Tramffordd y Fron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Tramffordd y Fron''' yn gledrffordd drac cul, tua 2'0" rhwng y cledrau a adeiladwyd rywbryd rhwng diwedd 1877 a 1881 (pan gafodd brydles i adeiladu lein, | Roedd '''Tramffordd y Fron''' yn gledrffordd drac cul, tua 2'0" rhwng y cledrau, a adeiladwyd rywbryd rhwng diwedd 1877 a 1881 (pan gafodd brydles i adeiladu lein, ar ôl gwneud hynny o bosibl) i gludo llechi o [[Chwarel Braich]], [[Chwarel y Fron]] a chwareli eraill yng nghyffiniau'r [[Y Fron|Fron]] at ben yr inclein a redai i lawr at [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru|Reilffyrdd Cul Gogledd Cymru]] yn yr [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn|orsaf]] yn y Bryngwyn, o ba le y teithiai'r wagenni i'r gyffordd yn [[Gorsaf reilffordd Dinas|Dinas]]. Yn y fan honno, trosglwyddid y llwythi o lechi i dryciau'r lein fawr. Mae'n debyg fod injian stêm yn cael ei defnyddio i dynnu'r wagenni rhwng y chwarel a'r inclein; yn sicr, roedd gan Chwarel y Fron ddwy os nad tair injian o 1878 ymlaen.<ref>V.J. Bradley, ''Industrial Locomotives of North Wales'', (London, 1992), tt.262-3.</ref> | ||
Cyn hyn, roedd [[Tramffordd John Robinson]] wedi cludo llechi'r Fron at Reilffordd Nantlle, ond roedd y dramffordd newydd, a ddefnyddiai'r un lled yr holl ffordd o wyneb y graig a'r melinau hyd at orsaf Dinas, yn fwy hwylus. | Cyn hyn, roedd [[Tramffordd John Robinson]] wedi cludo llechi'r Fron at Reilffordd Nantlle, ond roedd y dramffordd newydd, a ddefnyddiai'r un lled yr holl ffordd o wyneb y graig a'r melinau hyd at orsaf Dinas, yn fwy hwylus. | ||
Rhedai'r lein ar hyd prif stryd y Fron, heibio [[Bwlch-y-llyn]] a thrwy gytin neu hafn a welir hyd heddiw, cyn ymuno ger pen yr inclein â'r tramffyrdd a | Rhedai'r lein ar hyd prif stryd y Fron, heibio [[Bwlch-y-llyn]] a thrwy gytin neu hafn a welir hyd heddiw, cyn ymuno ger pen yr inclein â'r tramffyrdd a ddeuai o [[Chwarel Moel Tryfan]], [[Chwarel Cors-y-bryniau]] a [[Chwarel Alexandra]] yng nghyffiniau [[Rhosgadfan]].<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), tt.217, 228.</ref> | ||
Roedd y dramffordd yn cael ei defnyddio tra oedd Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru'n weithredol, efallai mor hwyr â 1937. Mae map Ordnans a gyhoeddwyd ym 1919 yn dangos y traciau, ond erbyn y map nesaf a gyhoeddwyd ym 1953 (ac wedi cael ei ddiweddaru cyn 1949) roedd y traciau wedi eu codi. | Roedd y dramffordd yn cael ei defnyddio tra oedd Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru'n weithredol, efallai mor hwyr â 1937. Mae map Ordnans a gyhoeddwyd ym 1919 yn dangos y traciau, ond erbyn y map nesaf a gyhoeddwyd ym 1953 (ac wedi cael ei ddiweddaru cyn 1949) roedd y traciau wedi eu codi. |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:24, 21 Ionawr 2022
Roedd Tramffordd y Fron yn gledrffordd drac cul, tua 2'0" rhwng y cledrau, a adeiladwyd rywbryd rhwng diwedd 1877 a 1881 (pan gafodd brydles i adeiladu lein, ar ôl gwneud hynny o bosibl) i gludo llechi o Chwarel Braich, Chwarel y Fron a chwareli eraill yng nghyffiniau'r Fron at ben yr inclein a redai i lawr at Reilffyrdd Cul Gogledd Cymru yn yr orsaf yn y Bryngwyn, o ba le y teithiai'r wagenni i'r gyffordd yn Dinas. Yn y fan honno, trosglwyddid y llwythi o lechi i dryciau'r lein fawr. Mae'n debyg fod injian stêm yn cael ei defnyddio i dynnu'r wagenni rhwng y chwarel a'r inclein; yn sicr, roedd gan Chwarel y Fron ddwy os nad tair injian o 1878 ymlaen.[1]
Cyn hyn, roedd Tramffordd John Robinson wedi cludo llechi'r Fron at Reilffordd Nantlle, ond roedd y dramffordd newydd, a ddefnyddiai'r un lled yr holl ffordd o wyneb y graig a'r melinau hyd at orsaf Dinas, yn fwy hwylus.
Rhedai'r lein ar hyd prif stryd y Fron, heibio Bwlch-y-llyn a thrwy gytin neu hafn a welir hyd heddiw, cyn ymuno ger pen yr inclein â'r tramffyrdd a ddeuai o Chwarel Moel Tryfan, Chwarel Cors-y-bryniau a Chwarel Alexandra yng nghyffiniau Rhosgadfan.[2]
Roedd y dramffordd yn cael ei defnyddio tra oedd Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru'n weithredol, efallai mor hwyr â 1937. Mae map Ordnans a gyhoeddwyd ym 1919 yn dangos y traciau, ond erbyn y map nesaf a gyhoeddwyd ym 1953 (ac wedi cael ei ddiweddaru cyn 1949) roedd y traciau wedi eu codi.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma