Tudur Goch ap Grono

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Tudur Goch)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Tudur Goch ap Grono (neu Goronwy) yn un o briodorion (deiliaid tir) Gwely Wyrion Ystrwyth yn nhrefgordd Dinlle, gan ei fod wedi ei enwi felly mewn stent (arolwg) o Uwchgwyrfai dyddiedig 13 Gorffennaf 1352.[1]

Roedd o'n ddisgynydd i Gilmin Droed-ddu, trwy Ystrwyth ab Ednywain. Ym 1352,[2] fe briododd â'i chweched chyfnither, Morfudd ferch Howel ferch Iorwerth Fychan, yntau hefyd o linach Cilmin, trwy Morgeneu Ynad; daeth honno â thiroedd Glynllifon iddo. Roedd yn dad i Hwlcyn Llwyd, y cyntaf o'r teulu y gwyddys i sicrwydd i fyw yng Nglynllifon. Roedd ganddo ddau fab iau hefyd, sef Gruffydd, sylfaenydd teulu Cwellyn a William.[3]

Cafodd Tudur Goch ei eni tua 1310-20, a dywedir iddo arwain mintai gref, meddir, o 12000 o Gymry i ymladd ochr yn ochr â'r Saeson dan y Brenin Iorwerth III ym mrwydr Crécy (1346) - er i haneswyr modern amcangyfrif mai tua 10-11000 oedd cyfanswm byddin Lloegr yno[4]; bu hefyd efo'r Tywysog Du ym 1356 mewn ymgyrch ym Mhoitiers, Ffrainc. Oherwydd ei deyrngarwch fe gafodd chwe "carucate" neu efallai 720 erw o dir ym Maladeulyn, Nantlle, tir a gipiwyd oddi ar Tudur ap Einion gan Iorwerth I yn ystod rhyfeloedd 1282-4. [5] ac fe gododd hwnnw gartref iddo fo ei hun, sef Plas Nantlle.[6]

Brwydr Crécy. Y Cymry yw'r milwyr gyda bwâu saethu hir ar y dde

Credir iddo godi plasty ar y tir hwn a ddaeth yn gartref cangen Nantlle o deulu Glynniaid ymhen canrifoedd.[7] Mae'r tŷ presennol ar y safle, Tŷ Mawr, Nantlle, yn olynydd i dŷ Tudur Goch, a godwyd tua 1545.[8]


Cyfeiriadau

  1. W Ogwen Williams, A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records, (Caernarfon, 1956), t.248.
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.262.
  3. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 172
  4. Wikipedia[1], adalwyd 19.07.2018
  5. W. Gilbert Williams, Glyniaid Glynllifon (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33
  6. Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.26
  7. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.172.
  8. Gwefan Discovering Old Welsh Houses [2], adalwyd 19.07.2018