Teulu Glynn (Glynllifon)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Glynniaid Glynllifon)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Teulu a ymsefydlodd ar lan Afon Llifon, ger Llandwrog oedd y Glynniaid. Maent yn ddisgynyddion i Cilmin Droed-ddu, yr honnir iddo ymsefydlu ger yr afon yn ystod y 9g. Mae’r teulu wedi datblygu dros y blynyddoedd i fod yn rhai o berchnogion yr ystadau mwyaf cefnog yng Ngogledd Cymru. Daeth yr ystâd i ddwylo Thomas Wynn, Boduan trwy ei briodas â Frances Glynn, merch John Glynn.

Am hanes llawn y teulu, gweler yr erthygl ar Teulu Glynllifon.