Hafan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 27: Llinell 27:
== Erthyglau newydd ==
== Erthyglau newydd ==
[[Delwedd:UwchgwyrfaioRosgadfan.jpg|bawd|250px|de|Uwchgwyrfai o Rosgadfan]]
[[Delwedd:UwchgwyrfaioRosgadfan.jpg|bawd|250px|de|Uwchgwyrfai o Rosgadfan]]
{{Special:Newestpages/-/10}}
{{Special:Newestpages/-/40}}





Fersiwn yn ôl 15:46, 20 Ionawr 2018

Cof y Cwmwd

Cyflwyniad

Uwchgwyrfai
Uwchgwyrfai

Croeso i Cof y Cwmwd, sef casgliad o erthyglau yn y Gymraeg ar hanes a diwylliant cwmwd Uwchgwyrfai yng Ngwynedd.

Sefydlwyd Cof y Cwmwd ym mis Hydref 2017, fel un o weithgareddau elusennol Canolfan Hanes Uwchgwyrfai gyda grant hael gan Gronfa Loteri'r Dreftadaeth. Mae'n gweithio'n debyg iawn i Wicipedia.

Ein bwriad yw gweld Cof y Cwmwd yn datblygu fel prif ffynhonnell gwybodaeth am hanes a thraddodiadau ein cwr bach ni o Gymru. Mae Cof y Cwmwd yn ymdrin ag ardal yr hen gwmwd, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol Clynnog Fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda. Mae hyn yn cynnwys Dyffryn Nantlle i gyd bron hyd at Ryd-ddu ac wedyn ar hyd yr afon Gwyrfai o Ryd-ddu trwy'r Bontnewydd ac at y môr.

Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein cenedl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan, a hynny gyda help unrhyw un sydd am ymuno yn y gwaith. Hawdd iawn yw ychwnegu ffeithiau at erthygl, neu greu erthygl o'r newydd, ac rydym yn eich gwahodd yn gynnes iawn i wneud hynny.

Cewch fwy o wybodaeth am Cof y Cwmwd wrth glicio yma.


Sut i ddarllen erthygl neu ganfod ffeithiau

Defnyddiwch y blwch Chwilio ar ben y sgrîn hon, ar y dde - neu gliciwch yma i fynd at y rhestr o'r holl gategorïau o bynciau sydd ar gael. Os gwelwch eiriau lliw glas, gallwch gliciwch arnynt ac mi ewch yn syth at yr erthygl honno.


Sut i ychwanegu gwybodaeth

Er mwyn ein helpu i gael gwybodaeth fwy cyflawn am Uwchgwyrfai, dilynwch y cyfarwyddiadau isod o dan Cyfrannwch wybodaeth.

Erthyglau newydd

Uwchgwyrfai o Rosgadfan
  1. Cyfrif Deon Eglwys Gadeiriol Bangor, 1398
  2. Taxatio Lincoln 1291
  3. Asesiad Deoniaeth Arfon o'r Degwm
  4. Stent Tiroedd Esgobaeth Bangor ?1335
  5. Bae Foryd
  6. Cored Gwyrfai
  7. Gored Gwyrfai
  8. Geoffrey Trefnant
  9. Jeffrey Trefnant
  10. Sieffre Trefnant
  11. Gored Beuno
  12. Gwyddeint
  13. Clynnog Fechan
  14. Moweddus
  15. Siarter Eglwys Clynnog Fawr
  16. Maengwyn, Llanwnda
  17. Grace Gwyneddon Davies
  18. Robert Gwyneddon Davies
  19. Glan Peris
  20. Griffith G. Jones (Glan Peris)
  21. Seindorf Moeltryfan
  22. Solomon Jones
  23. Alaw Cadfan
  24. Dr Henry Howell Parry
  25. Henry Howell Parry
  26. Digbeth Terrace
  27. Rhes Digbeth
  28. Tafarn y Blue Lion
  29. Pentre Uchaf, Y Bontnewydd
  30. Sign
  31. Black Lion, Y Bontnewydd
  32. Black Lion Inn, Y Bontnewydd
  33. Tafarn y Llew Du
  34. David Williams, Fern Villa
  35. Y Bryn
  36. Y Bryn, Llanwnda
  37. Cae Sais, Llanwnda
  38. Fern Villa
  39. Fern Villa, Llanwnda
  40. Bryn Crach


Cyfrannwch wybodaeth

Uwchgwyrfai o Fwlch yr Eifl

Gwefan yw Cof y Cwmwd a fydd yn tyfu, gyda'ch help chi, i fod yn brif ffynhonnell hanes Uwchgwyrfai. Mae'n hawdd i unrhyw un gyfrannu o'i wybodaeth bersonol neu yn sgîl ei ymchwil, ar yr amod nad yw'n torri hawlfraint eraill ac yn derbyn yr ychydig gyfyngiadau arferol angenrheidiol. Yn fwy na hynny, mae arnom wir angen eich cyfraniadau er mwyn sicrhau y bydd Cof y Cwmwd yn cynnwys pob elfen o hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal. Cyflwynwch eich gwybodaeth; dyna sut y daw ffeithiau newydd i'r golwg.

Am fwy o wybodaeth am gyfrannu erthygl neu ychwanegu/cywiro ffeithiau, cliciwch yma.

Yn fwy na dim, mentrwch! Ni ellir gwneud dim i'r wefan nad yw'n bosibl ei wrthdroi.


Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

Dyma'r ganolfan yng nghwmwd Uwchgwyrfai sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro. Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon.

Elusen gofrestredig yw Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.

Ewch i brif wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am fanylion llawn a'r newyddion diweddaraf.

Iaith Cof y Cwmwd

Ffynhonnell o wybodaeth Gymraeg ei hiaith yw Cof y Cwmwd. Mae erthyglau Cymraeg am rai elfennau o hanes Uwchgwyrfai ar gael hefyd ar Wicipedia Cymraeg - ac wrth gwrs mewn ieithoedd eraill ar Wikipedia. Cofiwch hefyd fod modd i ffrindiau di-Gymraeg fentro cael cyfieithiad (o ryw fath!) o erthyglau Cof y Cwmwd trwy ddefnyddio Google Translate.

A oes gennych sylwadau?

Mae modd rhoi sylwadau am unrhyw dudalen trwy ddefnyddio'r botwm Sgwrs ar ben erthygl (mae un ar dop y dudalen hon, er enghraifft). Ond os yw'n well gennych anfon e-bost, gallwch gysylltu â rheolwyr Cof y Cwmwd trwy yrru e-bost at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net .