Melin y Bont Newydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Melin Bontnewydd)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Melin y Bont Newydd oedd enw arall a arferid yn lleol ar Felin Bodellog yn yr 17g., pan gynhaliwyd achosion llys ynglŷn â hawliau perchnogion y felin. Gweler dan yr enw hwnnw am fanylion pellach. Fe'i galwyd yn Felin-y-groes hefyd. Cafodd ei hadeiladu fel melin yr Arglwydd lleol yn yr Oesoedd Canol , ond roedd wedi diflannu, mae'n debyg, erbyn blynyddoedd cynnar y 19g.[1]

Codwyd melin newydd yn Y Bontnewydd ddechrau'r 19g. gan bedwar o ddynion yn cynnwys Morris neu Morus Roberts.[2]. Melinydd oedd Morris wrth ei alwedigaeth. Yn ei ewyllys, dyddiedig 1823, mae'r Parch. Evan Richardson, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn nhref Caernarfon, yn nodi ei fod yn un bump prydlesddaliwr y felin ac, wedi ei farwolaeth ym 1825, roedd ei restr eiddo'n nodi mai gwerth ei gyfran oedd £100, sef hanner ei holl gyfoeth.[3] Mae hyn yn rhoi rhyw argraff o ba mor werthfawr oedd hawliau a chyfarpar malu grawn.

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), t. 125.
  2. W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), t.131
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Dogfennau Profiant Bangor, B/1825/104/W ac I