Bandiau Cwmwd Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
O ddeg band Cwmwd [[Uwchgwyrfai]], dau yn unig sy'n dal yn fyw ac yn ymarfer yn gyson - dau fand sydd bron iawn yr un oedran, ac fel mae'n digwydd, dau fand hyna'r cwmwd: | O ddeg band Cwmwd [[Uwchgwyrfai]], dau yn unig sy'n dal yn fyw ac yn ymarfer yn gyson - dau fand sydd bron iawn yr un oedran, ac fel mae'n digwydd, dau fand hyna'r cwmwd: | ||
[[Seindorf Arian Trefor|Band Trefor]] (sefydlwyd ym 1863) a Seindorf Arian Dyffryn Nantlle - neu Band Nantlle (sefydlwyd ym 1865). | [[Seindorf Arian Trefor|Band Trefor]] (sefydlwyd ym 1863) a [[Seindorf Arian Dyffryn Nantlle]] - neu Band Nantlle (sefydlwyd ym 1865). | ||
[[Categori:Bandiau]] | [[Categori:Bandiau]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:09, 24 Tachwedd 2022
Dyma restr (yn nhrefn yr wyddor) o enwau Bandiau Cwmwd Uwchgwyrfai (bandiau pres) a fu neu sydd mewn bodolaeth ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg :
1. Band Deulyn (Baladeulyn)
2. Band Dolydd
3. Seindorf Dulyn (Nebo)
4. Band Ceidwadwyr Pen-y-groes
5. Band Gwirfoddolwyr Pen-y-groes
6. Band Moeltryfan (Rhosgadfan)
7. Band Nantlle (Tal-y-sarn)
8. Band Llyfnwy (Llanllyfni)
10. Band Uwchllifon (Carmel)
Diflannodd Dolydd, Dulyn, dau fand Pen-y-groes ac Uwchllifon, cyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Diflannodd Deulyn a Llyfnwy yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Diflannodd Cadfan ym 1947 wedi iddo ymuno â Seindorf Arian Dyffryn Nantlle i gystadlu'n aflwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn y flwyddyn honno dan arweiniad Alfred Henderson, Nantlle.
O ddeg band Cwmwd Uwchgwyrfai, dau yn unig sy'n dal yn fyw ac yn ymarfer yn gyson - dau fand sydd bron iawn yr un oedran, ac fel mae'n digwydd, dau fand hyna'r cwmwd: Band Trefor (sefydlwyd ym 1863) a Seindorf Arian Dyffryn Nantlle - neu Band Nantlle (sefydlwyd ym 1865).