Cwellyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwellyn yw enw plasty bach sydd yn sefyll wrth ben uchaf Llyn Cwellyn. Mae'r llyn, a hefyd Pont Cwellyn ac Afon Cwellyn, wedi'u henwi, mae'n debyg, oddi wrth y plasty sydd bellach yn fferm. Mae Cwellyn yn sefyll yn y darn pellaf o hen blwyf Llanwnda, sydd bellach yn rhan o blwyf Betws Garmon ar gyrion mwyaf dwyreiniol Uwchgwyrfai. Yr oedd gan y teulu ystad fechan yng nghyffiniau'r llyn.

Sylfaenydd y teulu a ymsefydlodd yng Nghwellyn, gan fabwysiadu'r enw fel cyfenw ar y teulu, oedd Gruffydd ap Tudur Goch o Blas Nantlle.[1]

Disgrifiwyd y plasty tua 1810 fel "a very mean building", a oedd gynt yn nwylo teulu Cwellyn ond a oedd, erbyn hynny, wedi cael perchnogion newydd.[2]

Roedd y teulu a oedd wedi mabwysiadu'r cyfenw Quellyn wedi symud o'r plasty rywbryd yn ystod y 18g, efallai i fferm arall, Cwm Bychan, yn yr un plwyf. Rywbryd cyn 1792, roedd ffermwr o'r enw William Jones wedi cymryd y lle ar brydles. Mae rhestr o'i eiddo pan fu farw yn dangos ei fod yn ffermwr ar raddfa weddol fawr o ystyried y cyfnod[3]. Roedd 5 ystafell yn y tŷ, a'r dodrefn yno'n werth £21.19.0c, ynghyd â gwerth £4.5.0c o fenyn. Roedd yno 100 o ddefaid a 35 o ŵyn, gwerth £36.2.6c i gyd; tarw gwerth £4.3.0c, 10 o fuchod, 10 o fustych, 10 llo blwydd a 9 o loi dwyflwydd, gwerth £108.9.0c; mochyn, gwair, offer fferm a llo arall (a restrwyd ar wahân am ryw reswm - eiddo oedd yn werth £208.9.0c i gyd. Roedd hyn yn swm nid ansylweddol i ffarmwr ar y pryd.

Mae J.E. Griffith wedi awgrymu, ar ba sail ni wyddys, mai ystyr Cwellyn yw Cae-uwch-llyn[4], ond mae Glenda Carr o'r un farn â'r Athro J. Lloyd-Jones, sef ei fod yn dalfyriad o'r geiriau cawell a llyn i greu Cawellyn.[5]

Cymerodd y teulu eu cyfenw oddi wrth y lle - un o'r ychydig deuluoedd yn Uwchgwyrfai a wnaeth hynny (ar wahân i deulu Glynllifon).


Cyfeiriadau

  1. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 172, 229
  2. Edmund Hyde-Hall, ‘’A Description of Caernarvonshire’’, (Caernarfon, 1952), t.205.
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1792/86
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.229
  5. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2011), t.130.