Inclein Bryngwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Inclein Bryngwyn''' yn cysylltu [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn]], gorsaf olaf [[Cangen Bryngwyn]] [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]], gyda'r chwareli llechi ar lethrau [[Moel Tryfan]] ac ardal [[Y Fron]]. Defnyddiodd y chwareli hyn draciau'r un | Roedd '''Inclein Bryngwyn''' yn cysylltu [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn]], gorsaf olaf [[Cangen Bryngwyn]] [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]], gyda'r chwareli llechi ar lethrau [[Moel Tryfan]] ac ardal [[Y Fron]]. Defnyddiodd y chwareli hyn draciau'r un lled â Rheilffordd Cul Gogledd Cymru, ac felly roedd modd i wagenni deithio'r holl ffordd o'r chwarel i'r cei drawslwytho yng [[Ngorsaf reilffordd Dinas]]. Byddid yn gollwng y wagenni llawn i lawr yr inclein ar draws y tir comin trwy ddefnyddio rhaffau a reolid gan ddrwm weindio, a thynnu'r rhai gweigion yn ôl yr un ffordd. Roedd seidins yng ngorsaf Bryngwyn lle arhosai'r wagenni nes bod trên nwyddau yn eu casglu. | ||
Tua phen yr inclein, croesai'r lôn rhwng [[Rhosgadfan]] a [[Bwlch-y-llyn]] y cledrau ar bont a elwid [[Pont y Reil]]. | Tua phen yr inclein, croesai'r lôn rhwng [[Rhosgadfan]] a [[Bwlch-y-llyn]] y cledrau ar bont a elwid [[Pont y Reil]]. |
Fersiwn yn ôl 15:17, 20 Ionawr 2022
Roedd Inclein Bryngwyn yn cysylltu Gorsaf reilffordd Bryngwyn, gorsaf olaf Cangen Bryngwyn Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, gyda'r chwareli llechi ar lethrau Moel Tryfan ac ardal Y Fron. Defnyddiodd y chwareli hyn draciau'r un lled â Rheilffordd Cul Gogledd Cymru, ac felly roedd modd i wagenni deithio'r holl ffordd o'r chwarel i'r cei drawslwytho yng Ngorsaf reilffordd Dinas. Byddid yn gollwng y wagenni llawn i lawr yr inclein ar draws y tir comin trwy ddefnyddio rhaffau a reolid gan ddrwm weindio, a thynnu'r rhai gweigion yn ôl yr un ffordd. Roedd seidins yng ngorsaf Bryngwyn lle arhosai'r wagenni nes bod trên nwyddau yn eu casglu.
Tua phen yr inclein, croesai'r lôn rhwng Rhosgadfan a Bwlch-y-llyn y cledrau ar bont a elwid Pont y Reil.
Mae olion yr inclein i'w gweld hyd heddiw ar ochr y bryn uwchben y Bryngwyn er bod y bont wedi hen ddiflannu.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma