymru/

Mae Dafydd Glyn Jones hefyd wedi dod i'r amlwg yn ystod y 2010au fel blogiwr poblogaidd, craff a chrafog, dan y ffugenw Glyn Adda. [1].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma