David John Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

David John Williams (1881-1966) oedd sylfaenydd Gwaith Haearn Brunswick yng Nghaernarfon. Gŵr o Fethesda ydoedd, a'i rieni'n hanu o Lanfachraeth, Môn. Ar ôl treulio prentisiaeth yn Lerpwl, a chyfnod arall fel prentis i of gwaith haearn celfyddydol ym Manceinion, dychwelodd i Sir Gaernarfon ym 1906, gan rentu gefail fach yn Y Bontnewydd nid nepell o Felin Bontnewydd, ychydig lathenni o fewn ffiniau cwmwd Uwchgwyrfai - dyna pam y gellir ei gynnwys yn Cof y Cwmwd. Erbyn 1909, fodd bynnag, roedd wedi chwilio am efail fwy, a rhentu adeilad ger Porth-yr-aur yng Nghaernarfon, a symud yn y man o'r safle honno i'r Cei Llechi.

Roedd yn gyfrifol am lawer o waith addurniadol pwysig, yn cynnwys y gwaith metel o gwmpas Castell Caernarfon, bedd yr arwr anhysbys yn Abaty Westminster a bedd David Lloyd George. Gwnaeth lawer o waith metel llai amlwg ar gyfer yr ardal hefyd, megis pontydd ar Reilffordd Ucheldir Cymru. Fe'i dilynwyd yn y gwaith gan ei fab Harold Williams, ac yntau wedyn gan ŵyr David John, Meurig Williams, sydd yn byw yn Llanwnda o fewn ffiniau'r cwmwd.[1]

Cyfeiriadau

  1. Pamela Smith, Craftsmen to Kings, Prime Ministers, Engineers and the Unknown Warrior - the story of the Brunswick Ironworks, Caernarfon, (Wrddymbre, 2020), passim