Tramffordd y Fron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Tramffordd y Fron''' yn gledrffordd drac cul, tua 2'0" rhwng y cledrau a adeiladwyd rywbryd rhwng diwedd 1877 a 1881 (pan gafodd brydles i adeiladu lein, arol gwneud hynny o bosibl) i gludo llechi o [[Chwarel Braich]], [[Chwarel y Fron]] a chwareli eraill yng nghyffiniau'r [[Y Fron|Fron]] at ben yr inclein a redodd i lawr at [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru|Reilffyrdd Cul Gogledd Cymru]] yn yr [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn|orsaf]] yn y Bryngwyn, o ba le y teithiai'r wagenni i'r gyffordd yn [[Gorsaf reilffordd Dinas|Dinas]]. Yn y fan honno, trosglwyddid y llwythi o lechi i dryciau'r lein fawr. Mae'n debyg fod injian stêm yn cael ei ddefnyddio i dynnu'r wagenni rhwng y chwarel a'r inclein; yn sicr, roedd gan Chwarel y Fron ddwy os nad tair injian o 1878 ymlaen.<ref>V.J. Bradley, ''Industrial Locomotives of North Wales'', (London, 1992), tt.262-3.</ref>  
Roedd '''Tramffordd y Fron''' yn gledrffordd drac cul, tua 2'0" rhwng y cledrau, a adeiladwyd rywbryd rhwng diwedd 1877 a 1881 (pan gafodd brydles i adeiladu lein, ar ôl gwneud hynny o bosibl) i gludo llechi o [[Chwarel Braich]], [[Chwarel y Fron]] a chwareli eraill yng nghyffiniau'r [[Y Fron|Fron]] at ben yr inclein a redai i lawr at [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru|Reilffyrdd Cul Gogledd Cymru]] yn yr [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn|orsaf]] yn y Bryngwyn, o ba le y teithiai'r wagenni i'r gyffordd yn [[Gorsaf reilffordd Dinas|Dinas]]. Yn y fan honno, trosglwyddid y llwythi o lechi i dryciau'r lein fawr. Mae'n debyg fod injian stêm yn cael ei defnyddio i dynnu'r wagenni rhwng y chwarel a'r inclein; yn sicr, roedd gan Chwarel y Fron ddwy os nad tair injian o 1878 ymlaen.<ref>V.J. Bradley, ''Industrial Locomotives of North Wales'', (London, 1992), tt.262-3.</ref>  


Cyn hyn, roedd [[Tramffordd John Robinson]] wedi cludo llechi'r Fron at Reilffordd Nantlle, ond roedd y dramffordd newydd, a ddefnyddiai'r un lled yr holl ffordd o wyneb y graig a'r melinau hyd at orsaf Dinas, yn fwy hwylus.
Cyn hyn, roedd [[Tramffordd John Robinson]] wedi cludo llechi'r Fron at Reilffordd Nantlle, ond roedd y dramffordd newydd, a ddefnyddiai'r un lled yr holl ffordd o wyneb y graig a'r melinau hyd at orsaf Dinas, yn fwy hwylus.


Rhedai'r lein ar hyd prif stryd y Fron, heibio [[Bwlch-y-llyn]] a thrwy cytin neu hafn a welir hyd heddiw, cyn ymuno ger pen yr inclein â'r tramffyrdd a ddeiai o [[Chwarel Moel Tryfan]], [[Chwarel Cors-y-bryniau]] a [[Chwarel Alexandra]] yng nghyffiniau [[Rhgosgadfan]].<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), tt.217, 228.</ref>
Rhedai'r lein ar hyd prif stryd y Fron, heibio [[Bwlch-y-llyn]] a thrwy gytin neu hafn a welir hyd heddiw, cyn ymuno ger pen yr inclein â'r tramffyrdd a ddeuai o [[Chwarel Moel Tryfan]], [[Chwarel Cors-y-bryniau]] a [[Chwarel Alexandra]] yng nghyffiniau [[Rhosgadfan]].<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), tt.217, 228.</ref>


Roedd y dramffordd yn cael ei defnyddio tra oedd Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru'n weithredol, efallai mor hwyr â 1937. Mae map Ordnans a gyhoeddwyd ym 1919 yn dangos y traciau, ond erbyn y map nesaf a gyhoeddwyd ym 1953 (ac wedi cael ei ddiweddaru cyn 1949) roedd y traciau wedi eu codi.  
Roedd y dramffordd yn cael ei defnyddio tra oedd Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru'n weithredol, efallai mor hwyr â 1937. Mae map Ordnans a gyhoeddwyd ym 1919 yn dangos y traciau, ond erbyn y map nesaf a gyhoeddwyd ym 1953 (ac wedi cael ei ddiweddaru cyn 1949) roedd y traciau wedi eu codi.  

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:24, 21 Ionawr 2022

Roedd Tramffordd y Fron yn gledrffordd drac cul, tua 2'0" rhwng y cledrau, a adeiladwyd rywbryd rhwng diwedd 1877 a 1881 (pan gafodd brydles i adeiladu lein, ar ôl gwneud hynny o bosibl) i gludo llechi o Chwarel Braich, Chwarel y Fron a chwareli eraill yng nghyffiniau'r Fron at ben yr inclein a redai i lawr at Reilffyrdd Cul Gogledd Cymru yn yr orsaf yn y Bryngwyn, o ba le y teithiai'r wagenni i'r gyffordd yn Dinas. Yn y fan honno, trosglwyddid y llwythi o lechi i dryciau'r lein fawr. Mae'n debyg fod injian stêm yn cael ei defnyddio i dynnu'r wagenni rhwng y chwarel a'r inclein; yn sicr, roedd gan Chwarel y Fron ddwy os nad tair injian o 1878 ymlaen.[1]

Cyn hyn, roedd Tramffordd John Robinson wedi cludo llechi'r Fron at Reilffordd Nantlle, ond roedd y dramffordd newydd, a ddefnyddiai'r un lled yr holl ffordd o wyneb y graig a'r melinau hyd at orsaf Dinas, yn fwy hwylus.

Rhedai'r lein ar hyd prif stryd y Fron, heibio Bwlch-y-llyn a thrwy gytin neu hafn a welir hyd heddiw, cyn ymuno ger pen yr inclein â'r tramffyrdd a ddeuai o Chwarel Moel Tryfan, Chwarel Cors-y-bryniau a Chwarel Alexandra yng nghyffiniau Rhosgadfan.[2]

Roedd y dramffordd yn cael ei defnyddio tra oedd Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru'n weithredol, efallai mor hwyr â 1937. Mae map Ordnans a gyhoeddwyd ym 1919 yn dangos y traciau, ond erbyn y map nesaf a gyhoeddwyd ym 1953 (ac wedi cael ei ddiweddaru cyn 1949) roedd y traciau wedi eu codi.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), tt.262-3.
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.217, 228.