Hwlcyn Llwyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Hwlcyn Llwyd (marw 1403) oedd y cyntaf o'i deulu y gallwn fod yn sicr iddo fyw ym mhlasty Glynllifon. Roedd yn fab i Tudur Goch o Blas Nantlle a'i wraig Morfudd ferch Hywel, ei chweched cyfnither ac aeres Glynllifon. Ni wnaeth Hwlcyn ochri gydag Owain Glyndŵr yn ystod ei wrthryfel am annibyniaeth yn erbyn y Saeson, ond yn hytrach bwriodd ei goelbren gyda Brenin Lloegr. Cafodd y swyddogaeth, dan William de Tranmere, uchel swyddog y brenin, o warchod Castell Caernarfon rhag Glyndŵr ac yno y bu farw ym 1403.[1]

Priododd â Nest ferch Cynwrig ap Meredydd Ddu, Porthamel, Ynys Môn, a chafwyd nifer o blant: Meredydd, Nest, Alswn, Tudur a Gwenhwyfar ac o leiaf un ferch arall, y bu i'r cwbl ohonynt briodi. Tudur a sefydlodd deulu Brynbychan, Nantlle.

Yr oedd Hwlcyn yn frawd i Gruffydd ap Tudur Goch, sylfaenydd teulu Cwellyn. Ni ddylid ei gymysgu gyda Hwlcyn Llwyd arall, a oedd yn delynor a gymerodd rhan yn nwy Eisteddfod Caerwys yn y 16g.

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.262